Mae prif thema La Queste a Perlesvaus yn sylfaenol debyg, ac yn sawru o Gristnogaeth asetig: er mai marchogion llys Arthur yw'r gorau yn y byd, mae eu diffygion moesol yn eu rhwystro rhag cyflawni'r gamp uchaf oll a chanfod y Greal; cedwir y fraint arberlnig honno i farchog ysbrydol a moesol berffaith, sef Persifal (cefnder cyfandirol Peredur y traddodiad Cymreig) yn Perlesvaus, a Galaad neu Galaath (sy'n fwy cyfarwydd bellach fel Galahad), arwr newydd sbon a ddyfeisiwyd yn arbennig ar gyfer y dasg yn La Queste.
I, ddim yn nabod neb a dieithrwch gwlad newydd i gyd yn ein rhwystro rhag parhau â'r gwaith.
Mi awn ni i lawr y llethr a'u rhwystro nhw rhag croesi'r ceunant.
Gwyddwn fod rhwystrau, megis pryder, ofn, casineb, cenfigen ac anfodlonrwydd, yn gallu rhwystro'r unigolyn rhag derbyn iachâd.
Hon fydd yn galluogi'r car i anfon gwefr i fatri'r garafan pan fyddwch yn teithio - sy'n hanfodol os nad oes trydan yn y garafan - ond mae hefyd yn rhwystro batri'r garafan rhag sugno bartri'r car.
Cawn Kate Roberts, yn ei beirniadaeth, yn eu rhybuddio i gofio y gallai gormod ohonynt dagu'r arddull a rhwystro'r darllenydd rhag
Y mae'r tair merch sydd heddiw, a minnau'n sgrifennu, yng ngharchar Bryste wedi eu rhwystro rhag siarad yn eu mamiaith wrth eu mamau, yn pigo cydwybodau hyd yn oed aelodau seneddol Cymreig y Blaid Lafur.
Rhyw hanner awr wedi croesi roedden nhw'n ôl, ac roedd hi'n amlwg o'u crio a'u gweiddi eu bod wedi eu rhwystro rhag mynd adref.
Sut y byddent yn rhwystro llifogydd?
Ond fe ddywedodd nad oedd am iddi hi briodi eto - y bydde fe'n 'i rhwystro hi rhag gneud hynny.
Y Prawf - Fe lwyddodd y gohebydd i fynd heibio i'r Dderbynfa a wardiau unigol lle'r oedd mamau yn bwydo'u plant ond fe gafodd ei rhwystro ddwywaith cyn cyrraedd at y brif ward ei hun.
Fe ddylent fod wedi cyrraedd ers oriau ond er iddynt gychwyn ben bore bach, cael eu rhwystro dro ar ol tro fu eu hanes.
Hyd at heddiw mae'n diffyg ni o ymwybyddiaeth cenedl, ein hamddifadrwydd ni o falchter cenedl, yn rhwystro inni amgyffred arwyddocâd ac arwriaeth yr antur ym Mhatagonia.
Nid yw hyn yn ein rhwystro rhag gofyn a all cyfansoddion carbon gael eu defnyddio i ffurfio organebau byw mewn dulliau gwahanol i'r rhai naturiol.
Mae trwch yr eira - cymaint a hanner medr o ddyfn- der - yn rhwystro'r baeddod rhag crwydro'r wlad ac felly yn eu cyfyngu i un ardal arbennig.
Beirniadwyd y ddisgyblaeth allanol yma yn aml am iddi fod yn 'allanol', a hefyd am ei bod yn rhwystro'r economi rhag rhuthro ymlaen i gyrraedd rhyw nod dymunol o dyfiant.
Yn yr un modd mae'r polisi ariannu cyhoeddus presennol yn rhwystro'r Gymdeithas rhag gweithredu rhaglen sylweddol o brynu ac adnewyddu nifer fawr o dai yn yr ardal sydd yn wag neu heb eu defnyddio llawer.
Mae'r golau hwn yn amharu ar nifer y ser y gallwn eu gweld (yn yr un modd ag y mae golau'r ystafell yn eu rhwystro rhag weld pethau tywyll y tu allan pan edrychwn allan o ystafell gyda'r nos.) Dywedwn fod golau'r lleuad yn effeithio ar ddisgleirdeb yr awyr, neu ar ba mor dywyll yw'r awyr.
Cododd ei law i geisio rhwystro'r peth rhag ei dagu, a gwelodd ugeiniau o lysywod anferth yn nofio o'i gwmpas.
Y gwir amdani ydi fod meddwl am ferched yn rhwystro dynion i ganolbwyntio ar yr hyn sydd angen ei wneud - ac mae hynny'n wir bob amser!
Dywed nad yw Dwynwen yn rhwystro godineb a chyfeiria at yr arferiad o bererindota i Ynys Llanddwyn er mwyn datrys problemau serch.
Roedd y gohebydd di-enw yn eglwyswr a Thori digymrodedd a'i holl bwrpas oedd rhwystro Datgysylltiad yr Eglwys a dadlau hawliau'r tirfeddianwyr ar draul Anghydffurfwyr, Rhyddfrydwyr, Cenedlaetholwyr, Tenantiaid a'r Wasg Gymraeg - yn enwedig Baner Thomas Gee.
Y nod oedd gweld a fyddai rhywun yn eu rhwystro neu'n holi am eu busnes.
Ond doedd hynny ddim yn ei rhwystro rhag gwneud ei gorau glas i gael cleient yn rhydd os oedd y dystiolaeth yn ei erbyn yn annigonol.
Ar ôl hir grafu pen ac ymchwilio, yr unig beth y gallem feddwl amdano oedd y drosedd o geisio camarwain a rhwystro Crwner Sir Aberteifi yn ei ddyletswydd.
Canlyniad yr achwyn oedd fod y brifathrawes wedi rhwystro Hilary rhag mynd ar y trip blynyddol i Llandudno.
Yn ogystal â lliniaru poen y galarwyr, mae'r tân yn puro, yn diheintio ac yn rhwystro afiechyd rhag ymledu.
Roedd y gynnau'n dal i gadw sŵn ond doedden nhw ddim yn rhwystro'r Ysgrifenyddion rhag cario ymlaen gyda'u gwaith.
Yr effaith yn gorfodi rhwystro 250,000 o ddefaid yng Ngogledd Cymru.
Gallech eu casglu nhw oddi ar y coed a'r llawr a 'doedd neb yn eich rhwystro chi.
"Ond chwarae teg iddyn nhw, cadwent yn glos wrthym ni'n dau rhag ofn i rywun neu rywbeth ddod i'n rhwystro rhag mynd yn ein blaenau." "Ddaru chi lwyddo i gadw'n effro wedyn?" gofynnodd Louis.
Y gwyn oedd bod Israel yn gadael i Balestiniaid adael ond eu bod yn eu rhwystro rhag dychwelyd.
Ond yn rhyfedd iawn nid yw'r anwybodaeth hon yn rhwystro Saeson i basio barn ar werth y diwylliant Cymraeg.
Gorfu arnaf roddi barau heyrn ar ffenestri'r tŷ i'w rhwystro rhag gollwng y gwyr i mewn.
Ond dwi'n saff, tasa hi wedi trio cerdded allan efo babi y basa rhywun wedi ei rhwystro."
Ystyriwch hyn: os megir cywion hwyaid o dan iâr, yr iâr honno yw eu mam ac fe'i dilynant i bobman gan ddibynnu arni'n llwyr am eu cynhaliaeth a'u diogelwch; serch hynny, yn gwbl groes i ymddygiad yr iâr, ni ellir rhwystro'r hwyaid bach rhag mynd i ddŵr a nofio ynddo.
Rhai dyddiau ynghynt, adroddodd y Press Association fod y llinellau ffôn i gyd wedi'u rhwystro gan delegramau yn galw milwyr yn ôl i'W dyletswyddau oblegid y streic.