Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

rwyt

rwyt

Un diwrnod, gofynnodd i un o'r plant: 'Pam wyt ti'n rhoi mynydd i mewn ym mhob darlun 'rwyt ti'n wneud?

'Rwyt ti wrth dy fodd yn bwydo'r ieir.'

O'r diwedd rwyt wedi gadael Cors y Cedyrn ac mae'r gwastadeddau o'th flaen yn edrych yn hyfryd.

"Rwyt ti'n siarad fel Methodsyn nawr, grwt!" atebodd.

Os wyt yn eu colli hwy i gyd, golyga hynny fod y ceffyl wedi'th gicio ac rwyt yn gorwedd yn anymwybodol a'th antur drosodd.

Rwyt ti wedi penderfynu ffermio felly?" "Do Mam." "Rydw innau wedi penderfynu hefyd." "O?

Rwyt ti'n siwr o lwyddo." Cofiodd yn sydyn hefyd am yr hyn a ddywedodd un capten llong wrtho unwaith pan oedd yn forwr ifanc iawn.

'Rwyt ti'n fy 'nabod, felly.' Gwenodd Mathew.

"Rwyt ti'n ystyfnig fel mul," gwenodd un nyrs.

Yn y gorffennol rwyt ti wedi gorfod dibynnu ar fod yn ail, ond mae heddiwn ddiwrnod newydd sbon.

Rwyt ti'n mynd i ffermio!" Rhuthrodd ato a lapio'i breichiau am ei wddf.

Na, paid â chodi dani þ mi rwyt ti.

Rwyt ti a Teregid yn ei ddilyn, a Talarn a Neddig yn eich dilyn chwithau.

'Henaint ni ddaw ei hunan', w'sti." "Rwyt ti'n ffodus." "Ydw wir; mae Megan gen i o hyd a'r plant i gyd o fewn cyrradd." "Ac yn Gymry i'r carn." "O, rydw i'n cyfri 'mendithion, raid i ti ddim gofalu ond chefais i ddim bywyd mor foethus â chdi cofia." "Ddim yn faterol, naddo.

Rwyt yn adnabod dau ohonynt ar unwaith, y ddau a welaist gyda Teregid.

"Mi rydw i'n cofio amsar," medda fi, pan ges i gyfla i dorri ar ei draws o, "pan oeddwn i'n mynd hyd y ffyrdd yma hefo ceffyl a throl, ac wrth ddþad adra, yn gorfadd ar wastad fy nghefn yng ngwaelod y trwmbal yn sbio ar y cymyla, a'r gasag yn mynd ei hun, a phan fydda'r drol yn dechra sgytian, roeddwn i'n gwybod fy mod i wrth Tþ Gwyn, achos doeddan nhw ddim wedi tario ddim pellach na'r fan honno." "Rwyt ti'n drysu yn y fan yna," medda fo.

"Wyt ti'n clywed rhywbeth?" "Nac ydw i." "Na finna' chwaith." "Sandra, pam rwyt ti'n sibrwd?" gofynnodd Joni, gan ddal i wneud hynny ei hun.

Rwyt yn ceisio mwmian rhywbeth, gan dynnu'r sbienddrych o'th ysgrepan.

'Rwyt ti fel petait ti wedi gweld ysbryd.

Ond paid poeni, mae punten eu ddwy ar y ffordd, rhywbeth rwyt ti, hwyrach wedi ei anghofio.

Rwyt mor dlws ag erioed.

Dwi'n gwbod y siop 'na rwyt ti yn sôn am.

'Lle rwyt ti'n mynd?' meddai 'nhad wrth weld Dic yn pacio'i fag.

Rhoi rhyw gyngerdd bach i ddau filwr sy'n unig ac ymhell o'u cartref." Ond cyn ­ Jean Marcel gael cyfle i brotestio, ychwanegodd yn sydyn, "Rwyt ti am i ni gael y bwyd yna sydd wedi ei ddwyn oddi arnon ni'n ôl yn dwyt?"

'O, rwyt ti'n anobeithiol, yn dwyt.

`Maen nhw'n dal i edrych y ffordd arall.' `Fyddan nhw ddim yn hir cyn sylwi ar y wifren pan fyddan nhw'n troi yn ôl drachefn.' `Rwyt ti'n iawn.

Rwyt ar dy draed mewn amrantiad ac yn agosa/ u atynt yn dawel.

