Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

rhwym

rhwym

Mae cwestiwn dylanwad yn rhwym o wynebu unrhyw hanesydd llên sy'n ymwneud â'r 'rhieingerddi' ac nid yw'n syn ei gael yn dangos yr un math, onid yr union un gochelgarwch â T Gwynn Jones wrth ei ateb.

A yw'r Cristion yn rhwym o geisio cyflawni amodau'r briodas?

Ymddengys i ni y buasai unrhyw weinidog yn y wlad hon a ymddygai fel y gwnâi Mr Jones yn rhwym o osod ei hun yn agored i ddisgyblaeth lem.

rhwym o ymateb iddo.

Fel yr oedd teimladau'n poethi, a pherygl i'r Rhyddfrydwyr dynnu'n ôl, daeth yr Henadur William George i'r adwy ac apelio at ei blaid ail ystyried a rhoi'r Ymgyrch, fel yr awgrymasai Plaid Cymru, yn llaw mudiad unol nad oedd yn rhwym wrth na phlaid nac enwad, cyngor na mudiad o unrhyw fath.

Y mae'r Cristion yn rhwym o barchu a chefnogi ymdrech dyn i gadw neu sicrhau ei hunaniaeth a'i urddas gan i Grist roi'r fath werth ar y person dynol.

Serch hynny, erys y ffaith eu bod yn rhwym dan gyfraith gwlad i gadw cwningod o dan reolaeth.

Tuedd y rhan fwyaf o lenorion Lloegr, hyd at yr Oes Ramantaidd, fu ystyried fod popeth Groeg a Rhufeinig yn rhwym o fod yn well na'r dulliau brodorol; ond yr oedd y Cymry, mewn cyferbyniad, yn dueddol o edrych ar farddoniaeth Gymraeg fel traddodiad clasurol arall, a oedd yn llawn mor hynafol yn ei wreiddiau, yn llawn mor gaeth a ffurfiol, an yn llawn mor deilwng o barch ac astudiaeth â'r traddodiad Groeg a Rhufeinig.

Yr oedd cynnwys y gerdd yn rhwym o ysgogi teimladau cymysg.

Y mae deall sut y mae llong â'i phen wedi ei blannu yng ngwely'r môr yn gallu gwrthsefyll grymusterau organig a mecanyddol yn dal i fod yn gryn ddirgelwch ond yn ddirgelwch, pe'i datrysir, sy'n rhwym o ddweud cymaint am yr hyn a ddigwydd i beirianwaith tanfor diwydiannau y dyfodol ag am draddodiadau morwrol y gorffennol.

"Y mae gwraig yn rhwym wrth y gyfraith tra byddo ei gŵr yn fyw." Os yw "ded¶tai% yn cyfeirio at gwlwm priodas, byddem yn disgwyl i "ou ded¶tai% (nid yn rhwym) olygu'r gwrthwyneb, sef rhyddid o'r cwlwm priodas.