Mae deigryn ar bob rudd.
Ar fy synnwyr digrifwch i, neu ei ddiffyg, y mae'r bai efallai; yr hen duedd yma sydd ynof o fod eisiau tynnu'r mwgwd i weld y deigryn ar rudd y clown a'r siom ar wyneb y chwaraewr dartiau.
Taenodd ei bysedd dros ei rudd a chusanodd ef yn ysgafn, ysgafn ar ei wefus.
Gofynnais i feddyg eiddil o dan fwrn ei ddiferion chwys - mewn oerni unig ynglŷn â chyflwr claf arall - am ganiatâd i roi chwistrelliad o gyffur cry' i arbed poen i'r bachgen deunaw oed a oedd yn cynhyrfu am fod ei lygad de yn hongian allan o'i ffynnon goch ac yn gorffwyso'n flêr ar ei rudd lwyd; ac yn disgleirio yn las tuag ataf .
Fel hyn y cymharodd Tom Parri Jones ddagrau'r llon a dagrau'r lleddf þ Dwy afon dirion deurudd þ i rai llon, Ond i'r lleddf a'r dwysbrudd Chwipiadau rhaffau ar rudd, Stori cwest ar y cystudd.