Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

rwy

rwy

Decllath i ffwrdd, rwy'n gweld bachgen bach â choesau cam yn cydio'n sownd wrth sgert ei fam.

Yn anffodus, fodd bynnag, rwy'n cael yr argraff nad yw'r rhan fwyaf yn fodlon rhoi cyfle i grwp hip hop fel y Tystion ac ni allaf ond gobeithio y bydd agwedd o'r fath yn newid cyn bo hir.

Yr ochr arall i'r lon i giat y Pandy mae fferm Glanrafon, ac ychydig i fyny oedd y Bull Inn, a gedwid gan John Thomas, a pherthynai y dafarn yr amser honno i Mr Lambert, gwr bonheddig oedd yn byw yn Tanygraig, Traeth Coch, ac mae gennyf gof amdano yn dod i'w oed yn un ar hugain, yn cael ei dynnu mewn cerbyd gan ddynion ifanc, ac rwy'n cofio bod pont o flodau ger y Pantom Arms.

Nid wyf yn cofio'n iawn beth a ddywedwyd, ond rwy'n meddwl inni gytuno mai ymgais yw'r naill a'r llall i roi trefn ar amrywiaeth mawr o elfennau gwasgarog, a'i bod yn werth inni ddyfalbarhau.

'Rwy'n croesawu'r datblygiad yma gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg - ond cam cyntaf yw hwn,' meddai Llew ap Gwent, Prifathro Ysgol y Parc ger y Bala.

Ond yn bersonol, rwy'n chwilio am fwy na hynny mewn llenyddiaeth.

Rwy'n hollol sicr fod y meddwl dynol dan straen fawr pan fo'n ymgodymu â materion nefol uwch clogwyni Deall.

Roeddwn ar y pryd wedi bod yn gweithio fel un o bedwar Cyfreithiwr Erlyn yn swyddfa'r Prif Gyfreithiwr Erlyn, Awdurdod Heddlu Dyfed-Powys yng Nghaerfyrddin, ers rhyw ddwy neu dair mlynedd cyn i'r achlysur 'rwy am ei ddisgrifio ddigwydd.

Rwy'n cofio dadl ar gynghanedd yn yr Herlald, rhwng Cymedrolwr a Llwyrymwrthodwr yn ymestyn tros wythnosau.

"Rwy'n dechrau deall 'nhad," meddai wrth y cŵn.

Rwy'n amau a oes perygl i fywyd o gwbl pan yw'r dynion hyn ar y llongau."

'Fe allet feddwl mai dim ond 'Cofio' a 'Menywod' 'rwy'i wedi sgrifennu erio'd!' meddai wrthyf un noson.

'Yf, Bigw, yf...' Yn y diwedd, rwy'n cymryd ei phen i'm dwylo ac yn torri pennau'r blodau i gyd i ffwrdd.

Wrth ei gofio heddiw 'rwy'n meddwl yn bennaf am ei addfwynder wiriondeb, nad oedd rywfodd - o'r byd hwn.

Rwy'n chwilio am ôl y seren wib, ymhell wedi iddi ddiflannu o'm bywyd.

'Rwy'n hwyr.

Rwy'n credu ei fod, am funud o leiaf, yn falch o weld dyn yno wrth ei ochr, gan iddo afael yn dynn yn fy mraich Rhonciodd y llong yn afreolus deirgwaith ar ôl ei gilydd.

Rwy'n joio perfformio, a rhan o hynny yw gwisgo lan a 'neud y colur, ac o'n i'n joio chwilio am wisg a 'neud y colur dros ben llestri, oedd e'n hwyl."

'Rwy'n meddwl, yn wir, fod Iwerddon yn rhyw fath o Ynys Afallon iddo - yn ddihangfa pan fyddai bywyd yng Nghymru wedl el frlfo neu ei siomi.

Rwy'n siwr y byddai'n dod i arfer a'r peth, meddai.

Dyna'u cyfrinach, rwy'n meddwl, sef eu bod yn deffro pobl o'u trwmgwsg a pheri iddynt ail-fyw profiadau cyffrous.

Rwy'i wedi clywed yr enw.

Ni fodlonodd Daniel a Bebb ar annog: rwy'n tybio i'r ddau ymladd am seddau ar gyngor Dinas Bangor, ac aeth Bebb, beth bynnag am Daniel, yn aelod ar ôl cynnig neu ddau.

"Rwy'n gobeithio codi a dyfnhau eu hymwybyddiaeth o genedligrwydd," meddai.

Daliwch ati Mr Hulse; fel cyd-Gymro, rwy'n eich cefnogi i'r carn.

Does na ddim llawer o eiriau sy'n ddieithr i'r plant ac erbyn hyn rwy'n dueddol o ddefnyddio mwy o'r ffurfiau gogleddol.

Rwy'n siwr y cawn ni groeso cynnes yng Nghymru.' A'r geiriau hyn ffarwelia'r milwr â ni i gychwyn ar ei fordaith o Harfleur am Gymru.

Gyda llawer ebychiad o 'Ie, ie, rwy'n cofio Nhad yn dweud,' a 'Dyna oedd y stori glywes i gyda Mam, druan,' gwrandawyd arno'n rhestru gweithredoedd y tadau.

'Rwy'n siŵr fod nifer o ddarllenwyr wedi clywed stori gyffelyb i hon, neu wedi ei darllen fel stori newyddion - byddwn yn falch iawn o'u clywed - danfonwch hwy ymlaen i Llafar Gwlad.

'O'dd e'n boethach na dim rwy i wedi weld a mae'n anodd ca'l batwyr Sri Lanka mâs yn enwedig ar lain fel hwn.

Mi gefais ddigon o amser i feddwl dros bethe wrth orwedd fan hyn, ac rwy'n ofni y bydd raid i ni adael yr ynys." "Gadael yr ynys?

Rwy'n dy sicrhau y caiff dy feistr wybod pa mor gwrtais oedd eich triniaeth ohonom.

Ac 'rwy'n methu'n lân a'i berswadio i gau ei lygaid a chysgu .

Rwy'n digwydd credu fod yn rhaid i gomedi sefyllfa fod a sefyllfa waelodol hollol ddigrif cyn i'r sgrifenwyr ychwanegu'r jocs, ac roedd Fo a Fe yn ateb hynny gyda gwrthgyferbyniad o Dde a Gogledd yn union fel y mae Yes, Minister yn defnyddio sefyllfa oesol Don Quizote/ Sancho Paza neu Sherlock Homes/Watson i greu digrifwch cyn gorfod creu'r episodau unigol.

Wyddoch chi mae cymaint o Saesneg a bratiaith ar y sianel honno - rwy'n ofni yn wir dros y Gymraeg.

Rwy'n credu i mi gael fy ngwahodd gan Alun Evans a'i gydweithwyr i gymryd at y gwaith o baratoi cyfrol ddathlu o ryw fath am i minnau unwaith fod yn gynhyrchydd gyda'r Gorfforaeth.

"Mae o wedi gofyn cwestiwn syml ichi, atebwch o wnewch chi?" "Rwy'n gobeithio nad ydych chi'n cael eich dylanwadu gan benboethiaid anaeddfed fel y ferch yma Alun," meddai'r twrnai.

Wrth ailddarllen rwy'n sicr fod Ceri yn rhy sensitif i fod yn y sefyllfa yma.

Rwy'n cofio i griw ohonom, bechgyn ysgol gan fwyaf, dyrru i'w wrando un nos Sul, a buan iawn y sylweddolodd yr hen wag fod croeso iddo amlygu ei arabedd, ac i fynd rhyw flewyn bach dros ben llestri hyd yn oed.

Rwy'n weddol siwr nad dylanwad yr ychydig o Saeson a ddylanwadodd ar fy Saesneg.

Mi gewch 'rwy'n siwr, bwff o chwerthin wrth ddarllen am ei hiwmor, a'i ffraethineb, y pethau doniol hynny sy'n perthyn i Charles a dim ond Charles.

'Rwy'n tynnu tuag at oed yr addewid ac o dro i dro yn hunanol ac yn hiraethu .

Rwy'n credu fod y rhain yn egwyddorion digyfnewid, beth bynnag yw'r iaith a beth bynnag y cyfnod.

'Rwy'n meddwl i mi arogli llwyddiant, a bodlonais gau fy llygaid ar reolau a galw heibio eto nos Fercher.

Ond o bryd i'w gilydd, wrth dân y rŵm ffrynt yn Nhy'r Ysgol, Coedybryn, 'rwy'n meddwl iddo adrodd wrthyf holl hanes ei fywyd.

'Rwy'n ailysgrifennu'r llinellau hyn.

Rwy'n annog pawb i fynd i gael eu harchwilio ac i dderbyn triniaeth os oes angen.

Ar y dydd mae unrhyw beth yn gallu digwydd - rwy i jyst yn edrych ymlaen i'r gêm.

