Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

rowlo

rowlo

Yr oedd Daniel ryw ddwy genhedlaeth yn hŷn na mi, a phan euthum yn grotyn i'r gwaith tun yr oedd ef yn rowlo yn y felin fawr.

Wedi rowlo'r llafn ddwywaith neu dair, cyrhaeddai'r hyd o ryw chwe throedfedd, ac yna tatlai'r rowlwr y llafn at y dwblwr.

Pwrpas y ffwrnais oedd poethi'r platiau fel y gellid eu rowlo yn y pâr rowls.

Pa mor wynias bynnag yr oedd y senglau yn dyfod o'r ffwrnais, collent eu gwres yn gyflym wrth eu rowlo, a phan deflid hwy at y dwblwr i'w

Gelwid y broses o gynhyrchu'r platiau yn dwymad, ac yr oedd yn rhaid rowlo'r platiau mewn pum part fel rheol, y tew (sef y barrau haearn tew), y senglau, y dyblau, y pedwarau a'r wythau.