Gorweddai ei farch ardderchog yn gelain farw, ac yr oedd y pris mawr a roesai amdano wedi mynd gyda'r gwynt.
Pan aeth i dacluso'i ystafell fore drannoeth ar ôl ei noson gyntaf cafodd fraw o weld bod y llieiniau a roesai iddo yn farciau duon i gyd, fel pe bai rhywun wedi eu llusgo trwy huddygl.
O'i fewn y ffynnai'r diwylliant a'r grymusterau gwareiddiol hynny a roesai hynodrwydd i deulu ac ardal ac a luniai undod unigryw mewnblygol a safai dros werthoedd cynhenid y gymdeithas.
Y broses allblygol; rhannu doniau â chefn gwlad; adlewyrchu'r goludoedd a fuasai'n hanfod ei gyff ei hun ac a ddangosai y 'mawredd a chymeriad' a feithrinai ' o gadw tŷ gwedi y tad': y nodweddion allblygol hynny a roddai ystyr i fywyd yr uchelwr; hebddynt ni allai ei gyfiawnhau ei hun yng ngolwg ei geraint, ei gymdogaeth, na'r wladwriaeth a roesai iddo wisg gydnabyddedig ei statws gweinyddol.
Yn ei angladd clywais rywun yn dweud am grŵp o ffermwyr ifainc a gafodd eu cyfareddu gan ddarlith ar enwau caeau a roesai iddynt yn ddiweddar ac a safodd ar eu traed fel un gŵr i guro dwylo iddo.
Ers blynyddoedd, drwy aeafau hir, bu'n mynd o leiaf unwaith, weithiau ddwywaith yr wythnos i annerch cylchoedd llenyddol a chymdeithasau Ffermwyr Ifainc a'r WI a Merched y Wawr, mynd weithiau yn flinedig ar ôl diwrnod caled yn y Coleg, a dychwelyd yn afieithus flinedig gyda rhyw ddywediad dierth neu air newydd a godasai yn anrheg gan ryw ffermwr neu wraig-tŷ ac a roesai yn ddiogel yn ei dun baco.