Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

rwan

rwan

Dwi i erioed yn cofio fo'n eistedd lawr a dweud, rwan dyma be ydy Cynghanedd Lusg, dyma ydy Cynghanedd Draws.

Ond fedrwn i ddim mynd i bartis rwan.

'Mi waedda i arno fo rwan.' Cyn pen dau funud daeth Paul at y ffôn.

Mia' i rwan.'

Cododd y brenin ei law ac ynghanol twrw'r dŵr gwaeddodd: Dowch ar fy ôl i rwan a gwyliwch rhag llithro ar y cerrig." Fel stori o lyfr yn yr ysgol, diflannodd o dan y pistyll dŵr.

Deallwn y daw'r papur allan mor sych ag arfer yr wythnos nesaf.' 'A rwan, to business,' meddai'r Golygydd, gan eistedd eto yn ei gadair.

'Be rwan?

Mae yna glybiau house, drum'n bass, garage a trance i enwi dim ond rhai, a dim ond rwan yr ydym ni fel Cymry yn dechrau dod yn gyfarwydd â rhai o'r enghreifftiau hyn yn ein mamiaith.

Ac i ble'r wyt ti'n mynd rwan?' 'Yr ydw i wedi cael gwahoddiad i dy Emrys i de.' 'Gad imi roi un gair o gyngor iti cyn iti fynd yno.' Edrychai'r Golygydd yn ddifrifol iawn.

'Y peth gora i chi gneud rwan ydi mynd i Dinmael at y wraig a'r plant.

''Randros, peidiwch â thrafferthu, mi gaf i rywbeth i chi rwan.'

Dwi'n sylwi nad oes gan y myfyrwyr sy'n dod i mewn rwan ddim yr un cefndir mathemategol ag oedd ganddyn nhw gynt.

Bwytewch y bacwn rwan, hogiau: os rhedwn ni allan o fwyd cawn fwyta'r cogydd." Ynghanol y chwerthin, llithrais i mewn i gael gair â'r bachgen oedd yn paratoi'r bwyd, roeddwn yn gweld posibilrwydd o ' tribal feud' yn mynd ymlaen tra byddem yno.

"Mae'n dda mai rwan Y daethoch chi, Mr Davies, ac nid y bore yma," meddai Catrin Williams wrth ei arwain i mewn i'r ystafell fyw.

Taswn i'n medru, mi fuaswn i'n cynghaneddu rwan!

'Bydd yna chwe mis reit galad o 'mlaen i rwan,' meddai.

Rwan mae 'na rai pobl ddall sy'n dal i gredu nad oes gan tai ddim i wneud â'r iaith Gymraeg.

Rwan dyma ddod wyneb yn wyneb a'r doctor, ond chwarae teg iddo, wnaeth o ddim ond curo'n brest ni.

(cysuro fy hun ydw i rwan!!) Yr ymateb cyflawnaf a gafwyd yn ddiweddar oedd hwnnw i hanes yr hen long HMS Conway.

Mae o wedi bod yn byw yn iawn am a wyddon ni ers hynny, tan rwan.

Rwan, dyna rywbeth gwerth chweil iddyn nhw amcanu ato fo.

Yn ôl y drefn arferol, roedd pawb oedd wedi mynd ar y trip wedi cyfrannu ychydig o newid mân 'fel cydnabyddiaeth i'r dreifar', ac rwan fod pawb arall wedi disgyn o'r bws oddi allan i'r post, fe estynnodd Elsie Williams y cwbl i Elfed: swp o ddarnau dwy geiniog a phum ceiniog ac ambell bisyn deg wedi eu casglu mewn pecyn marjarîn oedd yn dal i gynnwys ychydig friwsion ar ôl brechdanau rhywun.

'Rwan 'ta, Owain, beth am ganu "Dacw Mam yn Dwad" i Guto i basio'r amser nes inni gyrraedd y caffi?' Roedden nhw wedi canu 'Dacw Mam yn Dwad' dair gwaith a 'Mi welais Jac-y-Do' ddwywaith pan welodd Carol yr arwydd oedd yn datgan fod y gwasanaethau nesaf ymhen deunaw milltir.

Un o'r themau ydw i'n darllen i fewn i'ch gwaith chi yw rhyw deimlad fod technoleg, fel y dywedsoch chi rwan, tractors ac yn y blaen, yn rwystr i ddatblygiad diwylliannol a'r ffordd yna o fyw.

Yr unig ddewis sydd ganddo rwan ydy mynd âi achos i'r Llys Apêl.

