Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

rhywbeth

rhywbeth

Rydym hefyd yn cydnabod y dylai bwyta fod yn rhywbeth cymdeithasol rheolaidd.

Wedi dod o hyd i'w phwrs, bydda Bigw yn cael gafael ar yr arian ac yn gwthio rhywbeth gwirion fel punt, neu bumpunt weithiau, i'n dwylo.

'Tro dwetha i unrhyw fath o dlws ddod i Gasnewydd oedd yn 1978 felly mae'n bryd i ni ennill rhywbeth.

Ond fel dwedodd y Saesnes benwyn, rhywbeth i'r kids - heb anghofio'r mamau a'r tadau sy'n eu gwthio - ydi'r Eisteddfod.

Fydda Nain yn gallu rhoi rhywbeth mor syml â brechdan neu ŵy i ni efo mwy o haelioni, a byddem yn teimlo ein bod yn cael rhywbeth arbennig.

Sylweddolais innau, er i bron ddeugain mlynedd fynd heibio, nad oedd digon o ddþr wedi cael ei dywallt ar y tân arbennig hwn, bod perygl o hyd fod rhywun yn credu fod rhywbeth wedi mynd o'i le gyda chyllid yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhwllheli.

ohonynt fel hyfforddiant i ymladdwyr ac arweinyddion ifainc.' Rhaid oedd atgoffa Geraint o'i ddyletswyddau ac y mae rhywbeth chwithig fod tad oedrannus yr arwr yn gorfod ei gyrchu adref i ymgymryd â'i briod alwedigaeth.

Syrthiodd ei dors allan o'i boced ac wrth iddo ymbalfalu o'i gwmpas amdani gafaelodd ei ddwylo yn rhywbeth a oedd yn debyg i brennau.

Roedd yna ddisgwyl rhywbeth wrthyn nhw cyn y gystadleuaeth ond roedd y perfformiad yma yn un gwych.

Ond Siapan yr wythnos diwethaf yr oedd rhywbeth i godi ei galon.

Rhywbeth pell oedd y rhyfel ac ni bu rhyfela yng Ngwynedd er dyddiau'r hen frenin John pan fu raid i'w filwyr fwyta cig eu meirch ar lannau afon Conwy.

A thrwy'r cwbl, y mae rhywbeth hoffus yn ei ddiniweidrwydd ac ni ellir ond rhyfeddu at ei ymgysegriad i waith canolog ei fywyd - pregethu.

Mae'r mesur yn rhywbeth all effeithio arnon ni bob un sy'n darllen yr erthygl hon, felly mae na ddau beth allwch ni wneud.

Serch hynny, un peth oedd rhoi hawl gyfreithiol i gyfieithu; rhywbeth arall, llawer mwy anodd, oedd dwyn y maen i'r wal.

Oedd Mr Gorbachev yn ceisio celu rhywbeth?

Ac oni all y Cenhedloedd Unedig wneud rhywbeth i chwilio i mewn i'r farchnad arfau rhyfel?

Ond daeth rhywbeth yn ei llonyddwch wrth orwedd yno â holl amheuon Nina i'r wyneb.

Mae'n rhywbeth sydd wedi mynd a dod.

Rhywbeth arall a anfonodd iasau llawer oerach i lawr fy nghefn i oedd gweld y papurau yn rhoi cymaint aceri o le i ychydig dywyrch a'r difrod a wnaed i ddelw garreg ond yn gwthio i gornel dalen ddiarffordd hanes am rywun yn rhoi matsen mewn dyn du o Birmingham ar ôl ei drochi mewn petrol.

Bydd rhywbeth wedii ysgrifennu mewn du yn blesion fawr iawn.

Rydach chi'n cydweithio ac yn trafod yn fanwl efo'r cyfarwyddwr; mae'n rhaid i chi ffeindio rhywbeth o fewn eich profiad, rhywbeth sy'n gweithio, a rhywbeth sy'n hollol bragmatig.

Cofiwch Dylech blygu eich penliniau AC NID EICH CEFN cyn codi rhywbeth, fel ' bod cyhyrau'r glun yn cymryd y straen.

fe fyddwch chi'n colli rhywbeth, siŵr o fod.

Wrth geisio hel meddyliau at ei gilydd er mwyn dweud rhywbeth ar y testun uchod cofiais fod gan fy hen Athro, y diweddar Dr W J Gruffydd, lith finiog ar yr un testun yn un o rifynnau cynnar Y LLenor.

Rhywbeth yr oedd gan Emli ddigon ohono, mae'n fwy na thebyg.