Rwy'n credu mai rhai pobl heb welyau sy'n ceisio hawlio trwy lwgrwobrwyo.

Ychydig bach o ffantasi ar fy rhan i yw hyn, efallai, ond rwy'n grediniol fod gan Gymdeithas yr Iaith ran fechan yng Nghytundeb Belffast.

Rwy'n diolch i'r Arglwydd am flynyddoedd fy nedwyddwch gyda'r Teulu Mawr, a chyda'th rieni a thithau.

'Rwy'n cofio bwyta siocled...

'Rwy'n awgrymu eich bod yn dewis lliw pastel, tawel, fel ei fod yn adlewyrchu mwd y cwrdd eglwys'.

Rwy'n cofio'n glir cyrraedd Montreal yng nghanol storm drydanol enbyd, a gwres llethol ar ben hyrmy yn`sugno pob owns o- ~nni oedd- yn y corff.

Rwy i wedi cael tipyn o dynnu coes ar ôl sgorio yn ein gêm ddwetha ni yn erbyn Wrecsam.

Pwnc ar gyfer cyfrol arall - ddifyr a diddorol rwy'n siwr - fyddai sut i ddod o hyd i gariad a chyrraedd y cyflwr o ddyweddio lle mae'r llyfryn hwn yn cychwyn.

"Rwy'n siŵr dy fod tihau yn gwybod un arall o chwedlau Esop.

"Rwy'i wedi cael tŷ, bobol!" meddai, gan edrych ar ei wraig.

Rwy'n hoffi arogl baco." Taniais y sigaret a chwythu llond ysgyfaint o fwg i'w gyfeiriad ac fe'i gwyntiodd fel daeargi wrth dwll llygoden fawr.

"Rwy'n ei gwybod hi - bob gair," meddai yn y derbyniad ar ôl y gystadleuaeth.

"Rwy i wedi gweud wrth Rod yn barod y bydden ni'n cwrdd ag e lawr yn y disgo.'

Rwy'n credu y byddai'n well gen i fod yn lle Heledd nag yn lle'r par pert 'na heno.

Ond mae'n bryd i'r Eisteddfod ddeffro a wynebu'r ffaith mai dyma'r realiti ac nid yr iaith flodeuog yna sydd ar y llwyfan, ac rwy'n credu y bydd y gynulleidfa yn ei dderbyn e." Roedd y sgript wedi ei anfon at yr Archdderwydd, neb llai, er mwyn cael sêl bendith swyddogol ac, wrth i'r cast ddechrau gweithio arno, fe gafodd rhai elfennau eu newid, gyda'r disgyblion yn datblygu llawer o'u syniadau eu hunain.

Rwyf fi'n llenydda am fy mod i'n caru crefft llenydda, yn caru geiriau a rhythm geiriau; felly rwy'n tristau'n arw wrth feddwl y gellir fy ngalw - a hynny'n gyfiawn - yn ddieithryn yn fy ngwlad fy hun.

Cefais fy nhemtio, wrth wneud darn i'r camera yn y sgwâr, i sibrwd fy ngeiriau; rwy'n siwr fod hanner y dref wedi clywed yr hyn a ddywedais.

Rwy'n cofio cyfnod pan oedd pob plentyn yn fy ysgol i'n siarad Cymraeg.

Rwy'n edrych ymlaen at wyliau yng Nghymru yn ystod y ddwy flynedd nesaf gan fy mod wedi addo Nadolig yng Nghymru i'r plant.

'Ie, rwy'n cyfadde hynny,' meddai'r wraig yn ystrywgar, 'ond wyddwn i ddim am y cawr bryd hynny.

Rwy am lofnodi'r ddeiseb...

Yn wir, rwy'n amau fy mod i fy hun yn un ohonyn nhw.

Ond, rwy'n berffaith siwr o un peth : mae ffraethineb Lloyd y Cwm wedi aros yn y cof lawer yn hwy nag aml i bregeth a glywais na chynt na chwedyn.

Rwy'n gweld gwaed.'

'Rwy'n meddwl ei fod o wedi newid dipyn ar y sgript oedd gan Enoc.

Ac rwy'n synnu na fyddai llywydd y Kirk wedi pwysleisio hynny yn ei apêl am bregethwyr tanbaid.

Gŵr hynaws dros ben, ac yn gresynu nad oeddwn i wedi gofyn am gar i'm cludo yno (roeddwn i wedi cyrraedd mewn rickshaw-peiriannol, ac rwy'n dechrau arfer gweu i mewn ac allan dan draed loriau a bysiau).

