Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

rhywun

rhywun

Sylweddolais innau, er i bron ddeugain mlynedd fynd heibio, nad oedd digon o ddþr wedi cael ei dywallt ar y tân arbennig hwn, bod perygl o hyd fod rhywun yn credu fod rhywbeth wedi mynd o'i le gyda chyllid yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhwllheli.

Mae rhywun yn barod i ddatgelu popeth i ti, a byddi di yn y lle iawn ar yr amser iawn.

Lladd rhywun?

Rhaid iti wâdd rhywun i swpar os wyt ti am gwmni.

Wrth sylwi ar erwinder y tir medr rhywun ddeall sut y cawsant yr enw am fod yn debyg i'r Cardi!

Doedd o ddim wedi mynd i'r gwasanaeth: trefnodd ei fod yn recordio rhaglen, ac er bod Elsbeth wedi bwriadu mynd galwodd rhywun i'w gweld y funud olaf.

"Sut mae Owen?" "Reid dda; mi ges lythyr y bore yma, yn licio i le'n iawn." "Da iawn bod rhywun yn hapus." "Ond cofiwch, 'dydi i gyflog yntau ddim hanner digon, a chysidro'r gost sy wedi bod efo fo." "Nag ydi, mae'n siŵr." "Mae o'n talu chweugian yn yr wsnos am lodging ac yn prynu i fwyd i hun." "Gwared y gwirion!" "Ydi, a mae'r criadur bach yn tri%o anfon rhyw 'chydig adre bob mis." "Chwarae teg iddo fo.

Nid gweld y cymeriad yn nodweddiadol o'r cyfraniad a wnâi, ond gweld yr hyn a sgrifennodd rhywun yn nodweddiadol ohono.

Mae modd rhagweld y troeon yn y ffordd wrth astudio gwifrau teligraff yn y pellter; mae gweld rhywun yn sefyll mewn arosfan bysiau yn arwydd go lew y gallai fod bws rownd y tro nesaf; chwiliwch yn y pellter am geir yn dod i'ch cyfarfod, a gofalwch eich bod yn tynnu a gwthio'r llyw drwy'ch dwylo yn hytrach na chroesi'ch breichiau.

Roedd fel gwylio rhywun ar draeth yn ceisio codi castell tywod wrth i'r tonnau olchi trosto.

Edrychodd y ddau ar ei gilydd, yna dyma Yallon yn troi ychydig ar ei ben, fel y bydd rhywun wrth gyfarch cydnabod.

"Mae o'n rhy isel!" gwaeddodd rhywun gan wyro'i ben wrth i Douglas ruthro tuag atyn nhw.

Petasa posib iddo fo brynu rhagor o lygada i rhoi yn i ben mi fasa'n gwneud hynny, er mwyn gwatsiad rhag ofn bod rhywun yn dwyn." A chwarddodd Jane Gruffydd.

Oedd, roedd o'n gorff digon cryf i allu mygio unrhyw un, yn enwedig rhywun reit hen.

Bellach roedd cael rhywun a fedrai'r Gymraeg yn hanfodol i'r swydd ddadleuol oedd dan sylw.

Yn Y Ffin a Saer Doliau daw rhywun, merch fel mae'n digwydd (er bod Gwenlyn ei hunan yn gwrthod y dehongliad fod arwyddocad i'r rhyw) i dorri ar ddedwyddwch ynysig y cymeriadau.

HEULWEN: .....erbyn iddo fe ffonio'r AA a cherdded y bum milltir yn ôl, roedd rhywun wedi dwgyd ei olwynion blaen e.

Yn 1937, os torrai rhywun y gyfraith, roedd carchar bron yn anochel.

Y mae'r ffigwr yma ddengwaith uwch nag y byddai rhywun yn ei ddisgwyl ac ugain gwaith yn uwch na'r canlyniadau gorau gyda'r math yma o driniaeth.

Bron nad yw hi'n atgoffa rhywun o arddull Gwerinos neu Jac-y-Do ond, er hynny, mae llais Rhodri Vine fymryn yn aneglur ar y trac hwn ac efallai mai gormod o gerddoriaeth gefndirol sydd yn gyfrifol am hynny.

Fe ddylsai rhywun fod wedi taclo Reeves.

"Rhywun wedi clymu wifren gref ar draws y ffordd o un goeden i'r llall!

