Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

roes

roes

Y Dywysoges Namotto a roes y syniad iddo ar amser cinio un diwrnod pan oeddynt yn mwynhau pryd o wynwyn wedi'u stwffio a chaws llyffant a dail criafol mewn mel gyda saws o neithdar bysedd y cŵn drostynt.

Ef a roes fawredd i ymgyrch Cymdeithas yr Iaith yn erbyn gwarth arwisgiad y tywysog Charles yng Nghaernarfon, seremoni, fe wyddom heddiw, a wthiwyd ar eu gwaethaf ar y teulu brenhinol Seisnig gan Swyddfa Gymreig y Blaid Lafur er mwyn lladd cenedlaetholdeb Cymru.

Y parthau hynny a roes Daniel Owen i ni wedi'r cyfan ac ni raid amau ar ôl darllen eu gwaith fod yr Ifansiaid, ganrif wedi ei farw, yn dal mewn cyswllt â'r Gymraeg a glywsai ef yn feunyddiol.

Yn ôl yr Athro Owen Chadwick, fe roes derfyn ar ei ddefnyddioldeb yn Eglwys Loegr.

Urdd oedd hon a roes sylw arbennig i addysg grefyddol ymhlith lleygwyr er mwyn cryfhau defosiwn a phietistiaeth yn eu mysg yn ôl dulliau y devotio moderna (defosiwn modern) fel y'i gelwid.

Oblegid, yn Shillong, mae'r Hindþ o Bengal, y Presbyteriad Cymreig ei osgo, a'r Pabydd Gwyddelig ei addysg, yn cerdded yr un strydoedd â'r Casi sy'n cofio'r Fam Oesol a roes fod i'r llwyth y mae yntau'n perthyn iddo ers cyn co'.

Dymuna'r Pwyllgor ddiolch yn hael i bawb a roes gyfraniad hael mewn amrywiol ffyrdd ac am bob cydweithrediad er hwylustod y trefniadau.

Fel yr oedd Thomas Jones Llanuwchllyn, a roes wasanaeth mor wiw i lywodraeth leol yng Nghymru ac i'r Eisteddfod Genedlaethol.

Gwyn a roes gychwyn i hyn i gyd.

Syfrdanwyd y gyrrwr - ond gan gofio'r cyfeiriad a roes y ferch iddo, gyrrodd at y tþ, rhag ofn fod y ferch wedi rhedeg o'r car yn sydyn rhywsut.

gramadegau Lladin dau Rufeiniwr, Aelius Donatus a Priscian, a roes ffrmawaith i astudiathau Lladin gramadegwyr yr Oesoedd Canol.

Ateb negyddol a roes i'w gwestiwn, yn gwbl resymegol felly, gan mai y Gymraeg oedd priod gyfrwng llenyddiaeth Cymru.

Serch y daw geiriau teg o du gweinidogion y Swyddfa Gymreig, rhaid i ni gofio mai unplygrwydd y Doctor Gwynofr Evans a roes i ni ein Pedwaredd Sianel, ac nid haelioni'r Fendigaid Fargaret.

Mae hurling yn gêm roes ias yng nghalon y Gwyddyl ers mil o flynyddoedd.

Hi ydyw'r un a roes fod i Culhwch; oddi wrthi hi y cafodd yntau ei natur greddfol.

Gŵr o'r enw Tegid a roes ei enw i'r llyn.

Ond o blith y genhedlaeth honno, efallai taw Parry-Williams - yn fwy felly yn nhinc felancolaidd ei ymadrodd nag mewn unrhyw ddatganiad croyw - a roes lais yn bennaf i'r digalondid sylfaenol hwn.

Gwna hynny ar sail yr elfennau a roes fod iddi, ac yn wyneb rhwystrau sy'n tarddu o'r cefndir hwnnw ac yn arfaeth yn ei bridd.

Wele awdl a phryddest a roes imi lond calon o fwynhad ryw ddwy flynedd ar bymtheg yn ddiweddarach.

Cipio'r merched i waith rhyfel a roes derfyn arno.

Ers ugeiniau o flynyddoedd ni roes y drefn dreisgar fawr o gyfle iddynt ddatblygu dinasyddiaeth Gymreig; a thrwy eu blynyddoedd yn yr ysgol, ac wedyn yn y byd y tu allan fe'u gorfodwyd gan drais seicolegol gorthrymus i gredu mai Prydeinwyr oeddent yn gyntaf a Chymry yn ail sâl.