Rydych yn sefyll rwan wrth ochr y lle y byddem ni yn ei alw yn Graig y Cyfyng ac mae Craig Rhwng-ddwy-afon ychydig ymhellach.

Rydyn ni'n edrych ymlaen at flwyddyn nesa rwan a gobeithio cawn ni fynd fyny'n ôl yn syth.

Roedd Myrddin yn dechrau gwylltio rwan.

Wel rwan yntê, dyma'r malwr yn mynd i ben draw'r bonc ac yn nôl wagen, peth rhywbeth yn debyg i focs sgwâr heb gaead arno ac un pen wedi ei dorri i ffwrdd, a'r bocs hwn wedi ei osod ar bedwar olwyn, ac yn dal rhywbeth o ddwy dunnell i ddwy dunnell a hanner o bwysau.

Ymlaen rwan, ynta' am Cwrt Isaf, sydd â'i dir yn rhedeg i fyny i Moel Hebog.

Rwan, mae'n bosib, medden nhw, i'r Cynulliad wrthod unrhyw gais i blannu hadau GM yng Nghymru os nad ydyn nhw'n berffaith hapus nad ydy hyn yn mynd i achosi difrod i'r amgylchedd.

Mae yna sawl un sydd o'r farn fod hogia Bangor wedi gwella'n aruthrol yn ystod y misoedd diwethaf ac felly mi edrychwn ni ymlaen rwan at gael clywed eu sesiwn ar raglenni Gang Bangor yn y dyfodol agos gan mai dyna oedd y wobr yr oedd grwpiau colegau Cymru yn cystadlu amdani.

Dyma ddechrau arni o ddifrif rwan gan eu bod wedi colli llawer o amser tra oedd y creigwyr yn llnau'r graig; wedi rhoi rhyw saith modfedd o dwll ym mhob carreg a'i phowdro, rhaid disgwyl yn awr am i'r biwgl ganu eto, a dyma'r un drefn ag o'r blaen.

'Rhaid i ni ddechrau rwan os ydan ni am wneud rhywbeth ohoni.

Buasai fy ffrind Goldwater wrth ei fodd tasa fo yma rwan." Erbyn hyn roedd y pebyll wedi eu gosod a'r tegell ar y tân - a dim eiliad yn rhy fuan.

Yna, mewn llais tawel, a gwên hiraethus ar ei hwyneb dywedodd yr hen wreigan: "Ugain mlynedd yn ôl i heno, fe laddwyd fy merch ar y ffordd ble y gwelsoch chi hi heno, a phob blwyddyn ers hynny, ar y noson arbennig hon y mae rhyw yrrwr caredigyn dod â hi adref, - diolch i chi - fe gaiff dawelwch am flwyddyn arall rwan." Gadawodd y dyn y tū wedi ei ysgwyd i'w sodlau gan yr hyn a welodd ac a glywodd.'

Nid chdi 'di'r gynta'.' 'Ifan Ifans?' 'Ia?' ''Dwi'n mynd i gal babi rwan.' Brysiodd William Huws i lawr grisiau'r bus, gan ddarn-lusgo'r hwch i'w ganlyn, wedi gwerthu'i gymydog am lai na chawl ffacbys.

Rydw i'n cofio rwan.'

Ers hynny aeth yr is-label o nerth i nerth yn gyfrifol am nifer o grwpiau fel Big Leaves, Topper ac, rwan, Anweledig.

Mae'n siwr i nifer ohonoch ddathlu troad y mileniwm gyda'r tri ohonynt yng Nghaerdydd ond ers hynny mae Manic Street Preachers wedi bod yn eithriadol o dawel... hynny ydi, tan rwan.

Rwan bydd yn rhaid i John Hollins godi ei dîm ar gyfer y gêm yn erbyn Bury ddydd Sul.

Mae fy nhad ar streic ac ychydig iawn o arian sy'n dwad i'r tŷ rwan.

Rwan i'r rhelyw ohonoch nad ydych yn sgiwyr, y peth cyntaf i ddysgu ydy sut i sgio ar sgis mewn siap swch aradr eira.

Am South Georgia mae hi'n sôn rwan:

?' 'Ddim rwan, Bob,' meddai Lisa, gan ysgwyd ei phen yn bendant a dyheu am fedru rhoi rhyw arwydd i'r gŵr ifanc i beidio â datgelu unrhyw gyfrinachau.

'Dwi'n deud wrtha chi rwan, isio'u ffrog- martsio nhw i gyd i'r ffrynt lein sy, i'r Jyrmans gal practis saethu.'

Mi fydd wedi merwino'ch clustiau chi cyn pen dim, agorwch y drws inni rwan ac mi gaeith o'i geg yn glep.

Ond yr oedd hi'n gwisgo'n dwtiach rwan, ac yn mynd at Betsan i gael trin ei gwallt.

Y peth pwysicaf y gallwn ni ei wneud rwan yw parhau gyda'n polisïau a'n hymgyrchoedd, gan wybod fod yr hyn yr ydan ni yn ei wneud yn mynd i newid pethau.

Rwyf am adael y blynyddoedd cyntaf, pan agorwyd y gwaith allan, ac am ddechrau rwan hefo'r gwaith wedi ei ddatblygu tipyn bach, hynny yw, wedi gwneud lle i ddynion weithio yno.

Dyna pam bod y cynnig yna bore yma yn bwysig - am ei fod yn gosod cyfle i ni rwan.

Rhwng rwan a hynny bydd y grwp yn paratoi â'r gwaith o baratoi dogfen esblygol fydd yn gosod ein gweledigaeth ni o sut mae grym yn treiddio o'r gwaelod i'r canol ac yna i'r Senedd Gymreig fydd yn goron ar hyn.

Rwan dechreuais feddwl: "Beth sydd yn hon ys gwn i?

Gŵr Ceri!' Ei thro hi oedd synnu rwan.

Ni all neb wadu nad yw'n codi at ambell hesgbryf rwan ac yn y man.

sioc o weld ei lun ar y newyddion, a gwaredu wrth feddwl be oedd y creadur byrbwyll wedi'i ddweud rwan, nes i sioc y cyhoeddiad ddyrnu eich gwynt.

'Glywist ti?' 'Be?' 'Mae o wedi boddi.' 'Pwy?' 'Ne' wedi marw.' 'Ond pwy, Leusa?' 'Y Captan 'te...Captan Timothy.' ''Rioed?.' 'Cyn wiried â'r efengyl i ti.' 'Pwy oedd yn deud?.' 'Sydna, y forwyn fawr, hi ddeudodd, gynna, pan o'n i yn mynd â'r lludw allan.' 'Raid i mi bicio i'r stabla rwan, i ddeud wrth Robert 'y mrawd.

'A rwan mae'n rhaid i chi gael lle i aros yn y dre 'ma, on'd oes?' meddai'r fam pan oedd y te drosodd.

Ond rydw i'n gallach erbyn hyn, yn adnabod y drwg, yn adnabod y gelyn." "Rwan Alun rydych chi'n mynd yn rhy bell yn sôn am y drwg ac am y gelyn.

Rwan, doedd dim byd a wani pobl ar fws yn ei synnu, na dim byd a adawyd ar ôl ganddynt.

Be sy rwan?'

Pan anwyd fi roedd dad wrthi'n priddo rhesi tatws ac yn rhoi pricia i ddal y pys -- gweler ei ddyddiadur am 7 Mehefin 1968 -- a phan gyrhaeddodd o'r sbyty'r noson honno roedd mam eisoes wedi dechrau 'ngalw i'n Canaveral Jones (CJ i'm ffrindiau yn y ddau gryd bob ochr i mi). Rwan, roedd hi wedi blino ac ar ôl dadlau tipyn bach fe lwyddodd dad i ddal pen rheswm a chael mam i 'ngalw i'n Arwel (ddim yn anhebyg i Canaveral ar ôl saith awr o epidurals). Dychwelodd dad at ei ei datws a'i bys a phan aeth o i nôl y ddau ohona ni adra o'r sbyty ar y 15ed fe ddigwyddodd sylwi ar y tystysgrif geni.

Mi fedrwn ddechrau trafod busnes rwan.

Doedd disgynyddion y bobl oedd wedi helpu'r Romans erstalwm i godi caerau, ac oedd yn gweithio'n galed yn codi glo ac ati, ddim yn lecio'r sect newydd yma ryw lawer iawn ond does yna ddim pylla glo ar ol rwan felly mae'r hogia hynny wrthi'n troi at y sect newydd o'r diwedd.

Rwan y tro yma sgiwch i lawr y lifft yna ac arhoswch!" Dilynais Richard - un o'r dosbarth - yn ei gap coch, y tro yma.

Y cwestiwn rwan, i Mr Hunt ac i awdurdodau lleol Cymru.

'Roedd siwgwr yna arfer costio punt y kilo, dyweder, ond rwan mae kilo yn costio can punt!

'Dyna ddigon rwan,' meddai eu mam, mewn llais a weithiai bob tro yn achos Emyr.

