Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

rowlwr

rowlwr

Diweddodd Phil ei yrfa yn y gwaith tun fel rowlwr yn y Ffôr, ac ystyrid ef gan bawb yn weithiwr heb ei ail - a dyna farn rheolwr y gwaith hefyd.

Beth bynnag oedd y broses ar lawr y felin, gan y dalwr yr oedd y gair olaf, oblegid ar y part olaf, wedi i'r rowlwr dynnu'r wythau i'r hyd gofynnol, gafaelai'r dalwr yn y llafn a'i daro ar lawr y cefn i ennill momentwm, a'i roi'n daclus mewn pentwr o'r neilltu.

Lluchid y platiau gwynias rhwng y gweithiwr ffwrnais, y rowlwr a'r dwblwr, ac ni allai neb aros ar ganol y felin heb gael ei daro tra gweithredid y broses hon.

Wedi rowlo'r llafn ddwywaith neu dair, cyrhaeddai'r hyd o ryw chwe throedfedd, ac yna tatlai'r rowlwr y llafn at y dwblwr.

Dal y platiau yn dyfod drwy'r rowls oedd gwaith dalwr, ac yna'u hestyn yn ôl i'r rowlwr dros y rowl uchaf.