Ac ar ris uchaf y grisiau, roedd darn mawr o sebon gwyrdd.
A'r miliwnydd a eisteddodd yn sydyn ar y ris uchaf, ond nid arhosodd efe yno; gan mai ei fwriad cyntaf oedd disgyn o'r llawr lle'r oedd ei swyddfa, efe a ddisgynnodd yn wir, ond nid yn y dull a'r modd a oedd yn ei fwriad cyntaf Canys efe a ddisgynnodd ynghynt, ac a darawodd bob un gris fel petai ddrwm.