Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

rhyngddo

rhyngddo

Neu a fydd hi'n gystadleuaeth ffyrnig rhyngddo ef a John Redwood - fel dau gi sgyrnygus yn ymladd am asgwrn y gwrthbleidiau.

Brandon ac eraill, fe welir yn fwyfwy eglur mai amhosibl yw deall ei obaith diwethafol heb sylwi ar y cysylltiad rhyngddo â chenedlaetholdeb Israelaidd ei oes.

O dipyn i beth datblygodd carwriaeth rhyngddo ef a Mary, a phan godai Ali'n fore i weithio shifft gynnar, nid yn anaml neidiai Fred o un gwely i'r llall i'w gadw'n gynnes, fel petai!

Mewn mwy nag un o'i ragymadroddion i'w lyfrau, y mae'n trafod y berthynas a oedd rhyngddo effel llenor a hwy fel darllenwyr.

Ond wedi peth llythyru rhyngddo a John Keble ac Archddiacon Rhydychen a'r esgob, datganodd yr olaf nad oedd yn condemnio'r Traethodau; o ganlyniad penderfynwyd parhau i'w cyhoeddi.

Efallai nad oedd o'n hoffi iddi ymyrryd rhyngddo fo a Cathy ond ni allai esbonio'i ymateb i'r holi am Maes Môr.

Ni fyddai Francis yn siarad rhyw lawer; myfyrio, a meddwl rhyngddo ac ef ei hun y byddai fel arfer, ond os byddai'r pwnc wrth ei fodd byddai ganddo ddigon i'w ddweud, a hwnnw'n ddweud synhwyrol.

Ar y llaw arall, cyfleir darlun dirmygus neu chwerthinllyd ohono wrth adrodd am y gwrthdaro rhyngddo a'r sant.

Dyna'r unig beth y gallwn ei weld yn debyg rhyngddo ef a Miss Lloyd.

Bant â ti, a phaid, da ti, â bod mor ddwl y tro nesa!' 'Diolch, Mr Llew,' meddai Idris yn werthfawrogol, ond cyn iddo gael cyfle i ddweud rhagor, roedd y llew eisoes ar ei ffordd, yn hanner chwerthin rhyngddo ac ef ei hun wrth ddiflannu i berfeddion coedwig gyfagos.

Datblygodd ffrwgwd arall ym mywyd Llew - y tro hwn rhyngddo ef a Hywel a bu bron i Hywel farw o'r herwydd.

Gwyddent taw Jonathan oedd yr unig ddolen gyswllt rhyngddyn nhw a'r byd ar ei newydd wedd a gwyddent hefyd fod y cyfarfod rhyngddo ef a Mathew yn mynd i fod yn un allweddol i gael gafael ar ben-llinyn yr holl ddryswch.

Yn wir, teimlai nad oedd yn gwneud unrhyw ystyr confensiynol o gwbl iddo ef, o bawb, fod yn barod i beidio â dal dig wrth feddwl am y berthynas arbennig a oedd rhyngddo ef a Marie.

Y cyfeillgarwch rhyngddo a Jakez Riou a sbardunodd Drezen i gyfansoddi Nozvezh Arkus e Beg an Inizi (Gwylnos Arkus ym Mhig yr Ynysoedd), ar ôl marwolaeth Riou, ac i ysgrifennu cofiant ei gyfaill, sef E Koun Jakez Riou (Er cof am Jakez Riou).

Yn aml, ar ben bwrdd y safai yntau cyn awr ei dynged, a'i esgidiau oedd y cyswllt mwyaf pendant rhyngddo â'r ddaear - rhwng bywyd a marwolaeth.

Aeth pethau'n go ddrwg rhyngddo ef a'r meistriaid wedi k.ynny.

mesurent y pellter rhyngddo a 'i ddarn pren, ond anodd oedd dweud a oedd o 'n ennill tir o gwbl.

Ceisiodd gerdded heibio i Gary tua drws y toiledau, ond camodd hwnnw'n gyflym wysg ei ochr a chafodd Dilwyn ei fod rhyngddo a'r drws.

Yr oedd yn bigog iawn rhyngddo a'r Deon Edmund Griffith ac y mae'r berthynas honno'n enghreifftio nodwedd amlwg iawn ym mherthynas yr Eglwys a theuluoedd uchelwrol sir Gaernarfon.

Mae'r frwydr rhyngddo ef a Thomas Jones Dinbych ar raddfa eang: 'P'run ai fo ai Mr Jones, Dinbych ddaw i'w Waterlŵ yfory?' A yw'r dehongliad hwn yn gorliwio'r sefyllfa sy'n gwestiwn arall: y pwynt yw ei fod yn argyhoeddi fel celfyddyd.

Mae Lyn Jones hefyd yn ymwybodol o'r gystadleuaeth rhyngddo fe ac Allan Lewis - ond bydd e'n ceisio rhoi hynny i'r neilltu ddydd Sul.

Ni wn ai Cymraeg ai Saesneg a fu rhyngddo a'r fydwraig.

O'r diwedd dedfrydwyd Sidley i ddeng mlynedd o garchar, gan roi terfyn ar y bartneriaeth rhyngddo a Harrison.

