Mewn gwirionedd, fe wnâi'r dalwr waith dau ddyn, oblegid nid yn unig yr oedd yn trin y platiau yr ochr arall i'r rowls, ond yr oedd yn rhaid iddo hefyd iro gyddfau'r rowls, a hynny'n gyson trwy gydol ei dwrn gwaith.
Ar brydiau, pan oedd y stêm yn isel, fe stolid (atal), y peirianwaith, gan ddal platen yn dynn yn y rowls, ac ni ellid ailddechrau'r peirianwaith heb ryddhau'r pinnau a ddaliai'r blaten yn y rowls.
Pwrpas y ffwrnais oedd poethi'r platiau fel y gellid eu rowlo yn y pâr rowls.
Dal y platiau yn dyfod drwy'r rowls oedd gwaith dalwr, ac yna'u hestyn yn ôl i'r rowlwr dros y rowl uchaf.