Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

rhydlyd

rhydlyd

Ond er hynny roedd rhai o'r tai yn dal yn ddilewyrch y tu ôl i'w rheiliau rhydlyd a'u gerddi bychain.

Fe fyddai gweddill y trafod â mi fy hun ac â newyddiadurwyr eraill yn digwydd mewn dinas lle roedd mil o blant yn marw bob wythnos, lle'r oedd plant deg oed yn llusgo gynnau rhydlyd drwy'r llwch am eu bod yn rhy drwm i'w cario.

Yno y diflannai am oriau, yn blentyn, i hongian ar iet yr ardd, ac i smalio gyrru car mewn sgerbwd hen dractor rhydlyd.

Hen deipiaduron, cadeiriau gyda'i sbringiau'n dod i'r golwg, gwelyau rhydlyd - roedd y plant yn neidio drostyn nhw, yn sathru arnyn nhw ac yn rhedeg o'u cwmpas.

Doedd yna fawr o siâp ar ddim arall ac fe fyddai'r `bws' i'n cario o'r awyren i'r adeiladau - hen, hen lori gyda threlyr rhydlyd - wedi methu ei MOT gwpwl o ddegawdau ynghynt.

Dim ond bryd hynny y sylwodd y pedwar fod un o'r dynion ar ol ac yn sgrialu ar hyd y rheiliau rhydlyd i dywyllwch yr ogof; roed yn cario rhyw fath o sach ar ei gefn.

Parciodd Malcym ei foped yn ymyl car rhydlyd Ifor, yn y garej, orffan ei smôc.

Kate dwi'n credu ddywedodd fod y seiding bach rhydlyd yr yda ni ynddo fo, yn ôl Betts, yn seiding bach rhydlyd uffernol o brysur.