Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

rwbio

rwbio

Cododd ei llaw at ei thrwyn a dechrau ei rwbio i'w gynhesu.

Yna tynnodd ddystar a guddiwyd ganddi o dan ei chlustog, a dechreuodd rwbio'r darnau'n gariadus.

Nid gormod o beth fyddai iddynt rwbio ei drwyn yn y pridd a rhoi chwip din iddo bob tro y daliant ef yn yr ardd.

Os na fedr yr Almaenwyr yna fynd â'r bwyd oddi yno wnân nhw byth gredu y medrwn ni wneud hynny." Dechreuodd Marie ail rwbio'r pistol â darn o glwt budr, ac am hir nid oedd sŵn yn yr ystafell ond sŵn y tân nwy yn poeri weithiau.

Erbyn hyn roedd yr anifail wedi closio ato ac yn ei rwbio'i hun yn ysgafn yn erbyn braich y morwr.

Gwlychodd y bys lolipop yn ei cheg a'i rwbio fo ar ei foch nes oedd y croen yn goch.

Sylwch fel y mae'r holl graig noeth a welwch wedi ei llyfnhau a'i gwneud yn grwn fe pe tai wedi cael ei rwbio â phapur tywod.

Mae popeth drosodd iddi hi,' ebe Sylvia â gwên gam, gan rwbio'i bol chwyddedig.