Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

rhyw

rhyw

'Mae 'na rhyw berthynas agos rhwng y cast a'r gynulleidfa, ac mi rydach chi'n sylweddoli'n fuan iawn os nad ydy'r gynulleidfa yn hapus.

Ar yr un pryd roedd yn beiriant, yn rhyw fath o stamp boglynnu.

Mae gwir angen esbonio paham y mae parch i'r llyfr hanes, sydd yn un o glasuron rhyddiaith y Gymraeg, ac ar yr un pryd paham y mae rhyw ddelwedd anhyfryd wedi dod lawr i ni o Theophilus Evans y dyn.

Er mai yn y blynyddoedd 1909 ­ 1915 y cyrhaeddodd y Mudiad Rhamantaidd ei anterth, gyda 'Gwlad y Bryniau', 'Yr Haf' ac 'Eryri', yr oedd y llanw wedi troi yn erbyn Rhamantiaeth erbyn hynny, gan fod darllenwyr wedi syrffedu ar yr awdlau a'r pryddestau hyn a oedd wedi eu lleoli mewn rhyw orffennol chwedlonol, ac wedi syrffedu hefyd ar eirfa'r Rhamantwyr.

"Doedd gen i ddim rhyw lawer o feddwl ohoni hi, wir.' 'A chwithau'n mynd i bregethu,' meddai.

Daeth rhyw dristwch drosof o weld bod yr hen bwll wedi'i gau a bod y trigolion yn baldorddi estroniaeth lle gynt, yn yr ugeiniau, Cymraeg a glywn.

(Er i adfynach chwerw a adawodd y gymdeithas rhyw flwyddyn ledaenu si ymysg mân fynachod Enlli fod y Priodor wedi'i erlid o Rydychen ar ôl cwta dau dymor dan amgylchiadau pur amheus a dweud y lleia'.) Ond roedd hynny flynyddoedd maith yn ôl, pa 'run bynnag.

Mae pethau'n gwella yna hefyd ac ry'n ni wedi cael rhyw fath o drefn ar ddysgu yn y rhan fwyaf o'r dosbarthiadau.

Daeth yr awyren i lawr yn esmwyth gan redeg ar hyd rhyw gae.

"Sut mae Owen?" "Reid dda; mi ges lythyr y bore yma, yn licio i le'n iawn." "Da iawn bod rhywun yn hapus." "Ond cofiwch, 'dydi i gyflog yntau ddim hanner digon, a chysidro'r gost sy wedi bod efo fo." "Nag ydi, mae'n siŵr." "Mae o'n talu chweugian yn yr wsnos am lodging ac yn prynu i fwyd i hun." "Gwared y gwirion!" "Ydi, a mae'r criadur bach yn tri%o anfon rhyw 'chydig adre bob mis." "Chwarae teg iddo fo.

Fel rheol ar ôl i dwll fel hyn gael ei saethu mae angen llnau wyneb y graig, gan fod cerrig wedi symud ond ddim wedi dod i lawr, felly rhaid i'r ddau ddyn fynd i lawr ar y rhaff eto hefo darn o haearn crwn rhyw bedair troedfedd o hyd wedi ei finio yn un pen, yr hwn a elwir yn drosol.

"On'd does rhyw helynt o hyd?

Ers dau neu dri o berfformiadau bellach rwyf wedi cael rhyw hen deimlad annifyr ym mêr fy esgyrn fod cwmni Bara Caws wedi chwythu'u plwc.

Byddaf yn meddwl weithiau tybed a fyddai Dic wedi dangos rhyw hoffter tuag ataf i petai Mam heb ddangos mor eglur ac mor aml iddo nad oeddwn i'n deilwng o serch neb.

Erbyn heddiw gwelir fel y gellir uno'r ddau symudiad - y canoli ar lefel Ewrop, a'r datganoli ar lefel Cymru - i greu rhyw fath o synthesis ac undod: Cymru o fewn y Gymuned.

Clywn lais patriarchaidd yn fy nghyfarch yn wresog o'r lle tân, ac o dipyn i beth ymffurfiodd Huw Huws, fel rhyw Fephistopheles diaconaidd a barfog, allan o'r mwg.

blyb ac mi ddaw'r hen gath i lawr fel bwlet a heibio fi i'r tŷ.' Mae rhyw dueddiad ynof i anobeithio pan na fydd pethau yn dwad yn rhwydd, a daw Robin Tŷ Mawr i'm meddwl.

