Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

rufain

rufain

Cymeriad annelwig yw Sant Ffolant: efallai mai Esgob Terni ydoedd neu offeiriad o Rufain a ferthyrwyd yn y drydedd ganrif OC Nid yw'r cysylltiad rhwng Sant Ffolant a chariadon yn un arbennig o ramantaidd.

Tueddai Pusey i gydymdeimlo â'r bwriad hwn, er mwyn profi nad oedd gan y mudiad gydymdeimlad ag Eglwys Rufain, ond ni fynnai Newman na Keble gael dim i'w wneud ag o.

Cynnyrch y Diwygiad Protestannaidd oedd yr Erthyglau, ac i'r garfan yn y mudiad a dueddai tuag at Rufain 'roedd y Diwygiad dan amheuaeth.

Am ganrifoedd, hawliai'r Eglwys Geltaidd ryw radd o annibyniaeth oddi wrth Eglwys Rufain, a pharhaodd gwahaniaethau rhwng ei defodau hi a rhai'r eglwysi Rhufeinig hyd ddyfodiad y Normaniaid.

Ond, fel yr awgrymwyd, 'roedd carfan o'r mudiad a oedd yn barod i ddilyn Newman yn hyn, ac yn tueddu i fynd ymhellach nag ef, hyd yn oed, gan haeru fod gan Eglwys Loegr gymaint i'w ddysgu oddi wrth Rufain ag oedd gan Rufain oddi wrth yr Anglicaniaid.

Ond nid oedd y garfan yn y mudiad a dueddai tuag at Eglwys Rufain yn fodlon ystyried Pusey fel eu harweinydd.

Archwiliodd yr erthyglau yn fanwl fel pe baent yn ddogfennau cyfreithiol, a phrofodd i'w fodlonrwydd ei hun nad oeddent yn condemnio na'r Purdan nac Aberth yr Offeren, eithr yn unig camddefnydd ohonynt gan Eglwys Rufain.

Ond cynnwys y mudiad newydd elfennau go ddieithr i feddwl Cymru heddiw, - cred mewn pendefigaeth gymdeithasol, ac ewyllys da (a dywedyd y lleiaf) tuag at Eglwys Rufain.

Byddent yn aml yn enwi'r eglwysi a godent ar ôl y saint y buont yn ddisgyblion iddynt Ar ôl y seintiau hyn y daeth yr enwocaf o'r seintiau Cymraeg, Dewi Cymaint oedd ei glod ef fel, erbyn dechrau'r ddeuddegfed ganrif, y daethai Tŷ Ddewi yn eglwys y cyrchai iddi bererinion o bob rhan o'r wlad, ac yr oedd dwy bererindod i Dŷ Ddewi yn cael eu cyfrif o'r un gwerth ag un i Rufain.

Teimlai y rhain heb unrhyw amheuaeth atyniad Eglwys Rufain.

Bu'r wlad honno'n eithriadol deyrngar i Eglwys Rufain yn y bymthegfed ganrif ac arhosodd felly trwy gydol Oes y Diwygiad.

Ystyrid cyhoeddi'r Traethawd o hyn ymlaen gan awdurdodau'r Brifysgol fel symudiad pendant tuag at Eglwys Rufain, a daeth y mudiad fwyfwy dan amheuaeth, nid yn unig yn Rhydychen, ond hefyd yn y wlad yn gyffredinol.

I Rufain yr â yn gyntaf ond rhagrith sy'n ei ddisgwyl yma hefyd.

Hyd yn oed cyn ysgrifennu'r un o efengylau'r Testament Newydd yr oedd y tueddiad wedi ymwreiddio ymhlith y Cristnogion hynny a ystyriai Rufain yn hytrach na Jerwsalem yn ganolfan y byd.

Tyddewi, wrth gwrs, oedd prif gyrchfan y pererinion yng Nghymru, er na allai gystadlu o ran braint a bri â Sain Siâm neu Rufain neu Gaersalem dros y môr.

Ni fynnai'r rhan fwyaf o'r Cristnogion yn yr ail hanner o'r ganrif gyntaf gyflwyno Iesu'n elyn i Rufain, a hyn sy'n egluro'r ffaith nad oes yn yr efengylau ddim condemniad agored ar ormes Pilat ac ar gamwedd caethwasiaeth.

Eithr nid o Rufain i y daeth y mudiad yma, ond o lannau dwyreiniol Môr y Canoldir, a hynny drwy orllewin Ffrainc a Llydaw a Chernyw i Gymru.

Darganfu nad oedd yn gallu dygymod â'i duedd flaenorol i gondemnio Eglwys Rufain am ei llygredd a gwendidau eraill, a gofynnai iddo'i hun tybed ai yr eglwys honno yn unig oedd yn ddigon cryf i amddiffyn crefydd yn erbyn ymosodiadau'r rhyddfrydwyr seciwlar.