Rwy'n siwr taw teimladau cymysg oedd gan Menem y bore hwnnw.

'Rwy wedi fy siomi y bu'n rhaid cosbi cynifer o chwaraewyr.

'Rwy'n byw yngobaith (sic) Israel, ag yn hyfryd gennif weled y wawr yn torri, ar haul ar godi ar ynys Brydain'.

"Rwy 'di gweud wrthot ti o'r bla'n.'

Rwy'n tybied fod yna fater ychwanegol, siŵr o fod, ydach chi ddim yn meddwl?'

Rwy'n meddwl i'r trampolîn gyrraedd tua blwyddyn o mlaen i a byddai Syd yn ei addysgu ei hun ai fyfyrwyr yr un pryd.

Pan grybwyllid enw Miss Lloyd mewn sgwrs dechreuai ei gwefus isaf grynu, ac rwy'n amau ai hiraeth am ei ffrind ddiweddar oedd y rheswm.

'Meic, rwy eisiau iti fy helpu i gysylltu â'r Serosiaid.

Fedra i ddim meddwl pryd ddysgais i gynganeddu - rwy'n meddwl mai darllen llyfr wnes i.

Rwy'n cyfrif fy hun yn freintiedig iawn.

Rwy'n cofio'r sgwlyn yn dweud wrthym eu bod yn rhoi sgwaryn o bren am wddf plant a glywid yn siarad Cymraeg yn rhai o ysgolion newydd yr ardal ond welais i neb yn cael y gosb honno, beth bynnag oedd hi.

Mae cariad wedi taflu rhwyd O sidan am fy nwyfron Per swynol rwyd o wead serch Y ferch a bia 'nghalon Ac yn y rhwyd 'rwy'n byw a bod Ni fynnwn fod ohoni Ac yn y rhwyd y gwnaf barhau Nes gwnawn ein dau briodi.

''Rwy'n credu y pica' i drosodd i Baris am dipyn,' atebodd yn ymddangosiadol ddifater.

Na - rwy'n hollol hyderus mai yn yr un modd yn union y trinir y ceisiadau am y swyddi hyn ym myd Iechyd.

Does 'mo'r fath beth a hunan-leiddiad yn bod, wrth natur - amgylchiadau a digwyddiadau sy'n gyrru pobl i wneud peth felly." "Rwy'n siarad am actores oedd yn ei chael hi'n rhy rhwydd i fyw rhannau dramatig a apeliai i'w dychymyg, yn hytrach nag ymdrechu i wneud rhywbeth o'i bywyd ei hun." "Ac rwy i'n son am ddigwyddiadau a'u canlyniadau.

Rwy'n ddigon hapus heno fy mod yn medru adrodd peth o'r hen Gyffes sanctaidd gyda mam - "I believe in God the Father, God the Son and God the Holy Ghost," ond wyddwn i ddim byd beth a ddwedwn i!

'Rwy i wedi meddwl amdanoch mor aml ar hyd y blynyddoedd.

Rwy'n casglu, felly, nad ydi hwn yn fudiad ifanc o ran nifer blynyddoedd ei aelodau.

Doedd dim ond eisiau i'r holl fyfyrwyr a oedd yn bresennol wrnado ar ambell i drac er mwyn sylweddoli teimladau cyn gryfed sydd gan y grwp am ddiwylliant Cymru ac rwy'n sicr y byddent mwynhau pob eiliad o'r set.

Ces i fy holi gan heddlu lleol llai annymunol, ac rwy'n dal i gofio un ohonynt yn dweud, 'Sa i 'di 'neud hyn o'r blaen.

(Rwy'n ymddiheuro am fod ei deitl yn un trwsgl, ond does i'r gwreiddiol Saesneg, sef 'Custody Officer', fawr o geinder chwaith.) Fel yr awgrymir gan ei deitl, priod waith y Swyddog Cadwraeth yw cadw.

Rwy'n gallu hedfan yn iawn," chwarddodd pan oedd yn uchel yn yr awyr.

Os oes rhwystrau yn eich ffordd, Capricorn, rwy'n ofni taw chi sy wedi'u rhoi nhw yno, ymlaciwch.

"Ond rwy'n cael motor beic os wna i lwyddo.

'Rwy'n sicr na wnaeth y Creawdwr ystyried digon am wendidau ei ddynolryw ynglŷn â meddiant a thrachwant a phwer.