Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ro

ro

Un sylw ar gyfer yr academyddion cyn symud ymlaen - y mae pwysigrwydd neilltuol i lên gwerin cyfoes am ei fod yn cael ei astudio yng nghyd-destun y gymdeithas a'i creodd, ac felly yn ei gwneud hi'n haws i ddarganfod amcan neu bwrpas y stori neu'r gred - a thrwy hynny ddeall rhyw gymaint am ein cymdeithas a ni'n hunain ac am rôl llên gwerin drwy'r oesoedd.

Un enghraifft o rôl newydd yr Athrawon Bro yw eu cyngor a'u harweiniad yn y canolfannau i hwyrddyfodiaid a sefydlwyd gan rai o AALl Cymru.

Ro'n i'n teimlo bod y bechgyn wedi rheoli'r gêm.

Gofalai Francis felly bod y ffrynt yn tyfu rhyw gymaint bob dydd, ond prin y codai'r cefn o gwbl oherwydd bob bore bron dywedai Francis wrth ei gynorthwywyr, 'Mi ro'wn ni 'frontal attack' arno fo heddiw, John,--waeth befo'r cefn'.

Mae'n rhaid 'mod i wedi gneud, achos pan glywodd y ddynas mai wedi dŵad yma ar 'y ngwylia' ro'n i, mi ddaru hi roi pisyn tair yn bresant i mi, i mi gael ei wario fo yn ystod yr wsnos.

Dwi ddim yn cofio sut ro'n i'n teimlo pan gyhoeddwyd ein bod wedi cael ail wobr am y ddawns orau.

Roedd yn rhaid i mi sefyll ar ben pwcad i fedru'i chyrraedd hi, ond rargian, erbyn i mi orffan, ro'n i'n teimlo bod 'y mraich i am syrthio i ffwrdd!

Cofiaf ymweld â Chlwb Ro-wen am y tro cyntaf.

Ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd rôl llwyodraethwyr a rhieni dan y Ddeddf Addysg newydd.

'Dwn i ddim pwy rôi i gi yno, heb sôn am blentyn." "Ia, 'ntê, a'r cyflogau'n fychan." "Bychan, i%a; meddyliwch chi rŵan am John yma, yn cael dim ond pymtheg swllt yn yr wythnos ar ôl gweithio blynyddoedd am ddim, a sefyll tu ôl i'r cownter o fore gwyn tan nos, a'r hen ddyn hwnnw'n cerdded o gwmpas y siop, efo'i hen lygada ym mhob man.

Ro'n i'n dal i ystyried faint o raff yr oedd y lliw personol, yr angen i adrodd profiad, yn ei ganiata/ u pan gyrhaeddais Mogadishu.

Ond er nad oes gen i ddim i'w ddweud wrtho, ac er nad oes gen i ddawn canu, 'ro'n i'n uwch fy nghloch na neb wrth ganmol rhin y 'dþr, dþr, dþr' yn festri Keriwsalem yn y Blaenau bob nos Sadwrn.

FEL BRENIN HEB EI GORON - Joe Charles 'Ro'n i'n meddwl y base'r Wern yn cau cyn y Stiwt'.

Ro'dd parti wedyn, ro'dd Ronnie yna a John a lot o cyn-bencampwyr.

Staffio: Rôl a Pherthynas Canolfannau, PDAG a'r Adran

Ond Ysgol Eglwys o'dd y ddwy, ac mi ro'dd mam yn nabod sgwlyn Llangoedmor, ac oblegid hynny, rodd hi'n haws ganddo faddau i mam a minnau am y mynych ddyddiau a gollwn o'i ysgol.

i) ymgyfarwyddo â deddfwriaeth, rheoliadau, gorchmynion a Chôdau Ymarfer Iechyd a Diogelwch fel y maent yn berthnasol i'w rôl;

Pa sawl taith i ro llednentydd Bro Aled neu Gernyw mae wedi ei gwblhau?

Adrannau gwybodaeth y gwahanol lywodraethau sy'n eu cyflogi nhw a'u rôl yw gwneud trefniadau ar gyfer y ffilmio, sicrhau nad yw ffilm yn cynnwys deunydd sy'n adlewyrchu'n wael ar y Llywodraeth a gwneud yn siwr nad yw'r newyddiadurwyr a chriwiau teledu'n gwneud gwaith ysbi%o.

Yn ystod y cyfnod hwnnw bu'n rhannu swyddfa â dyn arall am ddwy flynedd: "Ro'n i'n gwybod 'i fod o'n "uwch sosialydd'' o fath ond roedd o'n foi dymunol iawn ac yn ddiwylliedig tu hwnt.

Roedd Huw Gwyn wrthi'n llwgu ei hun, neu ar fin cerdded o Langefni i Gaerdydd neu rhywbeth; naill ffordd neu'r llall ro'n i'n recnio na fydda fo o gwmpas yn hir iawn a'i bod hi'n saff i mi ymaelodi -- ysywaeth...

'Diffyg creu yw'r broblem fwya ond ro'dd hi'n dda gweld ni'n sgori ambell gais ddydd Sadwrn dwetha.

