Mam hwnnw mewn côt croen dafad tu ôl i'r gwydr, yn syllu a rhythu wrth wylio'i bachgen bach gwyn hi'n nofio'n ofnus ar hyd a lled Pwll yr Ymerodraeth, a dau lamhidydd bach du'n nofio o'i amgylch ac ar 'i draws, er mwyn cadw golwg arno fe!
Yn crynu ac yn chwys i gyd, mi edryches lan, a dyna lle'r oedd mistir yn hongian wrth drawst, a'i dafod allan a'i ddau lygad ar agor yn rhythu arna i.
efalle na fyddech chi'n gallu'i throi hi'n ôl i fod yn fenyw wedyn ...' ychwanegodd mewn llais tawelach, wrth weld y gwrachod yn rhythu'n ffroenuchel arno.
Buasai'n rhythu ar y mynd a'r dod o'i amgylch, eithr nid i'r fath raddau nes caniatau i unrhyw un arall achub y blaen arno a chipio'i gar.
Gwelodd fflŷd o geir o'i flaen a'r gyrwyr yn rhythu fel rhes o wenciod.
Edrychwch ar fap o'r ardal, ac y mae dwy gronfa enfawr yn rhythu'n las arnoch o glytiau gwyrdd Coedwig Alwen.
Sugnodd i'w gyfansoddiad yr olygfa wrth syllu ar y clogwyni llwydwyn y tu ol iddo, a rhythu'n obeithiol tua Ffrainc.
Os oes rhyw symbyliad arall, bydd eich gwaith yn amddifad o gywirdeb, a bydd yn rhythu arnoch weddill eich oes fel darlun o ddyn a gwên ffals ar ei wyneb.
"Dyna ddechrau iawn beth bynnag," sibrydodd Huw, yna, gwelodd Iona yn rhythu arno a brysiodd i gefn y car i nôl y bag yn dal ei deganau a'i lyfrau er mwyn eu cario i lofft y bechgyn.
Fentrai e ddim stopio i graffu'n fanwl arnyn nhw, rhag ofn i rywun ei weld a dweud, "Dyna fe'n rhythu, y llo bach, yn chwilio am 'i enw 'to'.
Ddeudodd Gwyn yr un gair o'i ben ond rhythu'n sorllyd ar weddill llwm y brecwast.
Dim ateb gan Debora, dim ond rhythu'n ystyfnig ar ei mam.
Gadawodd Edward wrth y bwrdd yn rhythu i'r gwagle a adawodd ar ei ôl yn y gegin.
Fo'n tynnu'r llenni a rhoi record i chwara, yn rhythu arna i'n awchus a 'nhynnu i ddawnsio, yn dynn at ein gilydd fel gelod.