Priodas anhapus oedd rhyngddo ef a'i wraig, Sylvia.

Ni wyddwn unrhyw beth am y cyfansoddwr, ac eithrio mai Rwsiad ydoedd, ond wedi mynd ati i chwilio am fwy o wybodaeth mewn gwyddoniadur fe'm trawyd gan y tebygrwydd rhyngddo ac Ieuan Gwynedd.

Mae pob un o'i lyfrynnau diweddar i gryn raddau yn gynnyrch y rapport hir a fu rhyngddo a phobl.

Ar ei gefn yn y gwely, murmurai ef rhyngddo ac ef ei hun...

Prin y gallwn gael gair allan o'i ben nac awgrym yn y byd i ddweud sut yr oedd pethau rhyngddo fo a'i fam, na'i farn am ei dad.

Dyma'r dolenni a glyma'r mudiad yn deulu, a ffurfid y bont rhyngddo a'r byd ac â'r byd ac yntau, drwy'r erthyglau amrywiol a gynhwysid ynddo o fis i fis.

Ysywaeth, flwyddyn neu ddwy ar ôl i Forgan ddod i'r fywoliaeth fe aeth yn ffrae enbyd rhyngddo ac Evan Meredith o Lantanad, twrnai ifanc yn llys Cyngor Cymru a'r Gororau yn Llwydlo ac uchelwr penna'r plwyf.

Ar un gwastad mae fel petai (a rhagofal yw'r 'petai' hwn) ef yn dweud fod yr hyn a fu rhyngddo ef a'r ferch - y chwerthin, y tristau a'r tewi, y distawrwydd, yr 'awel wynt', 'cnawd dy law' - fod hyn i gyd yn parhau i fod yn y man lle buont ar ryw fis Medi flynyddoedd lawer yn ol.

Wedi mynd yn ôl i Loegr sylweddolodd mai diffyg adnabod ei gilydd oedd rhyngddo ef ac S.; cynhesodd ato; a dyma'r pryd y sgrifennodd y gerdd 'Adnabod'.

Ryw noson, a Rondol ar waelod y grisiau cefn heb yr un ddima i godi'r glicied, fe gredai yn y cyflwr hwnnw mai yn ei wylltineb y creodd y Creawdwr gors Bodwrog, ond ei fod wedi dod ato'i hun pan greodd feysydd haidd yr ardal, a esgorodd ar y wyrth o fedru gwneud cwrw; ac fe gydsyniodd a fo'i hun nad oedd yn iawn fod yr hyn a elwir yn ddim yn medru sefyll rhyngddo fo a'i beint.

Cynhaliwyd cyfarfod rhyngddo ef, Capten Burrows, Thomas Jones, Frank Nevill, y Prif Gwnstabl a chynrychiolwyr y Pwyllgor Streic, yn Ysgol y Gweithfeydd Copr.

mesurodd yn ei feddwl oddeutu ugain medr rhyngddo a 'r bachgen, i lawr yr afon a thua hanner y ffordd ar ei thraws, a da hynny.

Y peth mwyaf dramatig ymhlith yr achosion hyn oedd gwaith Ferrar yn ceisio rhoi terfyn ar yr ymgecru rhyngddo a'i swyddogion trwy apelio at Lys Mainc y Brenin i ddyfarnu ar ei hawliau fel esgob.

Does dim cysylltiad rhyngddo a'r lleill.

Ond tua diwedd yr ail ddegawd bu ffrwgwd rhyngddo a Iarll Ashburnham a achosodd iddo golli'r cwbl a feddai.

Yr oedd y bobl a oedd yn gyfrifol am droi lliw'r tir yn wyrdd yn gorwedd erbyn hyn yn mynwent y plwy, yn naear frasach y gwastadedd a orweddai rhyngddo a'r mor.

Ar ddechrau Pwyll gellid dweud bod yr awdur am brofi mai gŵr anrhydeddus o gymeriad cadarn yw tad yr arwr, a chanddo urddas a phwysigrwydd arbennig trwy'r berthynas agos sydd rhyngddo a brenin Annwfn.

Ceir wedyn dair golygfa fanwl, sef yr un rhwng Margaret a'r Sgweiar; un rhyngddo ef a'i fam; un arall rhwng hen ledi'r plas a mam Margaret; a chyfweliad rhwng y Sgweiar a dau o'i ewythrod sydd yn ceisio dwyn perswâd arno.

Cynhwysodd yn ei lyfr ddetholiad o'r ohebiaeth a fu rhyngddo a Lhwyd a'i holai'n fynych ynghylch ystyr a tharddiad enwau priod Cymraeg, ond rhaid cyfaddef, er bod Rowlands yn hyddysg yn namcaniaethau ieithyddol ei ddydd a'i fod yn rhannu holl ddiddordebau eang Lhwyd na ddeallasai ef arwyddocad dull gwyddonol ei gyfaill o weithio.

Eithr ni allai eto wynebu'r byd caled yn uniongyrchol, rhaid oedd cael rhywbeth rhyngddo ag ef--rhyw ddihangfa.