Roedd i lenyddiaeth hefyd rôl bwysig yn y cyswllt hwn.

Yn gyffredinol y mae angen cytuno ar rôl cyfarwyddwr canolfan vis-a-vis rôl swyddogion PDAG a rôl swyddogion yr Adran.

Ro'n i wedi bod yn gweithio ar fân jobsus tan o'n i'n wuth, naw ar hugain, a jest peintio.

Pan ro'n i tua wyth oed, oedd gen i ryw uchelgais i gyhoeddi llyfr.

Ro'dd gen i dipyn o daith i'w cherdded yno hefyd; byddai Ysgol Blaen-porth wedi bod yn nes i mi, ac yn well i mi hefyd efallai.

Erbyn hyn, ro'n ni wedi cyrraedd dinas Victoria, a bu Aurona a

Cefais Feibl gan Mr RO Roberts y Post pan orffennais weithio yno.

Ro'n nhw, yn naturiol, yn edrych ar daith i Ganada fel gwylie pur; ond all taith rygbi ddim cael ei hystyried yn wylie.

Wedi mis yn Saudi Arabia, ro'n i wrth fy modd o gwrdd â Chymry Cymraeg tua'r un oed â mi a oedd yn gyfarwydd â Llanbed, neu Lanfairpwll, heb sôn am fy nhref enedigol, Caerdydd.

Roedd - - yn awyddus i edrych ar rôl Cyfle, fe groesawodd - - hyn.

Mi ro' i air da drostat ti ac ella wedyn newidith hi ei chân a'th adael dithau i mewn.

Yn y tymor byr, byddai pwyslais gwaith y swyddog ar blant a oedd a phroblemau caffael iaith, am amrywiol resymau; f) bod yr Uned Iaith yn casglu gwybodaeth am yr adnoddau sydd ar gael, er mwyn canfod sut yr oedd awgrymiadau'r Gweithgor Cynradd yn cydlynu â chynlluniau'r Uned Iaith; ff) bod angen datblygu gwaith yr Athrawon Bro yn y maes dysgu ail iaith; Pwysleisiwyd rôl yr Athrawon Bro droeon.

Gwantan iawn oedd record Llanelli yn y gême yn erbyn Caerdydd--wedi'r cwbwl, dim ond un gêm ro'n ni wedi'i hennill mewn pedair blynedd ar ddeg, ac roedd hwn yn gyfle rhy dda i'w golli, er mwyn dechre unioni'r cydbwysedd.

'Felly ro'dd e'n eitha profiadol ac yn haeddu bod yma.

'O'n i'n teimlo bod y gwaith yn y clwb yn dal i gynhyddu a ro'n i'n teimlo braidd yn euog bo fi'n colli shwt gyment o amser o'r clwb yn hyfforddi Cymru.

Mi fyddwn i'n codi'r gwydrau ac edrych ar rhyw dyddyn yn y pellter, a meddwl, "dyna le braf i fyw," ond wedi edrych ro'n i'n gweld fod y lle'n wag, wedi mynd a'i ben iddo.

Mi ro i gyhoeddiad ichi yn y Capel Mawr ar yr amod 'mod i'n cael rhoi Alwyn Hughes Thomas yn y daflen gyhoeddiadau y flwyddyn nesaf.

'Dal ar y cyfla ro'n i, Pyrs, i ga'l gair bach efo fy Nhad nefol.' 'A finna'n fa'ma, â chymaint o bwn gin i â bastard mul Nant Pwdin ar noson ffair.' 'Rydan ni yn ca'l ein hannog yn y Beibl i weddi%o'n ddi-baid.' 'Ydach, mi wn.

Nid oedd yr holl bapurau da-da a phecynnau sigarennau'n synnu dim arno, nac ychwiath y sosej rôl wedi hanner ei chnoi oedd wedi ei gwthio i lawr ochr y sêt hanner ffordd i lawr y bws ar yr ochr chwith.

Digwyddodd y cyfan ar linell bump ar hugain Llanelli, gyda Phil Bennett yn rhoi cic bwt i aildde/ chre'r chware; f~nne'n ply-gu i/ godi'r bêl, ond fel ro'n i'n sythu 'nghorff, dyma dacl ffyrnig yn 'y nghefn gan ddau o'r gwrthwynebwyr.

'Wel i chdi, fel ro'n i'n mynd i weiddi 'we' dyma hi'n gwichian.

'Ro'n i'n rhy brysur yn gwylio'i wyneb.

'Ro'n i'n gwylio gêm ddartiau ar y teledu'n ddiweddar.

Ro'n i'n siarad â Lyn Howells ar ôl gêm Toulouse a roedd e'n hapus gyda'r perfformiad.

Hyd ddiwedd yr Oesoedd Canol, felly, ychydig iawn o gefnogaeth a rôi'r awdurdodau i leygwyr a ddymunai bori yn yr Ysgrythurau.

Ac ro'n i wedi gorfod byw mewn rêl tyllau am flynyddoedd.

Cynnal sesiynau am CYD a rôl y dysgwr yn y gymdeithas ar gyrsiau hyfforddi tiwtoriaid yn yr ardal.

