Byddai gofyn ei drefnu a symud o gam i gam gan roi rhybudd a rhoi amser i gyfnewidiadau.
`Mae e'n frawychus.' `Efallai ...' `Efallai beth?' `Efallai mai rhybudd yw e, ac y dylsen ninnau adael hefyd.' Ni fu'r bobl yn hir cyn penderfynu.
Ar ôl rhybudd amserol a difloesgni Mr Saunders Lewis ynglyn â thynged yr iaith, fe aeth Cymdeithas yr Iaith ati i fynnu i'r Gymraeg ei phriod hawliau yn ei gwlad ei hun, ac ni wnâi ond y crintach warafun i'r mudiad hwnnw y clod am ennill yn ôl i'r iaith beth o'r bri y mae'n ei fwynhau heddiw.
Cynulleidfaoedd da drwy'r haf a'r gaeaf cyntaf hwnnw, ac yna'n sydyn ym mis Mawrth, nifer fawr o bobl ddim yn eu seddau, a finne'n methu deall beth own i wedi gwneud, beth own i wedi dweud - ai gwir rhybudd Merfyn wedi'r cyfan?
Trodd y gwarchodwr ei ben yn syth a chododd ei wn i'w ysgwydd gan roi rhybudd dros y radio yn ei helmed i'r gwarchodwyr eraill.
Ymddiheuraf fod y rhybudd yn fyr, ond bu'r ffurflenni'n hwyr iawn yn dod i law eleni.
Penderfynodd y pwyllgor (oedd yn cynnwys Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith a'r ddau Is-Gadeirydd) hefyd mai doeth fyddai pwysleisio swyddogaeth y Pwyllgor Cyllid yn ei waith o gadw trefn ar y treuliau trwy gyhoeddi rhybudd yn y London Gazette na fyddid yn anrhydeddu unrhyw ddyled os nad oedd y Pwyllgor Cyllid wedi rhoi ei fendith arno ymlaen llaw.
Yn y rhybudd enwir Iolo Morganwg, ac fe'i disgrifir fel yr unig un a oedd eisoes yn 'Fardd wrth fraint a defod Beirdd Ynys Prydain', sef, fel yr eglurodd yn ddiweddarach, un a wyddai 'Gyfrinach a Breiniau a Defodau Beirdd Ynys Prydain'.
roedd y gweithgor yn argymell parhau gyda'r canllawiau asesu, gyda rhybudd i athrawon eu dehongli yn ôl eu barn broffesiynol.
Defnyddir grisial o'r fath gan beirianwyr electroneg mewn llu o gylchedau fel rhybudd lladrad, trap radar i reoli cylfymder, neu i arwain llongau olew i borthladd.
Os na frysiwch chi, fydd dim amser i chi osod cynffon wrth chwannen, heb sôn am Anti Meg!' Fel pe bai'n ategu rhybudd y gath, dyma'r cloc yn y parlwr oddi tanom yn taro un ar ddeg.
Gellid dadlau efallai mai awgrym o foeswers sydd yma i ddarllenwyr ifanc, rhybudd rhag syrthio i'r un fagl.
Ni ellid meddwl am un ddadl gryfach nac un rhybudd dwysach.
'Roedd yr egwyddor hon wedi'i hawgrymu yn rhannol gan y rhybudd yn yr Efengylau rhag taflu perlau o flaen y moch, ac yn rhannol gan y gred bod yn rhaid cyflwyno gwirionedd yn raddol er mwyn ei amgyffred yn llawn.
Yr oedd y perchennog yn awr wedi gwneud cais i'r Cyngor ddiddymu'r Rhybudd Cau ond argymhellodd wrthod y cais.
Hwn oedd ail gyfarfod yr Uwch Bwyllgor pan fu cyfieithu ar y pryd (o'r Gymraeg i'r Saesneg). Dim ond os yw'r Uwch Bwyllgor yn cyfarfod yng Nghymru y mae aelodau yn cael siarad yn Gymraeg siwr iawn, ac mae'n rhaid iddyn nhw roi rhybudd yn Saesneg eu bod am wneud hynny, a dim ond yn Saesneg hefyd y gellir codi pwyntiau o drefn.
Roedden ni wedi dechrau amau Twm Dafis, ydych chi'n gweld, rhwng y rhybudd gwirion roddodd o inni gadw o'r ynys, a'r bechgyn yn ei weld yn dod o gyfeiriad y traeth ben bore, ac Olwen wedyn yn ei weld yn mynd a'r sachaid bwyd o un o gytiau Cri'r Wylan .
Argymhellodd beidio â gweithredu rhybudd gorfodaeth yn yr achos hwn.
Gosod Eseciel yn Wyliwr Ar ddiwedd y saith diwrnod daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud: Fab dyn, gosodais di yn wyliwr i dŷ Israel; byddi'n clywed gair o'm genau ac yn rhoi rhybudd iddynt oddi wrthyf.
Gresyn na fyddem ni wedi meddwl am hyn neithiwr.' 'Rhybudd?' meddai Iestyn.
