I ddiffinio bwriadau, targedau ac amcanion I drefnu profiadau dysgu mewn gwyddoniaeth sydd yn ystyrlon a pherthnasol ar gyfer disgyblion a phob math o allu ac o bob oed yn amrediad yr ysgol uwchradd I ddethol, defnyddio a rheoli'n effeithiol y cwmpas llawn o ddefnyddiau ac adnoddau sydd ar gael I drefnu a chadw trefn ar wersi theori a gwersi ymarferol fel ei gilydd I fod yn sensitif i anghenion disgyblion ag anawsterau dysgu, disgyblion a gallu arbennig a grwpiau ethnig lleiafrifol I feithrin y sgiliau rhyngbersonol priodol ar gyfer cyfathrebu â disgyblion, rhieni a phobl broffesiynol Sgiliau Labordy Paratoi defnyddiau labordy ar gyfer dysgu Arddangos arbrofion a thechnegau ymarferol i'r disgyblion Rheoli gwahanol fathau o wersi ymarferol Gwybodaeth Wyddonol Y mae gan y myfyrwyr i gyd radd yn y gwyddorau ond bwriad arbennig y cwrs yw estyn ac ehangu eich profiad yn y canlynol: