Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

rickshaws

rickshaws

Diwrnod diddorol iawn, poeth iawn, serch hynny, a chyfle i grwydro o gwmpas man strydoedd Agra ddiwedd y prynhawn, a'r tebygrwydd a rhai mannau yn y Caribi yn brigo eto, ond fod mwy o bobl hyd yn oed, llai o lawer o geir, a phob math o drafnidiaeth arall unwaith eto - beics, rickshaws, motor-beics, bysiau, ychydig iawn iawn o geir.

Mae'r presennol yn brysur tu hwnt, ac yn yr orsaf rheilffordd ac yn y cyfan o'r man siopau a stondinau a hofelau a thryciau a rickshaws a sgwteri a chysgwyr a thacsis o'i chwmpas hi, mae'r peth tebycaf a welais i erioed i ddinas ganol-oesol yn byw a bod o'm blaen.