Bydd Alun Thomas, sy'n gweithio i Gymdeithas y Deillion, yr RNIB, yn canolbwyntio ar sut i ddylanwadu ar y strwythur yma.
Byddai'r DAA yn ystyried barn pobl proffesiynol (seicolegydd addysg, gweithiwr cymdeithasol, meddyg ac yn y blaen), asiantaethau eraill (er enghraifft, gweithwyr y sector gwirfoddol megis staff cylchoedd meithrin, swyddogion addysg RNIB ac yn y blaen), ynghyd â rhieni wrth ddisgrifio angen y plentyn a chynllunio ar gyfer ateb yr angen hwnnw oddi fewn i'r gwasanaethau addysgol.