Cododd Meurig Puw gwr y Wenallt ar ei draed i ddweud wrthynt am gofio'r hanes a chymryd sylw o'r rhybudd, gan fod pethau od iawn yn digwydd yn ein hoes ninnau hefyd.
Sef peidio â gosod dirwy, os nad yw'r drosedd yn un ddifrifol iawn, a rhoi rhybudd yn unig i'r gyrrwr.
PENDERFYNWYD (i) Gohirio gweithredu rhybudd gorfodaeth hyd nes y ceid tystiolaeth ddigonol bod datblygiad anawdurdodedig yn cymryd lle ar y safle.
Troes oleuni rhybudd y lori ymlaen a rhoes ei law ar y corn.
Geiriau yn llawn rhybudd a phryder ynglŷn â chostau cynyddol yr žyl oedd gan y ddau swyddog.
Meddyliwch mewn difrif am wynebu ei waith cyhoeddedig cyntaf, sef rhybudd aruthrol (a rhuthrol) y Llythur ir Cymru Cariadus.
Er enghraifft pan oedd ef mewn cyfyng gyngor, "Ai gwell cysgodi?" Hynny cyn amser radio, wrth gwrs, i roi rhagolygon y tywydd a rhybudd o storm ar yr arfordir.
'Ede, my dralin, 'Ow d'you feel?' 'Peidiwch a dod yn rhy agos, Mister Dafis,' oedd rhybudd y fydwraig.
Cerdd anodd ar ffurf dialog oedd y bryddest hon, ond fe lwyddodd Tom Parri-Jones i danlinellu rhybudd a wnaed gan bobl fel Saunders Lewis, sef bod derbyn yr egwyddor ' Bread before beauty' yn warth ar y genedl.
Nid yw Mrs George, mwy na'i gwr, yn ofergoelus, ond y mae'n ei holi ei hun weithiau 'ai rhybudd bach a gafodd ym maes awyr Toronto i'w hatgoffa fod y penglogau heb eu claddu?'
Nid oedd dim amdani ond ymddiheuro, â'i gynffon yn ei afl, a gollwng y bechgyn yn rhydd gyda rhybudd.
(c) Nad oedd rhybudd cau yn cael ei ddiddymu os penderfynwyd mai dyma fyddai'r ffordd fwyaf boddhaol o ddelio gyda'r eiddo.
Uniaith Almaeneg - iaith y visitors - oedd y rhybudd llefrith-ar-werth yn ymyl hafoty Funtauna, ond y bwlch ydyw'r ffin rhwng tai pren Davos a thai carreg yr Engadin, rhwng Almaeneg unigryw y Walseriaid a'r ffurf ar Reto-romaneg a elwir mor briodol yn Lladin.
ARGYMHELLWYD cadarnhau'r Rhybudd Cau a roddwyd ar yr eiddo y cyfeiriwyd ato.
Ef yn unig, yn wahanol i'r gweddill a enwyd yn y rhybudd, a oedd yn y wir olyniaeth farddol, a chanddo ef yn unig, felly, roedd yr hawl i gyflwyno'r urddau.
"Os ydych chi'n gorfod teithio naw milltir a ffeindio lle i barcio - rydych chi'n dewis rhwng hynny a gwneud rhywbeth arall." Yn ôl llefarydd ar ran Swyddfa'r Eisteddfod, roedd rhybudd wedi cael ei gyhoeddi adeg Eisteddfod Llanelwedd y byddai lle yn Nghwm-nedd yn brin ac mai'r cynta' i'r felin fyddai hi.
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg o'r farn fod yr ymchwil gan Social & Market Strategic Research yn rhybudd clir a phendant fod dyfodol y Gymraeg ym Môn yn simsan iawn.
Roedd hefyd yn rhybudd i Edward Morgan i roi'r cŵn allan yn y cefn.
Yn eu hadroddiad Her Bio-amrywiaeth rhaglen ar gyfer ymgyrch gadwriaethol ym Mhrydain ceir rhybudd bod amrywiaeth eang o blanhigion ac anifeiliaid gwyllt a'u cynefin dan fygythiad.
O ganlyniad rhoddwyd Rhybudd Cau ar yr eiddo.
A oedd o wedi synhwyro'r rhybudd yn y geiriau?
Neu, a chofio rhybudd T Gwynn Jones ynglŷn â pherygl olrhain dylanwadau, a ydyw'n bosibl fod yr un amgylchiadau ag a roes fod i ganu'r Trwbadwriaid ym Mhrofens, wedi rhoi bod i ganu tebyg neu led-debyg yng Nghymru?
ni allai 'r un ohonynt ddweud yn union beth a ddigwyddodd, ond yn sydyn gwelsant ffred yn troi wysg ei ochr a phan oeddynt ar fin gweiddi rhybudd disgynnodd ar ei gefn i 'r afon yr ochr bellaf i 'r gangen fawr ac o 'u golwg.
Dyma fynd i'w weld a derbyn cerydd llym am gymryd rhan yn y fath anfadwaith, a rhybudd nad oedd ef yn caniata/ u i fyfyrwyr y Coleg gymryd rhan mewn gwaith gwleidyddol.