Ar adeg felly byddai pob ymryson yn peidio rhyngddynt a rhyw ddeialog ymenyddol ddi-eiriau yn digwydd o fewn cylch y tawelwch.

A chynigiodd yr un gwr ddau swUt i minnau os awn, dywedais wrtho yr awn; a rhedais o heol y Bont Pawr oddi amgylch yr HaU yng nghanol y dref yn noethlyrnun; a dychrynodd rhyw wraig feichiog wrth fy ngweld, nes yr aeth yn sal.

Ni wn a oedd gorsaf-feistr yma yr adeg hon, anaml y teithiwn ar hyd y rheilffordd LMS, dim ond rhyw unwaith yn y flwyddyn gyda thrip yr Ysgol Sul i'r Rhyl.

Dipyn o ddireidi hwyrach, ond dim byd tebyg i blant heddiw.' Wel, rhaid i mi fod yn onest, 'doedd na ddim rhyw lawer o wahaniaeth!

Bu ef mewn amryw longau, rhai yn llwglyd, fel yr ydym wedi clywed sôn amdanynt, ac eraill â bwyd da a dywaid fod pob un o longau rhyw gwmni yn cael enw da am fwyd.

A'r gŵr a aeth heibio iddi ganwaith heb sylwi arni gan fod ei ffroenau mor uchel, a'i feddwl yn barhaol ar ei filiwn nesaf A digwyddodd rhyw ddydd, iddo adael ei swyddfa a cherdded i lawr y grisiau.

Digon yw dweud bod y dystiolaeth, yn enwedig y dystiolaeth a geir o archwilio'r maes, yn awgrymu mai rhyw filltir i'r gogledd orllewin o'i llwybr presennol y gorwedd llwybr naturiol yr afon (yn enwedig yn rhan ganol y Morfa).

"Wel, wel," meddwn i wrthyf fy hun, yn cymryd y gadair gyferbyn, "mae rhyw brofedigaeth lem wedi ei gyfarfod." Ofnais y gwaethaf.

Oddi yno 'mlaen bydd rhyw ddwy filltir dda o gerdded dros wastatir uchel gwelltog a'r hen ffordd wedi'i sarnu yn o arw gan feiciau modur mewn mannau.

Felly, yr oedd Ioan Evans yn mynd a'i deulu i'r capel ar hyd yr haf am flynyddoedd gan wneud rhyw dair lîg a croesi dwy afon, ac yn y gwanwyn pan fyddai'r eira yn dadmar ar y mynyddoedd, 'roedd yr afonydd yn codi, a chawsom fwy nag un dychryn wrth ei mentro, gan fod yn dŵr yn dod i fewn i'r cerbyd.

Dridiau cyn iddo gychwyn derbyniodd Hector lythyr, rhyw brofiad anghyffredin yn ei hanes llwm.

Ceisid sicrhau'r cytundebau mwyaf proffidiol er mwyn gallu ehangu dylanwad dau gyff uchelwrol ac unioni cwrs datblygiad dau wehelyth o'r rhyw breintiedig.

A thuedd rhai pobl o hyd yn y fan honno yw ystyried unrhyw daith gan y car recordio, dyweder, y tu hwnt i Bontypridd fel rhyw fath o saffari.

Er bod y Bwrdd Marchnata Llaeth yn sicrhau siec fisol i rai ffermwyr, rhyw grafu byw mae'r mwyafrif sy'n gweithio'r tir.

Mi fuo am gyfnod cyn priodi â gwraig weddw ydi hi ar hyn o bryd, a 'dwyt ti'n synnu dim at hynny wedi byw o dan yr un gronglwyd â hi am wsnos - cyn priodi mi fuo'n gwasanaethu hefo rhyw nob a'i wraig - Syr Simon a Ledi Gysta chwedl hitha, ac mae'r rheini wedi troi yn 'i phen byth wedyn.

Dwi'n rhamantydd wrth gwrs, ond dwi'n hoffi meddwl cyn i ddyfodiad y peiriannau, er bod y bobl mor brysur ac yn gorfod gweithio mor galed, roedden nhw'n gweithio'n ddistaw yn y meysydd ac yn cael rhyw gyfle i ymglywed a natur fel petai.

Gofalai Francis felly bod y ffrynt yn tyfu rhyw gymaint bob dydd, ond prin y codai'r cefn o gwbl oherwydd bob bore bron dywedai Francis wrth ei gynorthwywyr, 'Mi ro'wn ni 'frontal attack' arno fo heddiw, John,--waeth befo'r cefn'.

