Ond 'roedd hollt enfawr rhwng cyfnos rhamantiaeth y beirdd a gwawr y rhyddfrydiaeth newydd a oedd yn torri uwch y wlad.
Delfryd Tom Ellis oedd sefydlu senedd i Gymru, ond dan gochl Rhyddfrydiaeth Brydeinig.
Yn awdl 'Yr Arwr' mae elfen o adlewyrchu'r gwrthdrawiad rhwng y newydd a'r hen, rhwng gwerthoedd y Gymdeithas Wrywaidd yn Oes Victoria a rhyddfrydiaeth a delfrydiaeth newydd degawd cyntaf y ganrif.