Ond yn fwy na hyn roedd y cysylltiad wedi'i wneud ar yr union amser, canol-diwedd yr 1980au, pan roedd newid yn agwedd meddwl arweinwyr Sinn Féin a gweriniaethwyr -- agwedd meddwl a roes fod yn y diwedd i gadoediad yr IRA, ymrwymiad Sinn Féin i egwyddorion Mitchell, a Chytundeb Gwener y Groglith.

Yn wir, am fod y Blaid a'i Llywydd yn wrthgyfalafol y collodd y Llywydd hwnnw ei swydd yn Abertawe; dylanwad cyfalafol, fel y gwyddom, a roes fwyafrif yng Nghyngor y Coleg yn erbyn ei ail benodi i'w ddarlithyddiaeth.

I Layard, mae'r ddwy widdon yn adlewyrchu'r ddwy fam a roes fod i Culhwch ac a fabwysiadodd Culhwch, yn eu tro.

Ffaith sylfaenol yn yr esboniad, mi gredaf i, yw dadfeiliad y bywyd gwledig - y ffenomen a roes i T.

Pan wahoddwyd fi i gyfrannu'n wythnosol i'r Herald Cymraeg (saith mlynedd yn ol bellach), ef, John Eilian a roes ei theitl 'Wrth Edrych Allan' i'r golofn hon.

Ef, yn anad yr un o'r Piwritaniaid cynnar, a roes y mynegiant mwyaf ysgytiol i'r argyhoeddiad hwn:- Rwi'n rhybuddio pawb, ac yn gweiddi ar bawb.

A chaniata/ u na wyddom nemor ddim am y cymorth a roes dylem gofio y disgrifir ef fel un o gynrychiolwyr pwysicaf y Dadeni Dysg yng Nghymru.

Y profiad hwn a roes fod i egwyddorion sylfaenol y trefniant nodau graddedig

Ef yn anad neb a roes bwys ar "y werin" yng Nghymry.

Neu, a chofio rhybudd T Gwynn Jones ynglŷn â pherygl olrhain dylanwadau, a ydyw'n bosibl fod yr un amgylchiadau ag a roes fod i ganu'r Trwbadwriaid ym Mhrofens, wedi rhoi bod i ganu tebyg neu led-debyg yng Nghymru?

Teimlai pobl Allhallows the Great, yr eglwys a roes gartref i'r Cymry alltud yn ystod blynyddoedd y Rhyfel Cartref, ei bod yn ddylestwydd arnynt anfon chwech o bregethwyr i gynorthwyo yn y gwaith.

Yr oedd yn meddwl y byd o Lyn, fel y dengys y gofeb bres yng nghadeirlan Bangor sy'n dweud mai Llyn a roes iddo ei ddechreuad.

Nid yw hi'n bwysig gwybod pa ferch yn union a roes fod i 'Dwy Gerdd', ond mae'n amlwg iddi gyffroi ymateb dwfn yn y bardd, canys ei ffordd ef o ymgysuro rhag atgno yw deunydd y cerddi.

Os adwaith yn erbyn y Llyfrau Gleision a roes gychwyn i genedlaetholdeb Cymreig yn ail hanner y ganrif, rhaid cyfaddef hefyd mai'r Llyfrau Gleision a orfu.

Ystyrid y Synopsis yn un o lyfrau mathemateg pwysicaf ei gyfnod, a thrwyddo daeth William Jones i sylw dau o brif fathemategwyr Prydain ar y pryd, sef Edmund Halley (y gŵr a roes ei enw i gomed) a Syr Isaac Newton.

[Dymuna'r awdur ddiolch yn fawr i Mrs Sali Heycock a roes gymaint o help i lunio'r ysgrif hon.]

Dyma a roes fod i ffurfiau arbennig llenyddiaeth fodern, comedi, trasiedi, nofel, pryddest.

Ychydig o sylw a roes y wasg i'r cyfarfodydd.

Erys bri ac urddas ynghlwm wrrth enw Arthur o hyd, ac y mae'n werth gan y bucheddwr gyfeirio ato fel un a roes ei nawdd i'r eglwys leol.