Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

rhyddhad

rhyddhad

Wedi dweud hyn mae Rhyddhad? yn gyfrol a fyddai'n apelio at nifer o ddarllenwyr Cymru.

Er rhyddhad iddo gwelodd ddau ben yn dod i'r golwg yn y trochion dŵr o gwmpas gweddillion yr hofrennydd.

Aeth tua munud o ddistawrwydd heibio, ac ochneidiodd Morfudd mewn rhyddhad.

Dyma'i ffordd hi o gael rhyddhad.

Pe bawn i wedi aros gyda nhw yn ystod y rhyfel ei hun, fe fydden ni i gyd yn wynebu'r un arfau, yn bwyta'r un bwyd, yn rhannu'r un teimladau o ofn, rhyddhad, diflastod a rhwystredigaeth.

Roedd y profiad hwnnw, meddai, yn rhyddhad ar un ystyr.

Yr oedd Saesneg coeth Dodd a Rowley yn peri peth arswyd a rhyddhad mawr oedd cael fy nhrin yn Gymraeg gan Ifor Williams.

Bu'n rhyddhad mawr iddi weld yr heddlu yn dod i ymchwilio i'r mater.

Llew o gael rhyddhad oedd mynd ati i ysgrifennu gweithiau gwreiddiol a hefyd addasu chwedlau gwerin a ffeithiau hanesyddol, gan beri bod storm ym mynwes sawl plentyn wrth iddo fynd o antur i antur wrth droi'r tudalennau.

Cynllun Rhyddhad o Waith mewn Amgylchiadau Arbennig

Roedd y pwl o boen drosodd, casglodd Okey gyda rhyddhad.

Gwthiais yr arian dros y ffens, a rhyddhad mawr oedd ei gweld hi a'r plant yn ymuno â ni yn y diwedd yn y ciw olaf cyn y lolfa ymadael.

Pan ddaeth tymor y 'Dolig i'w derfyn y llynedd fe gawsant wared ohona' i o'r ysgol a 'dydw i'n ama' dim nad oedd yr ocheneidia' rhyddhad i'w clywed bryd hynny yn atseinio'n uchel hyd goridora' byd addysg.

'Ac mae wedi bod yn ferch dda.' Gwenai wrth weld y rhyddhad diolchgar ar wyneb fy nhad.

Rhyddhad? Casgliad o straeon byrion gan Marlis Jones.

Nid person ydyw Culhwch i Layard, ond Ego, sef craidd person, sy'n gorfod mynd ar ofyn yr Hunan, sef Arthur, i'w helpu i gyflawni'r tasgau sy'n angenrheidiol er mwyn cael rhyddhad oddi wrth ddylanwadau a hualau a osodwyd arno, neu er mwyn medru dod i delerau, a dysgu cyd-fyw, â hwy.

Ac roedd ei ddirmyg yn anos ei oddef am ei bod hi'n gwybod nad rhyddhad a deimlodd - ond siom!

Ar ôl canlyniad ddydd Sadwrn falle bydd y rhyddhad a brofodd Lloegr yn gwneud tasg y Saeson yn anoddach nag y maen nhw'n ddisgwyl.

Wrth iddi hel meddyliau fel hyn trodd ei hofn o dipyn i beth yn rhyddhad.

Caeodd ei llygaid i werthfawrogi'i rhyddhad yn llawn cyn troi oddi yno a rhoi'r gorau iddi am y dydd a'r wythnos.

"Mae'n debyg ei fod yn rhyddhad ichi wybod nad oedd gen i ddim byd gwaeth mewn golwg," meddai'n ddirmygus.

Trosiad amlwg iawn oedd y rhyddhad o gaethiwed.

Mae nhw'n gallu chwerthin, becso a mwynhau'r rhyddhad pan fo dihangfa'n dod.

Na'r rhyddhad o'i chlywed yn dychwelyd gartre bob pnawn.

A dyma fynegi'r rhyddhad o'i gael,

Cwtogodd yr ynadon ar yr iawndal i'r Coleg trwy orchymyn o'r diffynyddion dalu £300 yr un i'r Coleg a £25 yr un at gostau cyfreithiol (1/3 o'r swm a hawliwyd gan yr erlyniad). Gwnaeth y ddau ddiffynydd dorri'r rhyddhad amodol yn syth gan ymuno ag aelodau o Gymdeithas yr Iaith i dorri darn o dir i blannu coeden afal o flaen prif fynedfa'r C.C.T.A. ym Mhibwrlwyd fel symbol o'r angen am gychwyn newydd.

Yn wir, mae'n rhyddhad enaid.