Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

rhyfeddod

rhyfeddod

Ond o gymaint rhyfeddod ag ymateb y merched i Blair yr oedd ymateb Blair i'r merched.

Fel y dengys y Salmau, y mae byd natur yn achos rhyfeddod ac yn ddeunydd mawl.

Oherwydd hyn mae'r ymateb a godir ganddynt - arswyd,gorfoledd, rhyfeddod, dirgelwch, ymgolliant - yn wahanol hollol i'r ymateb sy'n digwydd wrth ddarllen ac ystyried ehediadau dychymyg barddonol.

Ond, er cydnabod gwir ddyndod Iesu Grist, y rhyfeddod mawr - y peth a'i gwnai'n unigryw oedd fod ei ddyndod wedi ei briodi â Duwdod.

Dangosaist artistri dy Air creadigol ym mhatrymau'r barrug ac yn rhyfeddod y bluen eira.

Fel esgob Tyddewi cynhaliodd Daveis lys yn Abergwili a oedd yn rhyfeddod i'r beirdd a'r ysgolheigion.

Ennill anfarwoldeb Rhyfeddod mwyaf Cambodia inni oedd adfeilion teyrnas Angkor.

Proses a dderbyniem fel cwrs bywyd ymhen y blynyddoedd, ond nid nawr, ddim ym misoedd cyntaf ein cariad pan ddylem ddal i fod yn llawn o'r rhyfeddod hwnnw a lanwodd y dyddiau oddi ar i ni gwrdd.

Y mae cymaint mwy i'w ddysgu eto, ac erys bywyd o hyd yn rhyfeddod ac yn ddirgelwch.

Rhyfeddod prin yn wir!

Pan aeth Sam i'r ysgol, yr oedd y pethau hyn (Ci Drycin, Y Ffynnon Oer, yr Hen ~r) yn rhyfeddod i blant y pentref ac yntau o'r herwydd yn ymchwyddo'n arwr ac yn meddwl mwy o'i dreftadaeth nag erioed.

Ond mwy rhyfeddod yw'r bersonoliaeth gymhleth -þ ddireidus, ddifrif, ofnus, feiddgar, fyfyriol, weithgar - a dreuliodd ddyddiau a nosau ei blynyddoedd "er mwyn Cymru%.

Y rhyfeddod arall ydi iddo ddadfytholegu oes aur y wasg Gymreig a thalu teyrnged iddi yr yn pryd.

Dro arall y canfu+m i'r rhyfeddod prin yn ffurf oenig annhymig oedd achlysur ymweliad cerbydaid ohonom â Dolwar Fach, ym mlwyddyn dathlu daucanmlwyddiant geni Ann Griffiths, llynedd blwyddyn y gwres diddiwedd.

Perthyn i'r pysgod gêm - yr eog a'r brithyll ac ati mae'r lasgangen (grayling) ond rhyfeddod y rhyfeddodau yw fod ei batrwm epilio a chylchdro'i fywyd fel y pysgod crâs!!

Ond roedd y cysgod du wedi syrthio rhyngom fel na allem weld ein gilydd fel cynt: roedd y digwyddiad eisoes wedi dechrau'r newid, wedi cychwyn ar y broses o ddieithrio a fyddai'n anochel wrth i ni fynd yn hŷn, yn fwy cyfarwydd a'n gilydd, yn llai llawn rhyfeddod ynghylch ein gilydd.

Daliai Meg ei hanadl mewn rhyfeddod at yr olygfa.

Nid yn unig y mae cynhaeaf Huw Jones yn un gwerthfawr o ran difyrrwch, ysgolheictod a thrysorfa gymdeithasol ond y mae'r cyfrolau hyn yn ychwanegiadau heb eu hail at lyfrgell unrhyw un - a'r rhyfeddod yw mai dim ond £10 yr un ydyn nhw - pris sydd wedi ei gadw'n gyson ers y gyfrol gyntaf un.

ac yn wir yr oedd yn rhyfeddod ; yr oedd afon afon cyn wyllted ag y gwelsant hi erioed.

Os arhoswn ennyd ac ymchwilio ychydig i'w hanes, gwelwn mai testun rhyfeddod yw anguilta anguilla.

'Caledfwlch!' sibrydodd Bedwyr, a rhyfeddod yn ei lygaid.

