Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

roeddynt

roeddynt

(ii) Adroddiad y Dirprwy Brif Swyddog Cynllunio yn egluro nad oedd yn hollol eglur o'r cwestiwn os 'roeddynt yn cyfeirio at geisiadau tu fewn y rhiniogau neu at geisiadau y tu allan i'r ffîn neu'r rhiniog neu'r ddau.

Cyn hir roeddynt wedi cyrraedd tir agored heb ormod o goed yn ymyl y dw^r - lle delfrydol i bysgota.

Roeddynt yn anniwair cyn priodi ond nid oedd dim puteindra nac anffyddlondeb priodasol.

Roeddynt wedi eu gwisgo mewn sidan lliw eirin gwlannog wedi eu haddurno a les gwyn ac yn cario blodau gwyn ac eirin gwlanog.

Roeddynt erbyn hyn wedi colli golwg ar gyfarfod y Nant y noson gynt, ac fel roedd Ysbryd Duw wedi bod yno yn codi dynion o'r newydd i afael yng nghyrn yr aradr.

Yr adeg honno roeddynt yn dai hardd mewn rhan ddymunol o'r dref, ond dros y blynyddoedd, wrth i'r perchenogion heneiddio oedd cyflwr eu tai wedi dirywio.

Gallai pobl ifanc fynd at y goeden a sibrwd enw'r un roeddynt yn ei garu, ac yna byddai'r goeden yn lledaenu'r neges i'r pedwar gwynt.

Yn y llofft lle roeddynt hwy yn awr pwysodd Del ar y pared a rhoi ei llaw dros ei llygaid a chwyno fod yr holl wynder yn ei dallu.

'Roeddynt yn sylweddoli'r siom a fyddai hyn i'r Awdurdod, yn llwyr gytuno ynglŷn â'r angen, ond o'r farn mai trwy gydweithrediad rhwng yr holl Awdurdodau Addysg yng Nghymru dan nawdd Corff Cenedlaethol fel Gyd-Bwyllgor Addysg Cymru y dylid symud ymlaen, yn hytrach nag unrhyw Awdurdod Addysg yn gweithredu ar ei ben ei hun.

I ni fel plant rhywbeth i'w osgoi oedd y ddraenen ddu a'r ddraenen wen, eto roeddynt yn goed o werth yn yr hen ddyddiau.

Roeddynt wedi dychryn braidd.

Bryd hynny roeddynt yn fawr ac yn llyncu egni, ond fel cymaint o ddatblygiadau mewn ffiseg electronig daethant yn llai o ran maint yn ogystal â bod yn fwy effeithlon.

Digon posibl eu bod yn rhesymau mwy materol a bydol efallai, ond eto roeddynt yn rhesymau cryfion.

'Roeddynt wedi gyrru eu car drwy'r ffenestr i gael at yr offer.

Roeddynt heb eu hyfforddi ar gyfer y gwaith.

Erbyn hyn roedd breichiau pawb yn dechrau brifo ac roeddynt oll, o hir wthio, yn hynod sychedig.

I'r mwyafrif llethol ohonynt, dyma'u profiad cyntaf o fod ar y mor mawr ar long hwyliau, eto roeddynt yn wynebu mordaith i fyd newydd trwy foroedd stormus a pheryglus iawn, moroedd a oedd yn hollol ddieithr i bron bawb o Ewrop lai na chan mlynedd ynghynt.

Roeddynt am ddod yn eu blaenau yn y byd mawr ar adeg pan oedd y Saeson, a oedd yn flaenllaw iawn yn y byd hwnnw, ym mhenllanw eu grym ymerodrol.

Roeddynt hefyd yn cadw cymdeithas o bobl yn dynn wrth eu gilydd.

Roeddynt yn rhy benagored a hirwyntog.

Yn ddiddiwedd!' Roeddynt yn dawel iawn am ennyd.

Roeddynt wedi gweld lluniau o bethau tebyg ar y teledu.

Roeddynt wedi cael gwasanaeth i'w gofio.

Roeddynt yn well eu byd yn awr, gyda'r Gwarchodwyr i ofalu am bopeth.

Rhyw bump neu chwe troedfedd roeddynt yn ei dyllu mewn diwrnod, felly gwelwch mai gorchwyl go araf oedd hon.

Roeddynt wedi eu hadeiladu yn wael ac roedd angen eu trwsio yn aml.

Trwy wneud hyn, wrth gwrs, roeddynt yn mentro i fyd o eira a rhewfryniau, ac yn nyddiaduron teithwyr y cyfnod cawn lu o gyfeiriadau at y cyffro ofnadwy yn eu mysg wrth edrych allan a gweld eu llongau yng nghanol cylch oi rewfryniau uchel.

Roeddynt yn creu sustemau'r gofod yn y labordy, drwy anweddu llwch carbon gydag arc carbon mewn atmosffer o heliwm.

'Naddo', ebe yntau, 'roeddynt yn mynd yn uchel', gan dywallt cynnwys y sach ar yr aelwyd - hen lyfrau Groeg, Lladin, Hebraeg, etc.

Roeddynt wedyn yn mynd allan o'u ffordd i osgoi cyfarfod â bechgyn nad oeddynt yn eu hoffi!

Os oedd y cyfanswm yn un-ar-hugain, roeddynt bob amser yn cadw'r tocyn hwnnw fel swyn lwcus.

Wrth gwrs, byddai'r esboniad hwn yn ateb rhai o'r posau oedd wedi peri cymaint o benbleth iddynt: pam roedd rhai pobl yn methu â'u gweld fel personau ond yn gweld effeithiau eu presenoldeb; pam roeddynt yn teimlo fel bodau ar wahân yn eu hen gynefin, yn fwy felly nag yr oedd traul y blynyddoedd yn ei esbonio; pam roedd agendor diadlam rhyngddyn nhw a'r bobl.

Yr un pryd, wrth i'r bobl golli eu hiaith, roeddynt yn colli eu gorffennol hefyd: roeddynt yn ansicr pwy yn union oedden nhw; yn ansicr ynghylch y tir o dan eu traed.

Ni fynnent gredu hyn, ac eto, roeddynt yn adnabod y caswir wrth i Mathew ei gyflwyno iddynt fel hyn.

'Roeddynt wedi argymell gwrthod pob cais tu allan i'r ffîn oherwydd ei bod yn groes i'r cynllun lleol.

Trwy chwarae gyda nhw roeddynt yn edrych ymlaen ac yn mwynhau cael ein gweld yn dod bob dydd.

Roeddynt wedi cam-amcanu'r pellter.

Roeddynt yn barod i oddef cerydd am fod yn hwyr gan eu rhieni pe caent rywfaint o oleuni ar y dirgelwch.

roeddynt am egluro beth oedd amcanion y gymdeithas heddwch a sôn am y gynhadledd a oedd i'w chynnal yn llundain.

Roeddynt yn fychain ac wedi eu hadeiladu'n wael - disgynnodd rhai!

Ar yr wyneb roeddynt yn groes i'w gilydd; ac yn ôl rhai maent yn parhau i fod felly.