Bydd rhywbeth syn dy ddal di nôl ar hyn o bryd er lles i ti cyn bo hir.

Sylweddolodd Louis fod rhywbeth wedi digwydd ynglŷn â'r cŵn.

Mi faswn wedi rhedeg y bore yma, ond mae rhywbeth ar yr hen fuwch yma." "Tewch chitha." "'Does dim llawer o helynt.

Rhyw ystum i gyfeiriad moderniaeth yw'r rhain oll, yn ymdeimlo a'r angen am dorri allan a chreu rhywbeth newydd, ac eto'n anabl i wneud hynny.

Penderfynodd y Ganolfan Rheoli Afiechydon felly fod rhywbeth newydd yn peri diffyg yng nghyfundrefn imwn y cleifion hyn.

Dim ond gobeithio fod rhywbeth gwerth ei weld ar ôl cyrraedd.

Roedd rhywbeth amdano a fyddai'n edrych yn gyfforddus yn bodio trwy lyfrau Shakespeare mewn llyfrgell, neu'n plygu yn ei gwman uwch Wordsworth.

Y mae'r gwebost yn rhywbeth i edrych ymlaen ato yr wythnos nesaf.

Mae dioddefaint y Gwaredwr i Williams, o ganlyniad, yn rhywbeth presennol.

Dyna drist fod arwydd o gymdogaeth glo\s yn rhywbeth i synnu a rhyfeddu ato yma.

Adeg honno roedd yna fudiad o'r enw yr Eingl Gymry, roedd cylchgrawn o'r enw 'Wales' ac roedd pobl yn dechrau sylweddoli eu bod nhw wedi colli rhywbeth, ac roedd yna rhyw duedd ynom ni er ein bod ni yn sgwennu yn Saesneg, i ni geisio dangos nad Saeson mohonom ni.

Chaiff Cadi Pierce byth roi ei throed i lawr yn Nhyddyn Bach.' Wrth iddi adael, pan ddaeth Catherine Pierce i gymryd ei lle, gofynnodd John iddi a fyddai hi'n fodlon bod yn dyst petai rhywbeth yn digwydd iddo.

Cafwyd rhywbeth hefyd nad oedd yn gyfyngedig i sefyllfa Cymru'n unig.

Felly mewn ffordd roedd o'n benderfyniad hollol bragmatig, ond fel mae'n digwydd mae o'n bendant yn rhywbeth yr ydw i'n cael cic ohono fo, felly mae o'n gweddu i'r dim.

Galwodd ar y ddau ffariar a gofynnodd iddynt a allent wneud rhywbeth dros dro.

Roedd rhywbeth yn sw^n y dw^r oedd yn ei suo i gysgu bron.

Mae'n bwriadu gwneud rhywbeth tebyg eto, ond y tro hwn gan fentro ychydig yn bellach ac ar gyfer rhaglen deledu.

Efo Bigw, roedden ni'n teimlo ein bod yn gwneud rhywbeth drwg.

Doedd ef ddim yn ddigon tal i'w dilyn, fodd bynnag, ond wedi clywed am heddlu'r carchar "teimlwn fod yma ryw fath o her, rhywbeth gwahanol" ar ei gyfer.

Y peth sy'n llorio pobl feilchion yw sylweddoli gydag angerdd fod Iesu Grist wedi gwneud rhywbeth drostynt hwy'n bersonol.

Wrth gwrs fy mod in cydymdeimlo ar pedair mil o blant syn dioddef ond mewn oes pan ydym yn ymddiried cymaint o bethau i gyfrifiaduron y mae rhywbeth yn llesol mewn gweld nad yw y rheini mor anffaeledig ag y mae rhai ou gweision yn tybio.

Ychydig iawn iawn oedd yn dweud rhywbeth neilltuol am y person oedd wedi marw.

Y mae meithrin sgiliau dysgu ac agweddau cadarnhaol yn rhywbeth sy'n digwydd dros gyfnod hir ac y mae'n dibynnu ar eich personoliaeth, eich hanes personol a'ch profiad o weithio gyda disgyblion, cydweithwyr a thiwtoriaid.

Haeddai sylw ysgafn atebiad ysgafn bob amser, ac yr oedd rhywbeth cyffrous-beryglus mewn chwarae deufel lafar gyda gwrthwynebydd mor finiog a chwim ei feddwl â Hywel Vaughan.

Dyma'r cwestiwn pwysicaf i unrhyw un sy'n gwneud rhywbeth efo'r celfyddydau.

A rhywsut, roedd rhywbeth yn dweud wrth pawb fod y swyddog ifanc o ddifri.