Wrth gwrs, mae'r ffaith bod cymdeithas Gymreig yma o gwbl yn destun rhyfeddod achos er bod gan ardaloedd fel Utica a Granville yn Nhalaith Efrog Newydd gysylltiadau Cymreig cryf nid oedd "gwladfa" Gymreig yn y brifddinas a carpet baggers oedd aelodau'r gymdeithas gyntaf - fel heddiw - pobl a ddaeth yma i weithio gyda GE neu gyda llywodraeth y dalaith.

Yr oedd yn rhyfeddod i Cradoc fod neb mor ddrwg a ffôl â gwrthod y fath gynnig.

Ar hyd yr oesau, mae ei bywyd wedi ei gysylltu â hud, lledrith a rhyfeddod.

Yn ddiatreg daeth yr Yswain a'i fab i'r Wernddu i weld y rhyfeddod.

Mae'r holl graffu ar dudalennau melyn sydd y tu ôl i'r llyfr yn rhyfeddod ynddo'i hun.

Y mae'r hyn sydd wedi'i gyflawni eisoes ynddo'i hun yn destun rhyfeddod.

Yng ngwledydd y Trydydd Byd mae'r cyferbyniad rhwng cyfoeth gwledydd y Gorllewin a thlodi'r De yn taro'r llygad dro ar ôl tro a pharhau o hyd y mae'r rhyfeddod o weld tystiolaeth ein ffordd wastraffus ni o fyw - can o Coke neu gar Mercedes wrth ochr pwmp dŵr cyntefig neu geffyl a chart.

Rhyfeddod pennaf Morfudd, a'i thrasiedi yn ôl rhai, oedd ei dwylo.

Mae'n rhyfeddod o gofio'i gefndir - ei dad o hyd yn y carchar ar ôl ei gael yn euog o lofruddiaeth.

Y rhyfeddod mwya oedd mai'r unig losgiade gês i oedd o dan 'y nhraed, lle'r oedd y saim wedi tasgu ar y carped.

Er mor wahanol eu moddau yw dramâu Groeg, Dante, Shakespeare, y Gododdin, y Mabinogi, Rhys Lewis, Dafydd ap Gwilym, Rilke, Dostoevsky, y rhyfeddod mawr yw y gellir dadlau eu bod i gyd yn arwyddocaol am yr un rhesymau, fod yn gyffredin iddynt i gyd yr elfennau a'r nodweddion sy'n cyffroi dyn yn deimladol ac ymenyddiol.

Dyma stori sydd hefyd wedi ei lapio mewn rhyfeddod.

Y rhyfeddod oedd iddyn nhw ddal ati cyhyd, ac iddi ond y dim â chael 'i dal.

Roedd pawb wedi cael eu syfrdanu wrth weld y rhyfeddod hwn, a rhuthrai pobl i Gaeredin nid yn unig o bob rhan o Brydain i syllu ar y cloc rhyfeddol hwn ond hefyd deuant o bob rhan o'r byd i ddysgu sut oedd creu yr un fath o beth yn eu gerddi nhw.

Rhyfeddod felly yw fod gennym nofelwyr o fath yn y byd, gan mai'r duedd fu eu hanwybyddu.

Ailddarganfod rhyfeddod trugaredd Duw yn ei waith achubol yng Nghrist sy'n creu gorfoledd yr iachawdwriaeth.

Roedd amddiffyn Abertawe ar chwal - sy'n rhyfeddod ynddo'i hunan - ond mi fydd angen gwelliant sylweddol cyn y Sadwrn.

Fy enaid, gwêl i ben Calfaria Draw, rhyfeddod mwya' erioed, Creawdwr nefoedd wen yn marw A'r ddraig yn trengi tan ei droed...

Rhyfeddod yr esblygiad yma, yn ôl Good yw nad oes yna fawr ddim o awgrym yn y creigiau fod esblygiad y planhigion blodeuol ar ddod, rhyw ddigwyddiad annisgwyl sydd yma; - a thorreth o fathau wedi esblygu fwy neu lai tua'r un pryd; a rheini fel y mae'r blodau heddiw - dirgelwch mawr!

Wyddech chi ei fod o'n aelod o'r sindicet oedd am brynu'r fferm?" "Na wyddwn i, ond dydi hynny'n ddim rhyfeddod i mi.

Ni all beidio â dychwelyd drachefn a thrachefn at ddirgelwch a rhyfeddod Un oedd yn Dduw yn dioddef marwolaeth.

Mae'n rhyfeddod na fyddai'r cyhoedd wedi ymateb yn negyddol i'r adran yma o amaethyddiaeth.

Yr oedd yn rhyfeddod ac yn sialens.