Nid oedd neb yno'n debyg o ddechrau'r cyfarfod, ond dyma Richard Owen i mewn, ac wrth gyrraedd yn dweud: 'Rwan, hogia' nid oes eisiau neb i arwain yma.

.' 'Rwan, Emrys,' meddai'i chwaer.

'Mae Mr Puw yn fodlon eich gweld chi rwan.

Sci dchown dder, chiw, go chyp chon ddy lifft!" Rwan nid cadair oedd yn fy nisgwyl ond polyn hir o'r awyr a mymryn o fotwm ar ei waelod - i eistedd arno - debyg!

'Mi'rydw i rwan,' atebais yn bendant.

Mae'n siwr y bydd yn rhaid mynd i chwilio am y ddau lyfr arall yn y gyfres rwan - Ar Goll yn yr Eira ac Adre cyn Nos.

Mi gei di fynd yn ôl at y lawnt 'na rwan.'

Gallai ei gweld yn glir rwan, yn gwisgo'r un dillad du ag o'r blaen.

Ni lwyddwyd bryd hynny, mwy na rwan, i gyfuno'r gwahanol ddiffiniadau.

Dyna ichwi ddeg ohonynt rwan heb denant na theulu, a mwy eto i ddwad wrth gwrs.

'Pwy ddaw i'w le fo rwan?

"Mae'r criw yn cael brecwast rwan.

Yna, byddai'n lluchio cynfasau a dillad isa' a phethau felly i'r llyn a rhoi powdwr golchi yn y dŵr, fel bydd y merched 'ma 'te, a gweiddi ar Eliasar y ci o'r tŷ.' 'Rwan 'roedd eisiau profi callineb Eliasar trwy ddweud bod y buchod ymhell i ffwrdd.

"Gwynt teg o'u hôl nhw, gobeithio y can ni dipyn o lonydd rwan wedi gweld cefna'r haflig am sbel eto.'

Rwan mi fyddan nhw'n wynebu tîm arall o Sbaen - CD Alaves - yn y rownd derfynol.

Rwan rhaid adeiladu ar y sail yna os yw Abertawe am aros yn yr Ail Adran.

A rwan, Wil, estyn gap Emrys iddo fo.

Gobeithio, rwan, fod pethau'n dechrau digwydd meddai ar y Post Cyntaf.

Yr her fawr sy'n ein wynebu rwan ydi dangos na fydd lle i Quangos yng Nghymru'r dyfodol.

"Rwan, dim o dy lol di," meddai'r bachgen, ac ar y gair, agorwyd drws yr ysgol yn sydyn, a daeth Mr Roberts allan.

'Y gwir, rwan?' 'I fod yn onast, nac ydw.

~ iolen stopiodd i herio'r hen gyfeillion a orweddai yno trwy weiddi 'Dowch allan rwan os ydach chi isio paffio efo fi fel roeddach chi'n gneud erstalwm!

'Rwan, ar ôl y Nadolig, rhdan ni'n gobeithio cael deiategydd draw i sgwrsio â ni, rhoi cyngor ar gyfer y lap olaf!'

"Does gen i ddim poen o gwbl yn fy nwylo rwan." Ond wedi gollwng gafael yr oedd o, heb sylweddoli hynny.

Roeddech chi'n dweud rwan eich bod chi'n rhamantydd, ydi hi'n bosibl mai rhamantu am gefn gwlad ydych chi wrth ddweud eu bod nhw'n llunio englynion ac yn y blaen?

Roedd rwan wedi dod i Swydd Mayo, a doedd dim posib mynd yn bellach heb fynd i Fôr Iwerydd.

Mi symudwn ni ymlaen rwan at y Capel.

Maen nhw wedi ei ladd o rwan, a sbiwch, dyma chi'r corff.

'Rhoswch chi rwan.

"Mae yna un peth y mae'n rhaid imi ei wneud cyn y bydd pethau'n ddiogel, Nia." "O, beth ydi hwnnw 'te?" "Dychwelyd y ffon i Faes y Carneddau, fydd yna ddim heddwch na thawelwch nes y gwneir hynny, rydw i'n gweld hynny rwan.

"Os alla i ei drwsio rwan, mi ga i aros yn hwyrach yn y bync." Wedi cyrraedd y starn, gwyrodd dros ochr dde'r llong lle'r oedd y cloc.

Waeth ichi roi'r gorau iddi rwan, ddim, oedd barn cantores o fri, bach, a oedd yn athrawes arnaf yn yr ysgol.