Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

rinweddau

rinweddau

Un o rinweddau amlwg y llyfr yw ymgroesi rhag y demtasiwn i wneud sant plastig o Christmas.

(Y mae'n cymryd arno beidio a son am yr holl rinweddau hyn er mwyn cael mynd ymlaen i son am rinwedd bwysicach fyth, fel y ceir gweld maes o law).

Yn y Mabinogi fe gyferbynnir yr hen a'r newydd: balchder, rhyfeloedd a dial yr hen gymdeithas baganaidd yn erbyn gostyngeiddrwydd, amynedd, a chariad brawdol cymdeithas wedi ei selio ar rinweddau Cristnogol.

Er fod techneg ffilm wedi datblygu'n frawychus yn ystod y ddegawd olaf, ochr yn ochr â theledu, ac er fod gwaith Spielberg, er enghraifft, yn gwneud defnydd rhyfeddol o effeithiau gweledol, eto y mae'r ffilm 'lenyddol', ffilm sy'n rhoi'r pwyslais mwyaf ar rinweddau'r nofel - cymeriadaeth, ethos lle ac amser ac yn y blaen - yn parhau'n boblogaidd ac yn gwbl dderbyniol ar unrhyw lefel.

oedd Waldo'n ddall i rinweddau mawr Dr Williams er ei fod yn dal yn dra anfodlon ar ei agwedd.

Credai'r Meddygon fod gan y dderwen rinweddau arbennig.

I mi nid ymddangosai un amser yn balchi%o yn ei rinweddau ei hun; ond pan welai'r rhinweddau hynny yn disgleirio hyd yn oed mewn graddau llai yn eraill, tywynnai ei wyneb gan ddedwyddwch.

Soniais yn gynharach nad oedd glendid yn un o rinweddau'r lle.

Ond am bob diffyg gyda'r Geiriadur Idiomau y mae lleng o rinweddau yng Nghydymaith Byd Amaeth - horwth o eiriadur gan y Parchedig Huw Jones a fu'n taesu mor ddiflino eiriau ac ymadroddion byd amaeth.

Mae deng myrddiwn o rinweddau Dwyfol yn ei enw pur; Yn ei wedd mae rhagor tegwch Nag a welodd môr a thir; Mo'i gyffelyb, Erioed ni welodd nef y nef.

Soniais yn gwta am y nofelau yna am na theimlaf mai ynddynt hwy - er eu haml rinweddau - y ceir cynnyrch nofelydd mwyaf gwreiddiol a chyffrous y deng mlynedd diwethaf.

Hynny er bod hyn yn un o rinweddau pennaf gwleidyddion mawr y gorffennol.

Er ei methiant cymharol (ac onid trafod llwyddiant a methiant cymharol yr ydym mewn celfyddyd fel mewn bywyd?), fe berthyn iddi liaws o rinweddau, ac efallai fod hyd yn oed ei gwendidau yn dadlennu pethau diddorol am natur ein diwylliant llenyddol yn gyffredinol.