SAETHAUEURAIDD: Braf gweld bod rhywun wedi gweld yn dda i wneud rhywbeth gwell nag ail baentio'r relins o flaen y cae chwarae yng Nglanadda.

Dyle Cymru ddechrau fel ffefrynnau ond gyda'r tywydd fel mae e galle rhywbeth ddigwydd.

Bu'r llyfr yn foddion i'm hatgoffa o'r newydd fod rhywbeth reit drist o gwmpas gyrfa Christmas Evans.

"Yr oedd Cura yn wefreiddiol ac fe ddaeth â rhywbeth cwbl arbennig i'r perfformiad," meddai Mary.

Os plesiwyd Jonni, byddai'r sgwrs yn mynd rhywbeth yn debyg i hyn.

Mi wn eich bod chi yn blant da, ac yn gwneud eich gore, ond arnaf i y mae popeth yn dibynnu, os digwyddai rhywbeth i mi, dyna ni i gyd yn dioddef.

Rhaid chwalu'r myth mai rhywbeth personol yn unig yw iaith a'i bod yn fater o gydwybod neu yn ddewis personol.

Roedd wedi amau fod rhywbeth ar droed a hithau wedi bod yn ei osgoi'n ddiweddar.

Mae'n rhaid gwneud rhywbeth," meddai Dr Tillson.

'Rydw i wedi newid fy meddwl.' 'Beth yw eich dymuniad pe byddai rhywbeth yn digwydd i Ceri cyn i chi gael amser i wneud trefniadau eraill?' gofynnodd, er mawr syndod i mi.

Oni wyr archifwyr cenedlaethol Ffrainc y dylsid naill ai gadw rhywbeth fel hyn yn wastad, heb ei blygu o gwbl?

"Wyt ti'n clywed rhywbeth?" "Nac ydw i." "Na finna' chwaith." "Sandra, pam rwyt ti'n sibrwd?" gofynnodd Joni, gan ddal i wneud hynny ei hun.

Rwyt yn ceisio mwmian rhywbeth, gan dynnu'r sbienddrych o'th ysgrepan.

Aeth rhywbeth o'i le .

Ei bwriad yw sicrhau bod rhywbeth i'w fwyta gan y plant ifainc, yn enwedig y rhai sydd newydd gyrraedd y gwersyll.

Daeth y sw^n eto, clec uchel fel pren yn torri o dan draed rhywbeth trwm.

'Roedd angen ennill y cwpan arnon ni i gael rhywbeth o'r tymor ond wnaeth hynny ddim digwydd.

Ar y Sul, cefais fy hun tu fewn i'r eglwys gadeiriol yn mwynhaur offeren ac yn bwyta ac yn yfed rhywbeth llawer mwy sylweddol.

Mae'r dynion hyn yn gwybod yn o dda faint o bowdr fydd ei eisiau i chwythu'r darn hwn o'r graig allan, ac felly y maent yn rhoi rhywbeth o gan pwys i fyny o bowdr ynddo ac yn gosod fuse, sef math o weiren wedi ei llenwi â phowdr, yr hon sydd yn tanio'n araf hyd nes y daw at y powdr, a dyna ergyd ofnadwy a'r graig i'w chlywed yn rowlio i lawr.

Mae rhywbeth rhyfedd iawn yn hyn i gyd.

Os oes gennych chi £5 ac eisiau rhywbeth diddorol, efallai na chewch chi newid, ond mynnwch gopi o'r Cd, £5 Heb Newid.

"Yn aml bydd pobol yn gofyn i mi eistedd ar bwyligor, neu i wirfoddoli i wneud rhywbeth.

Yn syth ar ôl hyn fodd bynnag digwyddodd rhywbeth annifyr iawn.

O edrych ar hyn o olwg arall, ar ôl treiglad o bron ugain mlynedd, yr oedd rhywbeth yn costio degswllt wedi dyblu'i bris yn bunt.

I'r mwyafrif llethol, os gwyddent amdani o gwbl, rhywbeth od ydoedd, eithriadol, eithafol, y tu allan i lif normal bywyd, a orfodid ar eu sylw o bryd i bryd gan ddarn o newydd neu ddatgan wasg neu ar y radio.

`Mae'n rhaid fod rhywbeth ynddo.' Funudau'n ddiweddarach symudwyd y cwn oddi yno ac aeth yr arbenigwyr draw at y parsel.

Yr ateb syml ydyw bod y golygydd wedi gofyn imi ddweud rhywbeth am ddylanwad miwsig arnaf fel bardd.

