Gellir amddiffyn metel rhag ymosodiadau rhwd trwy ei orchuddio a phaent, olew, neu rai metalau nad ydynt yn rhydu.
Nid yw'r metel cromiwm yn rhydu, ac y mae haen o gromiwm yn amddiffyn bwmperi ceir a'u prif oleuadau, yn ogystal a'n celfi yn yr ystafell ymolchi.
Mae tun yn fetel arall nad yw'n rhydu, ac fe'i defnyddir yn y diwydiant tunio.
Mae creigiau cochion yn arwydd sicr bod y graig honno wedi ei ffurfio dan amodau anialwch sych oherwydd fod y lliw coch yn dod o'r haearn sydd wedi rhydu yn yr awyrgylch sych.