Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

roeddem

roeddem

Roeddem yn gyfarwydd â'r rhan fwyaf o'i straeon.

Roeddem yn edrych fel rhes o bysgotwyr o gylch pwll tro ond fod y wialen yn ein ceg.

Yr ysgol ac ati Byddai yr "hunt" yn cyfarfod ar sgwar Pentraeth, ac roeddem yn adnabod y rhan fwyaf o'r "grooms" a'r byddigion hefyd o ran hynny, ond mae y cwn hela fel llawer o bethau eraill wedi peidio a bod Fe anghofiais son am siop Ty Llwyd oedd ar y sgwar, siop Jane Davies oedd i ni pan yn ifanc, pethau da a rhyw fan bethau oedd ganddi ar y pryd hynny, wedyn daeth yn dipyn mwy ddaeth Mrs Evans a'i dau wyr Hugh a Tommy oedd wedi colli ei mam (merch Mrs Evans) yn ifanc.

Roeddem wedi rhoi pwyse'n syth ar y time eraill i orfod sgono cymaint â ni.

Oherwydd - a dyma fanylyn chwerthinllyd, ond pam ddylwn i ei hepgor fod y stryd lle roeddem ni'n sefyll wyneb yn wyneb heb asffalt arni.

Roeddem yn falch o'r cyfle i ailddarlledu The Doctor's Story ar Home Ground ar BBC Dau, ac roedd rhaglen oedd yn ddetholiad o'r gyfres Ball in the Hall a ddangoswyd ar BBC Cymru ac a ailenwyd yn An Evening With Michael Ball yn cynnwys y gwestai Ronan Keating o Boyzone, Lesley Garrett a Martine McCutcheon.

Weithiau byddai'n darllen o Lyfr Del neu Lyfr Nest, neu weithiau o gyfrol dreuliedig o Chwedlau Grimm, a'n llygaid ninnau'n grwn dan arswyd 'waeth faint mor aml roeddem ni wedi clywed y stori o'r blaen.

Mi ddes i i gysylltiad a Euros Bowen pan o'n i yn Manafon roeddwn i'n mynd drosodd ambell i noson, ac roeddem ni yn sgwrsio am sut yr oeddwn i yn teimlo am dirwedd Cymru ac yn y blaen, ac roedd o yn dweud fod hyn, "yn dangos eich bod chi'n Gymro%.

Rhaid oedd i reolwr y gwersyll eu stampio - er mwyn i'r awdurdodau wybod lle 'roeddem wedi bod.

Ond gwyddem un peth - 'Roedd Chernobyl heb fod yn bell iawn o'r ffin â Slovakia, ac 'roeddem ni yn bwriadu teithio i gyfeiriad y cyfan.

Roeddem ni'n hoffi'r rhain oherwydd, heb lyfr yn ei llaw, roedd hi'n rhydd i actio'r stori, actio efo'i llygaid a'i dwylo.

Roeddem ein dau yn barod i wneud unrhyw beth i arbed Anti Meg rhag cael ei throi'n ganeri.

Roeddem yn ffodus yn y rhai fu'n ceisio ein dysgu i ganu.

Roeddem yn ysu am gael gwybod beth oedd wedi digwydd rhyngdi â'i chwaer, ac yn cydymdeimlo'n fawr â hi wrth iddi geisio denu Meic a'i hysfa am i ddyn ei charu ar ôl ei hysgariad o briodas oedd fel "bwyta wrth fwrdd heb le i ddwy benelin".

Roeddem yn falch o weld Mrs Marjorie Davies, Gwesty'r Douglas, wedi dod atom ac yn edrych mor dda.

Yn raddol, drannoeth, gwawriodd arnom ein bod wedi ein dal yn llwyr gan y Bos, a'i fod ef wedi bod yn tynnu coes yn ddidrugaredd, ond gan fod y manylion tybiedig wedi'u plethu i mewn i r cefndir a'r lleoliad dilys yn gelfydd iawn, hyd yn oed tadogi'r stori ar Mr Merfyn Morgan, y Prif Uwch-Arolygydd â gofal am Adran "D" o Heddlu Dyfed-Powys, roeddem wedi credu'r stori'n llwyr.

