Gyda dim ond ffin eang ac agored rhyngom a helaethrwydd Lloegr, y mae union natur cenedligrwydd yn peri penbleth.
Dim manylion ynglŷn â'r mater ond mae cael gwybod yn foddhaol - briwsionyn ar bwnc sydd wedi creu distawrwydd rhyngom.
Edrychodd yn fuddugoliaethus ar Nel ac ychwanegu gyda dirmyg lond ei lais, 'Dyna'r gwahaniaeth rhyngom ein dau'.
Mae'n bosibl mai'r ddolen gyswllt mwyaf gwerthfawr a diddorol rhyngom â'r gorffennol yw'r Llyfr Bedyddiadau.
Blwyddyn a phum mis oedd rhwng Doris a mi, a chofiaf lawer o gydchwarae rhyngom.
Ar ôl iddo adrodd yr hanesyn wrthyf ryw noson, fe syrthiodd ysbaid hir o ddistawrwydd rhyngom (fel a ddigwyddai'n aml), ac yn ystod y distawrwydd hwnnw dyma fi (a oedd yn Meuryna llawer yn y dyddiau hynny) - yn ceisio gorffen y cwpled.
Awgrymwyd eisoes fod Waldo'n mawrbrisio'r hyn a oedd Dychymyg neu 'Imagination' i Blake, ond rhyngom ni a Blake y mae Freud a'i ddamcaniaeth am yr isymwybod, a bellach fe briodolir i'r isymwybod lawer o'r gweithgareddau a briodolid gynt i'r dychymyg.
Ond pan ddaeth sôn am ryfel rhyngom ni a'r Almaen, wel, fe aeth pethe'n annifyr iawn 'ma, fel y gallwch chi ddeall.
Nid oedd unrhyw ddrwg deimlad rhyngom neu fe fyddwn wedi cael y veto wrth geisio symud i Rif Chwech gan ei fod yntau yn byw yno hefyd.
Ond roedd y cysgod du wedi syrthio rhyngom fel na allem weld ein gilydd fel cynt: roedd y digwyddiad eisoes wedi dechrau'r newid, wedi cychwyn ar y broses o ddieithrio a fyddai'n anochel wrth i ni fynd yn hŷn, yn fwy cyfarwydd a'n gilydd, yn llai llawn rhyfeddod ynghylch ein gilydd.
Synhwyrai yntau'r pellter rhyngom.
Gwaethygodd y berthynas rhyngom a'r awdurdodau wedi i ni ddychwelyd i Tehran.
Cychwyn o Villa Vasto am un o'r gloch yn y prynhawn, a chael fy nghludo gan Americanwr cymwynasgar bob cam i'r Autostrada;~ Yn ystod yr ymgom fer rhyngom, dywedodd ei bod yn gwbl ddealledig na châi neb o'r milwyr Americanaidd, oedd wedi bod yn ymladd yn Ewrop, ei yrru i faes y gad yn y Dwyrain Pell.~erdded am bedair milltir o Torre Annunzato hyd o fewn dwy filltir i'r mynydd.
Gan hwn mynnwn gyngor, gan hwn acw wybodaeth, gan un arall nwyddau, hwylustod, cysylltiad: cant a mil o bethau, a'r pethau hynny yw'r unig gyfathrach rhyngom ag ef.
Pan ddywedais ar y dechrau nad i'n cyfnod ni y perthyn Elfed, yr oedd hyn yn un o'r pethau oedd gennyf mewn golwg: rhyngom ni ac ef y mae chwyldro meddwl y mudiad cenedlaethol gwleidyddol.
Dyma'i geiriau wrth ymadael: Dyma'r gwahaniaeth rhyngom ni, Arthur.
Trefnwyd gêm flynyddol rhyngom.
Wrth gwrs, ffordd oedd hon i weld a oedd cysylltiad rhyngom ag unrhyw un yn y wlad.
Estynnaf y bwrdd crwn a'i osod rhyngom.
Er ein bod ychydig yn ddrwgdybus o'n gilydd ar y dechrau, fe ddatblygodd perthynas dda rhyngom ni.
Williams Parry, ser 'Y ddôl a aeth o'r golwg': Buan y'n dysgodd bywyd Athrawiaeth llanw a thrai: Rhyngom a'r ddôl ddihalog Daeth chwydfa'r Gloddfa Glai.
Wrth gwrs, byddai'r cyfarfyddiad nesaf rhyngom a Bigw yn un anghyfforddus.
Wedi'r cwbl, rheolwr ydach chithau, a sbiwch ar y gwahaniaeth rhyngom ni.' Cyn gynted ag y gwelodd ei wên ddiog, sylweddolodd ei bod wedi dweud y peth anghywir.
Dywedwyd y stori yma wrthym yn hollol ddifrifol a heb wên a'r unig chwerthin a fu rhyngom i gyd oedd wrth ddychmygu wynebau lladron y car wrth iddynt agor y babell a oedd wedi'i rholio ar do'r car.
Bu llawer o gwestiynu a holi am fanylion pellach rhyngom.
Yr oedd John Edward Lloyd yn Rhydychen pan aeth Owen Edwards yno gyntaf, yn ddolen gydiol rhyngom ni a'r to o'r blaen; a tho pur hynod oedd hwnnw, yn cynnwys RE Morris, a John Owen, a Robert Parry ac Edmund Wynne Parry, a WS Jones a TF Roberts.