"Cymrwch," medda fi, "fy mod i allan ar noson dywyll, a bod yna rywun yn intyffirio hefo fi - rhyw hen genod drwg neu rywbath felly - caniata/ u fy mod i'n gallu cadw fy nwylo i mi fy hun, mi fydda i'n chwythu hon, ac os y clywch chi hi, mi fydda i'n disgwyl i chi olwng pob dim a rhedag ata i."

Na, rydw i'n dal i gael rhyw, oedd ateb Michael Schumacker pan ofynnwyd iddo a oedd wedi dechrau chwarae golff.

A bod yn onest, doedd yr un ferch wedi mennu rhyw lawer arno.

Daeth rhyw nerth rhyfedd drosti.

.?" Yn rhyfedd iawn, ar ôl gweld rhyw bump cês, daeth rhyw deimlad annisgwyl o ddifaterwch, ac yn y pen draw, syrffed, drosof.

Mewn tua dwy awr go dda, gyda rhyw 'Excuse me' go wan, codais a mynd i'r tŷ bach.

Dim ond rhyw bluen felen neu ddwy a fyddai ar ôl ohoni pan ddychwelai ein rhieni o Gaerdydd.

Bu'n gweithio mewn chwarel yn Pennsylvania, a rhyw ddeintydd croenddu'n dod yno i dynnu dannedd.

Ar ôl rhyw ddeng munud o'r distawrwydd yma, daeth llais dros yr uchelseinydd i gyhoeddi y byddai 'cwshti' yno'r noson ganlynol yn ogystal, ac y byddai'r "hogiau lleol yn siwr o orchfygu% eu gelynion y tro nesaf.

Mae rhyw ddyfnder bob tro yn ei ganu fo.

Fodd bynnag, ar hyn gwelais filwyr yn gadael eu paciau ac yn mynd heibio rhyw gornel ac mi euthum innau i edrych i ble'r aent.

Fel yr oedd hi, bu ond y dim iddi fynd i gefn rhyw fws wrth weiddi ar ei meibion yn y drych yn hytrach nag edrych ar y ffordd.

Fe ddaeth rhyw bobol o'r Eisteddfod a dweud wrtho, ‘mae gynnon ni newydd da i chi, mae eich brawd wedi ennill y Goron'. Roedd o wrth ei fodd, wrth gwrs, a mi fuon nhw'n trafod y peth am rhyw bum munud neu ddeg.

'Bu (ei fam) agos allan o'i phwyll am lawer o wythnosau, gan godi bob awr o'r nos wedi claddu ei gŵr a'i dau fab, ac agor y ffenestr gan rhyw led-ddisgwyl eu gweled (ei gŵr a'i dau fab) yn dyfod adref o'r gwaith.

'Dach chi'n mynd ati i chwilio am bethau gwahanol yn ei gerddi o a 'dych chi'n cael rhyw bethau arall bob tro 'dach chi'n mynd 'nôl at ei farddoniaeth o.

A dyma fi wedi rhoi rhyw fras ddarlun i chwi o hanes y Capel.

Mae'n awgrymu mai gwadu'r gwirionedd fyddai sgrifennu am y bobol ifanc mewn unrhyw arddull arall, yn union fel y byddai ' n gwadu ' r gwirionedd i osgoi ' r rhegfeydd a'r rhyw.

Adeg honno roedd yna fudiad o'r enw yr Eingl Gymry, roedd cylchgrawn o'r enw 'Wales' ac roedd pobl yn dechrau sylweddoli eu bod nhw wedi colli rhywbeth, ac roedd yna rhyw duedd ynom ni er ein bod ni yn sgwennu yn Saesneg, i ni geisio dangos nad Saeson mohonom ni.

Mae rhyw arlliw cenedlaetholaidd ar y ddogfen hon hefyd ac yn wir y mae Philip Cooke, a fu'n gyfrifol am beth wmbredd o argymhellion mwyaf ymarferol yr adroddiad, yn gyn-is-gadeirydd y Blaid.

Nid pledio achos rhyw aberth arwrol ydw i ond pledio achos glynnu at egwyddor.

Mae Cura yn ymateb gyda rhyw ffraethineb i grawc aderyn sy'n tarfu ar gychwyn un o'i ganeuon.

'Dwn i ddim pam, ond roedd o'n cael rhyw foddhad sadistaidd yn fy mhoeni.