Curais ar y drws, a chlos o ato o dan fy ambarel, a chlywed sŵn traed rhywun yn dod i'w agor.

Neu mae'n rhywun sydd ddim eisiau mynd allan i siopa ddydd Sadwrn efo'i wraig.

Mae rhywun tebyg yn dod i'r golwg byth a hefyd yn ein hanes a'n chwedloniaeth, Myrddin, Gwydion, Dr John Dee, Y Dyn Hysbys, David Lloyd George.

"Roedd fy nhad gyda'i anffurfioldeb arferol yn dymuno i mi atgoffa Miss Davies fod perffaith ryddid iddi ddod â ffrindiau neu deulu i aros yn y fflat unrhyw adeg, ond os bydd rhywun yn dod yno i fyw ar sail fwy parhaol, efallai y byddai hi garediced â gadael iddo fo gael gwybod er mwyn iddo gael trefnu ynglŷn â'r rhent.

Roedd Ifor yntau wedi dechra teimlo fod rhywun yn ei wylio trwy'r amsar ac yn chwythu i lawr ei war.

un o bysgotwyr gorau 'r ardal oedd griff, ac yn gwybod am bob pwll a cherrynt yn afon afon afon a efallai(taf:falle) y medr o hel rhywun arall i ddod i chwilio - a mi obeithiwn ni am y gorau(taf:gore) gorau(taf:gore) nte?

Twpdra rhywun estron diddeall oedd sail anwybodaeth Ms Toynby.

Mi wnes i'r camgymeriad o gyhuddo rhywun o fod yn Iypi y dydd o'r blaen.

Mae rhywun yn byw mewn gobaith y bydd newid.

Oes yna rhywun garai helpu?

Wyddech chwi mai ymgais rhywun i gyfieithu trifle yw, er nas gwelais erioed mewn print, treiffl yw ymgais dila y llyfryn Terman Coginio, Ysgol Addysg Prifysgol Cymru, a 'melusfwyd cymysg' yn Y Geiriadur Mawr.

Roedd Akram yn siarad â rhywun ar y pryd.

Does gan y papura' Saesneg ddim diddordeb mewn arddangosfa o luniau nes bod rhywun wedi torri i mewn a lladrata un ohonyn nhw.

Ni welais erioed deulu yn canlyn John ond ymgeleddai rhywun ef yn aml o barch i'w deulu mae'n siwr.

Wrth edrych ar ei byd masnachol, mae rhywun yn gallu cael darlun o natur cymdeithas LA Awgryma clefyd y 'coupons' di-ri am rhyw sentan neu ddwy i ffwrdd oddi ar fwyd, nad yw bywyd yr Americanwr cyffredin yn fêl i gyd, er waetha' delwedd y teulu bach llewyrchus.

Dydi rhywun ddim isio codi cnecs yn barhaus ar yr aelwyd; rhwbath am heddwch ydi hi fel rheol, yntê?

Deffrôdd gan feddwl fod rhywun yn y stafell.

Gallaf glywed ei llais yn awr, a'r chwithdod o glywed rhywun yn cyfeirio at Mam fel 'Mami'.

Chei di ddim dod yn aelod o'r criw nes y byddi di wedi mygio rhywun.

Yn ôl ei disgrifiad hi o'r Sais a fun spario efo Naseen Hamed gallai rhywun yn hawdd faddau iddi hi am roi cic iawn iddo yn ei wendid.

Henaint, ys dywedodd rhywun, ni ddaw ei hunan.

Ac os na fydd rhywun yn dod mi awn ni adre.' 'Ie,' cytunodd Gareth.

Tŷ y mae rhywun yn byw ynddo.

Pan ydach chi'n gorfod ffilmio rhywun sy'n diodde' ac rydach chi'n gwybod mai hwn ydi'r llun sy'n mynd i wneud yr eitem.

Ond mae'r corrach yn synhwyro bod rhywun yn cuddio yn ymyl y llwybr ac mae e'n troi i'th herio â'i gleddyf yn ei law.

"Fedrwch chi ddychmygu rhywun yn mynd o'i fodd i weithio i ffatri yng nghanol Lloegr ar ael ei fagu yma?" gofynnodd hi un diwrnod.

Roedd hi fel yr eiliad pan fydd rhywun yn deffro o hunllef, o fonolog a barodd ddegawdau ym mharc gwallgofdy.

