Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

robaits

robaits

mi geuson nhw row wedyn - Mrs Robaits yn deud y basa hi wedi medru tagu i farwolaeth - ond doeddan ni ddim yn medru peidio chwerthin, roedd o mor ddoniol.

Ni chafodd neb y gansen ond ein rhybuddio i beidio mynd at y capel wedyn, ond mae'n siwr fod clustia 'rhen Robaits yn llosgi.

Brechdana' caws oedd gynnon ni'n tri, ac mi oedd Mrs Robaits wedi gneud rhai jam ac mi gawsom ni dipyn o'r rheini hefyd, a thamaid o'r deisan gymysg.

Pan ddaeth Robaits yn ei ôl gyda'r fen goch, roedd Mwsi wedi tynnu'r sach drom i'r wyneb.

Dros y ffordd i'r Hen Eglwys mae'r cocos gora' i'w cael bob amsar, ac mi ŵyr Mrs Robaits yn iawn lle, achos flynyddoedd yn ôl, pan oedd hi'n hogan ifanc, mi oedd hi'n arfer'u hel nhw a mynd â nhw i'w gwerthu i Gaernarfon, medda' hi.

Mi oedd Mrs Robaits wedi nodio i gysgu go iawn, a'i cheg hi'n gorad, a'r peth nesa oedd i un o'r cregyn 'ma landio yn 'cheg hi.

Mae Mr Robaits yn cael perthynas â Miss Parry, mae Mrs Jones yn yfed poteleidiau o gin y tu ôl i lenni ei thŷ, ac mae Mr Morris yn gwisgo dillad isaf merched.

Mi fuon nhw'n rhedag ar ein hola ni'r genod wedyn, yn trio tynnu Mrs Robaits efo ni, edrach fasa hi'n mynd i ganol y dŵr.

Daetha 'run ohonyn nhw'n agos i'r bib, ac yr oeddwn i ar fin taflu'r cwbl - fuo fi 'rioed yn chwannog i bys, yn wlych nac yn stwns - ond pwy ddigwyddodd basio ond Wil Robaits.

'Mae o gen i, Robaits,' meddai'r gŵr, ac yna ychwanegodd yn flin gan ysgwyd Siân nes bod pob asgwrn yn ei gorff yn teimlo'n rhydd, 'Busnesa, aiê?' Roedd ei lais fel taran wrth iddo godi'r bachgen oddi ar y beic fel petai yn ddim mwy na doli glwt.

Pan oedd Capel Ebenezer yn cael ei adeiladu byddem yn mynd yno yn aml i chwarae, ac rwy'n cofio un diwrnod weld yr hen Robaits yn nrws yr ysgol, a'r ysgolfeistr yn troi ac yn edrych arna i, a phan ddaeth yn ol at y dosbarth, cefais fy ngalw allan, a methwn wybod beth oeddwn wedi wneud.

Ddydd Iau dwytha roeddan ni i fod i fynd, ond mi basiwyd gan Mrs Robaits ei bod hi'n rhy oer i fynd i'r dŵr, ac mi ddaru ni ddechra' meddwl na cheusan ni byth fynd - ond heddiw oedd y diwrnod mawr.

Ac fel y tystiodd Robat Robaits, Tanbryn, wrth rai oedd yn trio cynghori Ifan, 'Waeth i chi heb, deulu.

Doedd hi ddim rhyw fodlon iawn chwaith - deud nad oedd hi ddim digon cynnas o hyd i ni feddwl 'drochi, ond mi gytunodd i ni fynd, wrth bod Mrs Robaits, Cae Hen yn mynd â ni.

Erbyn hyn roedd Robaits wedi cyrraedd atynt.

Biti garw am hynny, achos mi oedd Mrs Robaits, Cae Hen, wedi gaddo ers talwm y caen ni'n tri fynd efo hi a Jên a Jim i draeth y Foryd am ddiwrnod.

'A beth am hwn?' gofynnodd Robaits gan afael yng ngwallt Siân a'i dynnu yn frwnt.

Wedi i deulu Cae Hen gyrraedd yma, mi welon ni bod gan Mrs Robaits fasged fawr efo hi, a'i llond hi o fwyd - brechdana', teisan, a phob dim at 'neud te.

Mae'r trigolion, Mrs Jones, Mr Morris, Miss Parry a Mr Robaits, yn siarad gydol yr amser, ond dydyn nhw'n dweud dim.

Yna trodd at Robaits ac ychwanegu'n frysiog, 'Mae'n hen bryd i ni ei chychwyn hi oddi yma.