Roeddem ar Iwybr y rhewlif fu'n crafu a rhwygo'i ffordd yn ara deg o Gwm Idwal i foddi ei hun yn y brif rewlif yn Nant Ffrancon.

Roeddem mewn ogof wedi'i goleuo gan danau brwyn ar y wal,'roedd fel pafiliwn ac yn ddistaw fel y bedd.

Bu'n driw i'w air a chyn hir roeddem yn glanio ym Muscat, prifddinas Oman.

Efallai y byddai'n amau fy un i wedi gweld lle roeddem yn bwriadu mynd.

"Roeddem ni fel Cyngor yn teimlo fod Bethesda yn y gorffennol wedi cael ei adael i fynd i lawr, a'n gobaith yw y bydd y cynllun adnewyddu yma a'r Ganolfan Chwaraeon newydd yn codi ysbryd Bethesda," meddai.

Felly wedi croesi o Dover i Calais ar y cwch, gan gyrraedd yno tua hanner awr wedi wyth y nos, 'roeddem am yrru trwy'r nos.

Pan aethom ddechrau Rhagfyr roeddem yng nghanol y tywydd oer ond sych ac felly dylai'r llwybrau fod yn glir o rew.

Y noson honno enillodd soprano 24 oed, Karita Mattila o'r Ffindir, a roeddem yn dyst fod seren newydd yn esgyn i ffurfafen y byd opera.

Y tro y cafodd ei chipio gan sipsiwn, y tro y rhwystrodd geffyl gwyllt drwy gydio yn un o'r afwynau a chael ei llusgo am hanner milltir - roeddem yn eu credu fel efengyl.

Roeddem wedi gweithio ar ddulliau newydd o Chromatography ac roedd awydd arnom i roi cynnig ar y dulliau hyn i astudio mwynau (minerals) y wlad.

Buom yn tin droi yn y fan honno gan golli'r awyren gyntaf, ond roeddem yn y maes awyr mewn da bryd i ddal yr un nesaf am unarddeg o'r gloch.

Roeddem ar drothwy tymor y glaw, pan fydd llwythau'r wlad yn cynnal defodau i ddenu'r cawodydd a fydd yn rhoi cynhaeaf da.

Erbyn blynyddoedd olaf y rhyfel roeddem wedi gorfod dysgu ac ymarfer y rhan fwyaf o dactegau'r fyddin.

Roeddem ni'r plant yno deirgwaith y Sul a phob noson o'r wythnos ac eithrio Dydd Mercher a'r Sadwrn - Cwrdd Gweddi,Dosbarth Beiblaidd neu Ddosbarth Tonic Sol-ffa, Cymdeithas y Bobl Ifainc a Seiat a hyd yn oed ar ddydd Mercher, roedd te i'r aelodau yn y festri.

Un noson roeddem yn aros mewn tŷ gwely a brecwast yn Nghil Airne.

Roedd gen i filgi wedi'i gael gan f'ewyrth ac un prynhawn, yng ngwaelod Nant y Berth roeddem wedi cael helfa dda.

Bryd hynny 'roeddem yn adnabod pob cwch yn y bae ynhgyd a'r llongau a fyddai'n galw'n achlysurol, megis y Charles McIver, llong berthynol i Trinity House a ddeuai i archwilio goleudy St.

'Whâ!' meddai hi, 'gafael ynof i!' ac yn lle disgyn fel carreg, cymerais ei llaw ac roeddem fel dau aderyn.

Yn y cyfamser, er ein bod ni'n gwybod nad oeddem yn cario dim anghyfreithlon i mewn, 'roeddem yn chwysu wrth feddwl beth allent wneud â ni.