Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

rwbath

rwbath

Ond mi gafodd hi rwbath i gnoi arno fo, o do, a'i gnoi o'n hir hefyd hefo'r hen ddannedd gosod 'na sgyni hi.

Os bydda ganddo fo stori newydd, mi fydda ar y ffôn - "Glywaist ti hon?" neu, "Dwi isio mynd i lle ar lle heno, sgin ti rwbath i mi?" Mae llawer yn gwybod iddo deimlo i'r byw na chafodd arwain y 'Steddfod Genedlaethol.

mi faswn i wedi rhoi rwbath am iddyn nhw gael dwad efo fi.

'Fedri di ddim gneud dipyn o beintio dy hun neu gal y plant 'ma i neud rwbath at 'u cadw?'

Roedd o 'di dechrau arnyn nhw, neu rwbath tebyg, pan oedd o ar y môr.

Be ydi'r pwynt iddyn nhw berffeithio'r System a chymryd blynyddoedd i ddyfeisio peiriannau sy'n arbed yr holl amser 'da chi'n ei gymryd i lenwi siec, os ydach chi'n mynnu dod â'ch hen fodryb naw-deg-rwbath allan efo chi i ddewis bloda?

Maen nhw'n debyg i ddyn ar fin boddi yn chwilio am rwbath i gydio ynddo fo.

'Anodd deud, achan.' 'Wel, triwch graffu, bendith y nefoedd i chi.' 'Ifan Ifans?' 'Ia?' 'Ma' rwbath yn deud wrtha' i bod ni wedi pasio'r lle...

Mi 'na i banad gynnas i chi, unwaith bydda' i 'di cal rwbath amdana'.

Mae 'na rwbath yn dod i fyny ar Radio Cymru.

'Fasa' hi'n rwbath gynnoch chi, Ifan Ifans, i fynd â'r hwch 'ma a finna' heibio i Gerrig Gleision?

Rhegodd Ifor am funud solat a mwmblian rwbath am beipan wedi rhewi.

Isio cletj neu rwbath?

''Dyn nhw wedi symud Pwllheli ne' rwbath?' ''Da ni wedi talu am gal mynd i weld - The First of the Few.' 'Do'n tad.' 'Nid i fynd â hwch Beudy'r Gors at bae.' 'Ifan Paraffîn dreifar sybmarîn.' 'Petha' ifanc 'ma wedi mynd yn gegog, Ifan Ifans,' sylwodd William Huws a ddioddefasai'r un o math enllib yn flaenorol.

'A glychu dy big dy hun yr un pryd?' 'Twt, 'neith cropar o rwbath cynnas ddrwg yn y byd i ddyn nac anifal, yn enwedig pan fydd y gwynt yn union o Borth Neigwl, fel y mae o heddiw 'ma.' Wedi sgubo sylw yr hwsmon o'r neilltu fel hyn aeth Pyrs ymlaen â'r stori.

'Rwbath liciwch chi ond nionod - fedra' i ddim hyd yn oed sbelio nionyn'.

Ddeuda i rwbath am eich hud chi, ŵyr o fawr o ddim am ddaearyddiaeth, na ŵyr?'

'Rhag ofn bod gynnoch chi drygs ne rwbath.'

"Ia," meddai Twm, "os bydd rwbath ar ych dwr chi, y fi fydd yn 'i feddyginiaethu fo." Y lle yn foddfa o chwerthin.

Roedd o wedi diflannu i rwla, yn mwydro rwbath am droi rhyw feheryn at rhyw ddefaid, dôshio rhyw giât, weldio rhyw fuwch, injectio rhyw dractor a thrwshio rhyw oen.