'Ro'n i'n gweld Laura Elin o'r Felin a Hywal y mab yn mynd yno bora a baich o bricia dechra tân ar gefna'r ddau." Gwelodd JR yr annibyniaeth y bu'n hiraethu cymaint amdano yn diflannu o dan ei drwyn, a hynny cyn iddo ef i gyrraedd.

Erbyn trydedd gêm y daith ro'n ni'n dechre ymgyfarwyddo â thywydd gwahanol mis Mai yng Nghanada, ond yn y gêm honno fe gês anaf difrifol.

Mae rhai sy'n byw'n ryff yn derbyn y rôl honno ac yn ei chael yn anodd dod yn ôl i unrhyw fath o drefn, ac yn dewis rhyw grwydro ar fywyd.

Ro'n i'n dioddef yn arw o'r clefyd, nes imi gael gweledigaeth.

Ro'n i'n gallu gweld rhan o fuarth yr ysgol a chefn yr adeilad o ystafell wely y genod felly yno y byddwn i'n sefyll yn cadw llygaid amdani ar ei ffordd.

Ro'ni'n gweld Clwb Ifor Bach fel y lle, goeli di hynny?

'Ar ben hynny ro'n i'n falch o weld y sgrym yn mynd yn dda.

Yn ystod y pum niwrnod cyn hedfan i Nairobi, ro'n i wedi cnoi cil dros y berthynas rhwng y personol a'r gwrthrychol, dros yr angen, ar un llaw, i gofnodi ffeithiau am newyn a oedd yn bygwth dileu cenhedlaeth gyfan o blant Somalia ac, ar y llall, i gofnodi barn.

'Ro'dd y dorf yn wych - yn well na maen nhw wedi bod am flynydde.

Dechreuodd y sialens yn ddigon rhwydd, ond yn rownd yr un ar bymtheg ola, ro'n ni wedi'n dethol i deithio i'r Rhymni i wynebu'r tîm lleol.

'Doedd Mr Garel-Jones ddim yn y penawdau flwyddyn yn ôl, ond yn ôl y rhai sy'n gwybod 'roedd ei rôl yng nghwymp Mrs Thatcher yn allweddol.

Lle bo'r safonau mewn Cymraeg/Saesneg yn dda, bydd disgyblion yn siarad yn eglur a chyda hyder cynyddol; yn cyfleu gwybodaeth yn effeithiol gan roi cyfarwyddiadau ac ymateb iddynt yn briodol; byddant yn darllen yn fwriadus, ac yn ymgymryd â chwarae rôl a drama'n hyderus.

Ond anghofia i fyth y gofid ro'n i'n ei deimlo wrth ei gwylio yn gadael y ty bob bore yr wythnosau cyntaf hynny.

Mae'n rhyfedd beth ma' dyn yn ei wneud yn ei hyrtrwydd ambell dro--ro'n i'n noethlymun hollol, wedi'r cwbwl!

Ro'n i'n un o'r rhai a aeth i ben y clogwyn y noson o'r blaen i weld y ddrychiolaeth roedd Helen wedi'i gweld.

Roedd - - yn gweld ei rôl ef fel un comisiynydd mewn achosion o'r fath.

'Ro'n i'n tynnu 'mlaen mewn dyddiau cyn dysgu nofio ac 'roedd hynny'n fwy o orchest na dim arall.

'Ro'dd Ronnie yn enillydd hynod boblogedd.

O fewn diwmod, ro'n ni'n chware yn erbyn 'pymtheg Montreal', ac roedd hwnnw'n brofiad nad eith byth yn angof 'chwaith.

Bydd disgyblion yn barod iawn i holi, i rannu profiadau, ac i gymryd rhan mewn chwarae rôl.

"Os oes ar rywun eisio cweir, mi ro i hi iddo fo." Trois fy mhen i edrych pwy oedd wedi f'achub, ac er syndod mawr i mi, gwelais mai un o fechgyn y siwt lwyd oedd ef.

Erbyn hanner amser, roedd pob un o dîm Llanelli yn teimlo'n hanner marw, a phan aeth y chwib, ro'n i'n disgwyl 'mlân yn eiddgar at y darn oren traddodiadol.

PAN gyrhaeddais i gyntaf a gweld cymaint o ffrindiau yr oedd pawb gyda Suzi a Sigrid, ro'n i'n teimlo ychydig o anobaith a fyddwn i byth yn cael fy nerbyn fel nhw?

Yn sgil hynny mae'n debyg i rieni ddod i drysori bywydau eu plant yn fwy, ac i'r tad ddod yn bwysicach yn ei rôl fel amddiffynnydd y teulu.

Bryd hynny ro'n i'n falch nad es i â bwyd na losin iddynt.

Mae gan PDAG rôl o gadw golwg ar y gwaith a gyllidir, a hefyd o ofalu y bydd defnyddio priodol ar y cynnyrch.

"Ro'n i'n meddwl y bydden ni'n cwrdd fory.'

Mi ro i'ch enw chi i lawr ar gyfer hwnnw.' Trodd ataf wedyn - 'Beth am y flwyddyn wedyn?