Ac yn rhoir argraff fod gwneud yn dda mewn arholiadau yn rhyw fath o enedigaeth fraint i fechgyn.

'Fedri di ddim awgrymu rhyw gynllun i mi gael gwared â hi?

Mi ddaru Defi John ddringo i nôl rhai, i gael gweld, ac wedi i ni'u cracio nhw'n 'gorad hefo'm dannadd, doedd yna ddim byd ond rhyw ddotyn bach gwyn, meddal, yn y rhan fwya ohonyn nhw.

Fe wyddai gystal â neb am wleidyddiaeth, ac y byddai Genoa o bryd i'w gilydd yn cyflawni rhyw gamwri yn y rhyfel masnach â Fenis, ac y byddai'r elynddinas honno yn ei thro yn gwasgu ar ei chynghreiriaid er mwyn gwneud pethau'n anodd i'w ddinas enedigol yntau.

Dyma chwi gemegydd, fe ddywedwn ni, yn astudio rhyw wedd ar gemeg y dderwen ym mhen draw'r ardd.

ar gynghorau lleol yn y cyfnod hwn, fe ddangosodd ei gwendid eto mewn methiant i fanteisio ar ei chyfle, a hynny, i'm tyb i, oherwydd rhyw ddiniweidrwydd egwyddorol megis.

Neithiwr daeth i mewn i'm hystafell yn dwyn fy swper ar hambwrdd, ac meddai, gyda rhyw ffug sancteiddrwydd, "Ydi dy frest ti'n fwy rhydd, Hannah?

'Ers i ni ddod yma, mi rydw i'n sylwi mwyfwy ar bethau fel cân rhyw aderyn ne'i gilydd, er na fydd gen i syniad be ydy o.

Dyn cymesur a golygus oedd Daniel, ac ym mha le bynnag y gwelid ef, yn y gwaith tun neu yn y Sedd Fawr, perthynai rhyw urddas iddo, a rhoddai argraff dda ar bawb a gyfarfyddai ag ef.

Dim ond rhyw ddyrnad o'r rhai o'r tu allan sy'n cael dwad, - ond mae 'na ddigon o berfformwyr i gynnal cyfarfod cyhoeddus.

'Aros,' meddai, a rhyw awdurdod yn ei lais.

Gwir hefyd fod llu mawr o ysgolion preifat ym mhob cwr o'r wlad yn cynnig rhyw fath o addysg elfennol.

Daeth rhyw wraig i'w gyfarfod hefyd ac adrodd pob math o gelwydd golau am Ffantasia a'r Tylwyth Teg.

Nid rhyw fath o sadistiaeth obsciwrantaidd oedd yn ysgogi'r hen frodyr ond ymwybod digon realistig a'r posibilrwydd y gellid camgymryd disgleirdeb meddwl am dduwioldeb calon.

Dywedodd fy mam wrthyf drannoeth fod rhyw dderyn wedi dweud wrthi am y digwyddiad.Euthum i ddawns yn y Cei unwaith.Roedd fy ffrind, Twm Fowey House (y Dr Thomas Gwilym Jones, un o benaethiaid Lever Brothers Port Sunlight wedyn) yn fy nghynorthwyo i smyglo fy siwt orau o'r ty wrth i mi ei thaflu o ffenestr y garet i lawr ato ac yntau yn sefyll ar yr allt wrth dalcen y ty.

O, oedd, - roedd ganddi le i boeni am hynny, roedd angen rhyw garnau newydd ar y brêcs, ond pam ddylai o boeni, gadawai bethau felna i'r peirianwyr.

Fydd hi ddim yn hir yn awr cyn y bydd rhyw Gywir Wleidyddyn yn torchi ei lewys er mwyn mynd ati i ail-sgrifennu pob stori am gwningod i blant fel eu bod yn adlewyrchu y gwirionedd newydd hwn.

Gellir gweld atyniad yr algorithm genetig - nid oes angen rhaglennu'r camau datrys yn uniongyrchol, sy'n broses faith a llafurus, dim ond diffinio 'DNA' yr 'unigolion' yn ôl y broblem, a chael rhyw ffordd o fesur pa mor dda yw cyfuniad arbennig o'r wybodaeth 'enetig' yn y 'DNA'.

'A rhyw ddiwrnod, mi rydw i am fynd i fyny i'r wyneb i weld popeth drosof fy hun.'

Dim ond ychydig fisoedd y buo ni'n byw yn y Gymru Newydd Gynhwysol pan ddeffrodd rhai rhyw fore a sylweddoli mai Inclusive Wales/Unclwsuf Wêls oedd hi.