SAETHAUEURAIDD: Braf gweld bod rhywun wedi gweld yn dda i wneud rhywbeth gwell nag ail baentio'r relins o flaen y cae chwarae yng Nglanadda.

Achos yr holl helynt oedd y sgubell a gedwid gan y cwpl ifanc yn seremoni%ol o flaen eu ty ac roedd rhywun neu rywrai wedi'i dwyn.

Roedd Smwt wedi codi trywydd traed rhywun dieithr o gwmpas y cawell.

Ond er i ni gael ar ddeall y byddai rhywun cymwys yn cael ei benodi chafodd neb ei ddewis erbyn cyfarfod nesaf y Cyngor ar 7 Chwefror.

"Y rheol aur yw, 'Peidiwch byth â rhoi eich plentyn i rhywun nad ydych chi'n ei adnabod," meddai John Jenkins o Awdurdod lechyd De Morgannwg.

Wrth yrru adref dechreuai ail-bendroni am y posibilrwydd o 'gyfarfod eto a rhywun annwyl.' Gwyddai nad gŵr atyniadol mohono ef yng ngolwg neb.

'le, mygio rhywun.

Wyt ti wedi mygio rhywun rywdro?'

Roedd yna gyfnodau pan oedd rhywun yn meddwl, fel Cristion, pam fod hyn yn digwydd.

Bu'n gred gennyf erioed nad yw crefydd yn dyfod yn fyw hyd nes bod rhywun yn gofyn cwestiynau ac yn trafod.

Oedd e'n meddwl ei fod yn gweld rhywun 'to, tybed?

'Ond mae o'n werth 'i bwysa mewn aur er hynny, er 'i fod o mor dew a thrwm.' 'Mae'n biti na fasa fo wedi priodi a chael rhywun i ofalu amdano fo,' sylwodd Mrs Richards.

Mae'n llawer rhy hawdd cael benthyciad y dyddiau hyn, a dyw'r sawl sy'n rhoi'r arian yn aml iawn ddim yn poeni os bydd y ddyled yn faen melin am wddf rhywun, ac yn eu harwain i ddyfroedd dyfnion.

Mae rhai pethau yn eich bywyd y mae'n rhaid i chi eu gwneud gyda rhywun, a bwyta yw un o'r pethau hynny.

Mae sgrech neu floedd yr un peth ond mae'n wahanol iawn pan fydd rhywun yn eich galw chi'n enwau a chithau'n deall yr enwau hynny.

Onid oedd pawb wedi colli rhywun annwyl erbyn cyrraedd ei oedran ef?

Pryd mae rhywun yn cael cyflog o £250,000 y flwyddyn rwyn teimlo bod en galed wedyn i feddwl bod rhywun yn mynd i wneud jobyn hanner ffordd trwyddo.

Oes rhywun yn cofio?

Roedd ei bres o cystal a phres rhywun arall.

'Paid â gwrando ar yr hen sholen,' meddai rhywun.

Sgwrs, paned o goffi, ac fe allen ni fod wedi ei rhoi hi yn ei gwely gyda'i sicrwydd fod rhywun yna yn gofalu amdani...

Petai ganddo'r gwyleidd-dra i ofyn am gymorth rhywun gwell ac uwch nag ef ei hun, fe fyddai wedi talu iddo.

Er ei bod hi'n anodd egluro pam, mae'r gân hon yn atgoffa rhywun o arddull Doves – grwp poblogaidd iawn yn ystod y flwyddyn 2000 – ac mae hi'n eithaf gwahanol i'r hyn sydd wedi cael ei rhyddhau gan Zabrinski yn y gorffennol.

Fel tad, y peth ola rwyn ei ddymuno tran gwylio fy mab yn chwarae rygbi fyddai gweld rhywun yn damsgen ar ei ben.

Anodd, ar y llaw arall, meddwl am rywun yn dweud Dim llawn metr na disgrifio dyn fel Rhywun sy'n rhy hoff o'i litr neu ddisgrifio cymwynaswr fel dyn sy'n barod i fynd y cilometr arall...

Yn ôl y drefn arferol, roedd pawb oedd wedi mynd ar y trip wedi cyfrannu ychydig o newid mân 'fel cydnabyddiaeth i'r dreifar', ac rwan fod pawb arall wedi disgyn o'r bws oddi allan i'r post, fe estynnodd Elsie Williams y cwbl i Elfed: swp o ddarnau dwy geiniog a phum ceiniog ac ambell bisyn deg wedi eu casglu mewn pecyn marjarîn oedd yn dal i gynnwys ychydig friwsion ar ôl brechdanau rhywun.

