Y rhai mwyaf effeithiol yw'r gasgen rowlio lle gall y plant lleiaf ei symud yn ddidrafferth.
Yr oedd yn waith caled, budr a chorfforol iawn yn rowlio metal yn haenau.
Nodiodd Nain gan sychu'i thrwyn drachefn a'r dagrau'n cronni yn ei llygaid hi ac yn cychwyn rowlio i lawr ei bochau hi wedyn.
Rydw i'n ei gofio fo'n mynd i'r America y tro dwytha', a f'ewyrth Hugh, brawd Mam, yn mynd hefo fo ac yn rowlio berfa a thrync metal mawr arno.
Teimlent yn anghysurus ac felly dechreuodd dau ohonynt rowlio casgen tua'r wîg.
Mae'r dynion hyn yn gwybod yn o dda faint o bowdr fydd ei eisiau i chwythu'r darn hwn o'r graig allan, ac felly y maent yn rhoi rhywbeth o gan pwys i fyny o bowdr ynddo ac yn gosod fuse, sef math o weiren wedi ei llenwi â phowdr, yr hon sydd yn tanio'n araf hyd nes y daw at y powdr, a dyna ergyd ofnadwy a'r graig i'w chlywed yn rowlio i lawr.
Digwyddodd hyn hanner dwsin o weithiau, am nad oedd Jim wedi sylweddoli mai rowlio'r abwyd dros wely'r afon wnâi arbenigwyr Llangollen Fach, ond yr oedd ei fwydyn ef wrth angor blwm ym Mhwll y Bont.
Ffroenodd yr awyr gan edrych i gyfeiriad y trwyn o graig, ei llygaid yn rowlio a'i thafod yn saethu o'i cheg.
"Wrth brynu baco rhydd mae pobl yn cael mwy o ddewis, yn cael y cyfle i drio pethau gwahanol, ac yn bwysicach fyth maent yn arbed arian." Mae'r math yma o faco yn rhatach bydded rhywun yn ei ddefnyddio mewn cetyn neu ar gyfer ei rowlio.
ia, taranau yn rowlio i lawr o Gwm Silyn.
Dyma chi'n dynesu at y ffermdy a choesau eich trowsus wedi eu rowlio i fyny hyd at eich pengliniau.
Hynny yw, y bêl yn bownsio fel pe byddai ganddi ei meddwl ei hun wrth rowlio dros wyneb y gwair.
Ni wyddai Shakespeare, Milton, a Dafydd ap Gwilym wedi eu rowlio i'w gilydd ddim byd amdani hi, yn y mater o ddychymyg, o'u cymharu ag estate agent.
Serch hynny, unwaith bob can mlynedd, mae'r meini yn powlio allan o'u tyllau ac yn rowlio i lawr i'r pant i yfed o'r pwll yn yr afon.
Prynwyd carped tew, o faint, a'i rowlio am yr hen wraig a'i rwymo ar y rac ar ben y car.
Bwriad hwnnw oedd gwneud i mi rowlio drosodd ar fy nghefn â'm pedair pawen yn yr awyr.
Cyn i ni orffen y chwibaniad cyntaf cyntaf dyma'r law galed honno ar draws ein gwynebau nes yr oeddem ein dau yn rowlio dan y sêt.
Ni ddychwelwyd ar hyd yr un llwybr yn union â'r un a ddaeth â hwy i'r pentre'n y lle cynta, ond yn hytrach, canfyddwyd llwybyr lletach lle roedd hi'n haws rowlio'r casgenni.
Trôdd pawb ar eu sodlau a cherdded i fyny'r llwybr llydan dan rowlio'r casgenni.
Dywed Eirlys mai'r baco Light Shag a'r Mixed Shag yw'r rhai mwyaf poblogaidd ar gyfer eu rowlio.