Camodd y capten yn sionc fel pe wedi cael rhyw adnewyddiad corfforol.

"Dacw fo ylwch!" meddai rhyw gwbyn o hogyn.

Efallai hynny, ond er na fu iddi ymboeni rhyw lawer ynglŷn â thechneg yr oedd yn gyson ymwybodol o werth a phwer geiriau.

'O?' 'Efo Ifan Paraffîn, yn y bus.' ''Ron i'n meddwl 'mod i'n gweld gola' ac yn clywad rhyw swn pan o'n i'n cau ar yr ieir.' Sylweddolodd Dora Williams ei bod hi'n sefyll yn llond y ffenestr yn ei choban, yn wyneb llafn o olau lleuad, a theimlodd ei hun yn cael ei dadwisgo'n gyflym.

mae rhyw naws ewropeaidd, rywsut, i'ch gwaith, fel petaech wedi sugno maeth o brâg neu baris yn hytrach nag o aberdâr.

Fe ddaeth rhyw gyfnither o bant i gadw cmwni i Luned, a chan 'i bod hi mor ddi-ddweud, doedd neb am ymyrryd gormod.

Mae rhyw gynllwyn anymwybodol i yrru i'r ymylon weithgareddau diwylliannol nad ydynt yn deillio o'r canolfannau pwysig dylanwadol hyn.

Dim ond BBC Cymru sy'n darparu rhaglenni Cymraeg i ysgolion ac eleni enillodd y gyfres addysg rhyw Secs-i y wobr am y rhaglen orau i bobl ifanc yn yr Wöyl Ffilm a Theledu Celtaidd.

Nid oedd mwyach yn sefydliad byw, a chyfrifid hi fel rhyw gymdeithas hanner-dirgel gyda'i defodaeth arbennig, heb fod ganddi unrhyw hawl i aelodaeth gyffredinol, megis y Rechabiaid a'r Seiri Ryddion.

canol a rhyw bump ohonom yn y tu ol wedi ein cau i gewn efo drws bach twt a'n brawd Madryn Gwyn ar gefn ceffyl yn canlyn y trap mawr.

O ran rhyw, roedd mwy o ferched na dynion wedi darllen cylchgronau o fewn y cyfnod penodedig.

Go brin y credodd y fanhadlen wrth grymu i'r glaw ac ildio i'r gwres y byddai ffurf ei thyfiant rhyw ddydd yn ateb gofynion gosodreg blodau mewn dosbarth nos!

Na, rhyw fwmblan nid siarad mae'r to ifanc ma% "Ifanc?

A oedd hi yng ngafael rhyw ddiymadferthedd di-sbonc?

"Ond wyddost ti Gruff, rydw i'n teimlo rhyw fur rhwng fy mhlant a minna, rhyw ddieithrwch..." "Wyt ti?

Mae croeso iddi hi fyw yn ôl patrwm Ledi Gysta os ydi'n dewis hynny, ond mae disgwyl i mi siopwr ynghanol gwlad, drefnu 'mywyd ar yr un llinella â rhyw sprigyn o Syr hefo mwy o bres neg o synnwyr, yn afresymol.

Gan amlaf, rhyw ddau neu dri a enir, er y gellir cael cynifer â phump mewn gwâl.

A doedd e ddim yn poeni rhyw lawer am ferched chwaith.

Ar un olwg, gallech daeru bod yna ddau ohono o gwmpas y lle, - rhyw fath o ddwy natur mewn un doctor, megis.

Erbyn hyn, doedd neb yn poeni rhyw lawer am ei sefyllfa, a dyma ddiddanu ein hunain drwy ganu.

Dyna enghreifftiau yn yr oes 'oleuedig' hon o rai pethau na ddylem eu gwneud oherwydd eu bod, meddir, yn anlwcus, er nad ydym yn rhyw siwr iawn pam.

Dydw i ddim yn meddwl y bydd neb yn galaru rhyw lawar ar f'ôl i." "Paid â deud y fath beth." "Mae'n ddigon gwir i ti.

Mae rhyw falchder yn y ffaith bod y cymeriad wedi gweithio i'r fath raddau a dwi'n gwerthfawrogi pob gair caredig...

Dewch draw i weld." Roedd cylch o risgl wedi ei wasgu a'i dorri rhyw fetr uwchlaw'r ddaear ar foncyffion y ddwy goeden.