Mewn soned arall, 'Y Rhufeiniaid' (Synfyfyrio), mae ef yn ceryddu'r gwŷr a adeiladodd yr Ymerodraeth Rufeinig, nid am fod yn ormweswyr creulon a diystyrllyd o hawliau pobloedd eraill, ond am fethu â sylweddoli na fyddai eu gweithiau hwy yn parhau yn dragwyddol.
A ellir dychmygu Crist, a wisgodd y teitl gwleidyddol 'Brenin yr Iddewon', yn ymagweddu fel hyn tuag at yr Ymerodraeth Rufeinig?
Ac wele, tua'r adeg yr oedd y Pabydd Polydore Vergil yn ymosod ar Sieffre am balu ei chwedlau celwyddog am wreiddiau'r Brytaniaid, yr oedd rhai o flaenoriaid y Brotestaniaeth wrth-Rufeinig a fabwysiadwyd gan y Saeson yn bwrw iddi i ail-lunio hen hanes yr ynys hon, yn y fath fodd ag i ddangos fod yma, ym Mhrydain Fore, eglwys apostolaidd bur, eglwys gyn-babaidd ddi-lwgr.
Ac enw Lladin, ebr Collingwood, oedd Arthur, yn tarddu o Artorius, enw hysbys ym Mhrydain Rufeinig.
Teg yw nodi fo Collingwood, er gwaethaf ei ddamcaniaeth Rufeinig, o'r farn fod cynnydd wedi bod mewn 'Celtigrwydd' yn y blynyddoedd o flaen cyfnod Arthur, ac awryma fod Arthur wedi gwneuthur ei safiad buddugoliaethus terfynol yn erbyn y Saeson mewn caer Frythonig debyd i Cissbury ar y South Downs.
Yn swyddog yn y fyddin Rufeinig cafodd ei garcharu am fod yn Gristion.