Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

romaneg

romaneg

Ni wn am harddach tai na ffermdai unigryw yr Engadin - y pyrth mawr bwaog ar gyfer troliau, y ffenestri dyfnion ciwbig, y rhwyllwaith haearn, y patrymau a'r arfbeisiau a'r adnodau Romaneg ar wyngalch neu hufengalch y talcenni, heb son am banelau a nenfydau a meinciau pin y parlyrau gyda'u stofiau anferth addurnedig.

Uniaith Almaeneg - iaith y visitors - oedd y rhybudd llefrith-ar-werth yn ymyl hafoty Funtauna, ond y bwlch ydyw'r ffin rhwng tai pren Davos a thai carreg yr Engadin, rhwng Almaeneg unigryw y Walseriaid a'r ffurf ar Reto-romaneg a elwir mor briodol yn Lladin.

Pe bai rhywun yn cyfieithu llyfrau plant Selina Chonz o'r Romaneg i'r Gymraeg, fel y gwnaed i lawer iaith arall, fe welai'r Cymry gymeriad y tai hyn drostynt ei hunain yn narluniau Alois Carigiet o gartrefi Uorsin a'i ffrindiau.