"Samon ydi'n henw ni ar Roberts," meddai, "am ei fod o'n dwad o Nant Bach, lle da am samons." Roedd rhywbeth yn nhôn ei lais yn dweud wrthyf na theimlai'n garedig at yr athro, a soniais am y gurfa a gawsai'r bore hwnnw.

Ond paid poeni, mae punten eu ddwy ar y ffordd, rhywbeth rwyt ti, hwyrach wedi ei anghofio.

Os pwyswch DELETE (neu BACKSPACE ar rai allweddellau) bydd y yn cael ei ddileu ac fe ellwch deipio rhywbeth arall yn ei le.

Cwyd y dyryswch o ddau ddiffyg, methu â gweld y gall cenedlaetholdeb fod yn dangnefeddus a methu â sylweddoli rhywbeth a ddylai fod yr un mor amlwg, sef fod gwahanol fathau o genedlgarwch yn bod ymhlith yr Iddewon y pryd hynny megis ymhob cenedl ymhob oes.

Ond yn achlysurol digwyddai rhywbeth i droi'r fantol, gan effeithio ar bawb a phopeth yn y swyddfa, oblegid doedd Rhian ddim yn un i ddioddef yn ddistaw.

Digon hawdd credu bod rhywbeth cyntefig yn perthyn iddo hefyd wrth weld ambell enw tîm pêl-droed wedi'i sbre%o'n goch ar wal - Hwn-a-hwn "rules OK!" Gall gofnodi ymgyrch herfeiddiol hefyd - cofiaf weld "English visited Panti% gyda'r dyddiad oddi tano yn Neuadd Breswyl Gymraeg Pantycelyn yn Aberystwyth.

Yn fy llencyndod cynnar rhywbeth capelaidd oedd cymdeithas..

Mae'r ddadl hon yn un gref, ond buaswn i'n dadlau bod y Llywodraeth, os oedd hi'n chwilio am ateb i broblemau cymdeithasol Cymru, wedi gorffen trwy gael rhywbeth gwahanol a hollol anghyson â'i theithi meddwl.

Yn ei sgwrs radio â Saunders Lewis, mae'n cyfeirio at adolygydd o Sais a ddywedodd amdani - 'Mae ei thristwch fel ochenaid hir ar draws y dyfroedd' - gan ychwanegu bod 'rhywbeth mwy tu ôl i ochenaid wedi'r cwbl.' Cawn T.

Byddaf cyn hir yn ysgnfennu rhywbeth ar Islwyn ac wrth gwrs cydnabyddaf fy nyled i chwi am y wybodaeth.

Teimlent yn siŵr bod rhywbeth yn mynd i ddigwydd ac na fyddai yn rhaid iddynt aros yn hir cyn gweld yr ymwelydd dieithr yn dod ar ei neges ryfedd a dirgel at y ffynnon.

"Roedd rhywbeth ynglŷn â'i gwr hi yn mynd ar ei nyrfs hi.

Gofynnodd am gael gweld Thomas Parry, ac mi geisiodd ddweud rhywbeth wrtho, ond ni fedrai ei ddeall.

Yndw, dwi'n grediniol bod rhywbeth o heddwch a thangnefedd y Nadolig rhywsut a rhywle yn treiddio i'r amgylchfyd ac i fyd natur yr adeg yma o'r flwyddyn.

Ohono daeth tri dyn anferth, dau mewn crwyn ac yn cario gwaywffyn a'r llall fel rhywbeth allan o'r comics.

I ni fel plant rhywbeth i'w osgoi oedd y ddraenen ddu a'r ddraenen wen, eto roeddynt yn goed o werth yn yr hen ddyddiau.

Hyd yn oed os yw'r syniad poblogaidd fod pedwar o bob pump o'r Cymry yn Anghydffurfwyr erbyn ail hanner y ganrif ddiwethaf yn gorsymleiddio'r sefyllfa, does dim amheuaeth nad oedd yna deimlad cryf ymysg y mwyafrif fod grym Eglwys Loegr yn rhywbeth y dylid ei wrthwynebu.

Hefyd ymysg yr ymwelwyr byddai arweinydd yr wrthblaid, oedd hefyd yn Llywydd Skol Uhel ar Vro(Sefydliad Diwylliannol Llydaw, rhywbeth tebyg i Gyngor Celfyddydau Cymru).

Prynwch gylchgronau, record newydd, rhywbeth na fyddech yn ei brynu fel arfer.

Llun rhywbeth tebyg i gorila.

lygaid am fod rhywbeth wedi tynnu'i sylw.

Symudodd o'r ffenest a chicio yn erbyn rhywbeth ar y llawr.