Dangosodd ei ymroddiad i adeiladu talent ar draws pob un on gwasanaethau, ac yn arbennig i sicrhau mwy o amlygrwydd i raglenni Cymru ar rwydweithiaur BBC, ei allu diamheuol i arwain y sefydliad, ac mae wedi paratoi BBC Cymru ar gyfer y sialensau newydd syn ei wynebu yn yr oes ddigidol.
Ar y cyfan, bu 1999/2000 yn flwyddyn dda i BBC Cymru ar rwydweithiaur DG, wrth i lawer o'r gwaith datblygu ar buddsoddiad mewn hyfforddiant a thalent ddwyn ffrwyth gyda llwyth o gomisiynau sydd wedi denu sylwadau ffafriol, ac ymateb da gan y gynulleidfa.