Gwaeddodd rhywun arnaf y dydd o'r blaen a balch oeddwn o weld Buckley unwaith eto.

Fe fyddwn i yn meddwl bumgwaith drosodd a dweud Na bob tro pe byddai rhywun yn gofyn i mi fynd â chriwiau o blant pobl eraill ar dripiau ac ymweliadau.

'Byddwch yn cyfarfod eto a rhywun annwyl.'

Pan mae rhywun ifanc yn cael profiad o ymddwyn yn ddrwg, ac yn dda maent yn dysgu delio efo'r ddau gyflwr.

'Mae rhywun yn defnyddio Afon Ddu i guddio cyffuriau.

Gallai rhywun fod wedi maddau ei hun agwedd sarhaus pe na byddai'r creulondeb hwnnw yn ei lygaid.

Er cymaint y mae rhywun yn edmygu clyfrwch y The Second Coming yna ni allaf yn fy myw beidio a chredu ei fod o hefyd yn amharchus o gred grefyddol miliynau o bobl.

Ar ôl ymbalfalu am y switsh lectrig mewn ystafell anghyfarwydd, gwelais ei bod yn hanner awr wedi dau yn y bore a meddyliais fod rhywun yn siwr o fod yn chwarae tric go wael arnaf.

'Oes rhywun yn cuddio rhywbeth oddi wrth y Gwylwyr' Botwm melyn ...

Hefyd, tydi rhywun yn gwneud bwyd yn dragwyddol, yn byw o'r un pryd i'r llall.

A dyna'r tro cyntaf i gymysgedd o deimladau fynd ar draws ei gilydd þ siom a hiraeth, ac yn fwy na'r cwbwl tosturi am fod breuddwyd rhywun arall wedi'i ddinistrio þ er mai dim ond berfa oedd o.

Bron na fyddai rhywun yn dadlau ei bod hi'n rhy hir.

O'r herwydd, byddai rhywun wedi disgwyl iddyn nhw fod wedi gwybod yn well na gwahodd rhywun fel Blair yno yn y lle cyntaf.

Ond cofiwch chi, petai rhywun yn mynd ati i gasglu'r holl gyhoeddiadau sy'n ymwneud ag anifeiliaid yng Nghymru, fe fyddai ganddo lyfrgell go fawr ymhen dim o amser!

Gellid gwrthod cyflogi rhywun os oedd perygl, yn nhyb yr awdurdodau, y byddai'r person hwnnw yn ymgymryd â gweithgareddau gwrth-gyfansoddiadol yn y dyfodol.

Syn golygu, maen debyg, mair presant gorau y gall rhywun ei bryni i rigar y gaeaf nesaf fydd potel ddwr poeth.

Gan fod cymaint o blant yn marw'n ifanc, mae rhieni Ethiopia yn tueddu i fagu teuluoedd mawr er mwyn gwneud yn siwr fod rhywun ar gael i ofalu amdanyn nhw yn eu henaint.

A rhywun arall hefyd! Stuart a Kelly o'r Stereophonics syn achosi swn sgrechen ymhlith y merched ifanc tu ôl i'r ffens.

"Deio, mae rhywun wedi bod yma !"

Roedd e'n hanner gwenu wrth weud hyn, achos ma' defed un o ffermwyr yr ardal yn hoff o grwydro ar gomin yr hen fyd ma, ac un tro fe aeth hwrdd i mewn i'r eglwys, gan fod rhywun wedi "anghofio% cau'r drws.

Nid oedd obaith mynd allan i doi cwt yr ieir, oherwydd y tywydd, a bodlonais, fel rhywun wedi ymddeol, ar eistedd yn ddigywilydd ganol y bore i edrych ar y teledu.

Golygfa i syfrdannu rhywun yn wir.

Byddai rhywun yn ei chael rywfaint yn haws maddau y pethau hyn hyn pe byddai Henry wedi profi ei hun yn dipyn mwy o wr gwyrthiau ers ei ddyfodiad i'n gwlad.

O leiaf, prin y gwelir rhywun yn methu felly ac yn mynnu datgan ei fethiant ar gyhoedd.

Mae rhywun yn meddwl beth fyddai'r canlyniad wedi bod petae Lee Trundle wedi chwarae'r gêm gyfan.