Rwyt yn tynnu dy hun allan o'r dŵr oer ac yn gorwedd ar y llwybr i gael dy anadl.

Dwi'n cofio hogyn o Benmaenmawr yn priodi hogan o Lanfairfechan, ac ewyrth iddo'n gofyn: 'Ble rwyt ti am fyw, Bob bach?'

Rwyt yn mynd yn dy flaen a chyn hir fe weli lwybr arall sy'n mynd i'r dwyrain.

Rwyt ti wedi cysgu digon!" Stan McNally oedd yn gweiddi y tu allan i ddrws caban Douglas ar y llong.

'Rwyt ti'n fachgen mawr.

Rwyt yn dy longyfarch dy hun am fod mor hirben â'i gael i'th arwain; fe fyddi allan o'r goedwig ofnadwy yma ymhen dim amser.

Ble rwyt ti?" "F'ewyrth ydi o," meddai Aled, gan droi'n gyffrous at ei athro.

Rwyt ti wedi mynd yn fwy o Sais yn dy ffordd nag wyt ti o Gymro.

Am eiliad fechan rwyt yn credu dy fod wedi llwyddo ond yna fe weli'r creadur yn symud - yn symud tuag atat.

"'Rwyt ti wedi'i ddeud o, Aled - yn y darlun.

'Rwyt ti fel ysbryd o gwmpas y lle 'ma.'

Yna rwyt yn troi pen dy geffyl i ddilyn yr afon, ac ar ôl milltir neu ddwy gweli'r rhyd a'r ffordd sy'n arwain o'r afon i Glan Gors.

'Ond Dil...' 'Dos di - rwyt ti'n cysgu wrth ben dy draed.

Rwyt ti wedi byw yno y rhan helaetha o d'oes.

Ond anghofiwyd paentio'r to mewn un o'r tai bach dilheintiedig hyn ac arno mewn llythrennau mân, mân, yr oedd yn rhaid ymestyn ar flaenau'ch traed i graffu arnynt, oedd y geiriau hyn: "Os wyt ti'n medru darllen hwn, rwyt ti'n gwlychu dy esgidiau."

'Reit, mi rwyt ti'n rong!' gwaeddodd, yn plannu bys i ganol ei lyfryn.

paid a 'nghyhuddo i fel hyn, Marc, rwyt ti'n gwneud i mi deimlo 'mod i'n ceisio ei phardduo hi - ond fedra i ddim dioddef dy weld di mor anhapus pan nad oedd bai arnat ti.

Edrychi i fyny a cheisio dy orau i weld beth sydd yno ond fe fethi â gweld dim Rwyt yn troi'n ôl at y bwci i ddweud wrtho i fynd yn ei flaen ond mae wedi diflannu gan adael pen dy raff ar y llawr.

Os lleddaist yr helflaidd rwyt yn cymryd y Dorch Aur oddi am ei wddf a'th saeth o'i gorff cyn ailddechrau ar dy daith.

Yr oedd ci llwynog bach o gwmpas ac meddai John yn llawn athrylith am anifeiliaid: "Mi 'rwyt ti'n berffaith iach, y baw, mae dy hen nosi di'n reit oer." A byddai'r plant yn teimlo trwyn pob ci ar ôl hyn os byddai rhyw arwydd o salwch arno i weld a fyddai ei "nosi yn oer." A minnau wedi dechrau sôn am John Preis daw llawer hanesyn i'r cof am ei ymweliadau mynych â ni.

"Dydi o ddim yn deg â'r plant chwaith þ gorfod dod yr holl ffordd yma i gadw golwg arnat ti." "Nac ydi, rwyt ti'n iawn."

Rwyt ti'n ddigon ifanc a llwyd dy wedd i edrych fel un o blant yr ysgol yna yn y dref.

o'r diwedd rwyt ti wedi cyrraedd y nod, a mae hon yn wythnos i ddathlu.

Rwyt yn codi ar dy eistedd ac yn gweld cysgodion ar y llwybr.

Dyna roeddwn i'n ei olygu wrth anaeddfedrwydd: methu derbyn y sefyllfa ac addasu iddi, ei theimladau gorffwyll, melodramatig yn lliwio ei holl agwedd ar fywyd, nes bod popeth yn cyfyngu a chulhau i un pwynt caled fel haearn, na adawai yr un dewis amlwg arall iddi ond ei lladd ei hun, a dianc o garchar ei meddwl felly." "O, rwyt ti'n fodlon derbyn ei bod hi o ddifri ynglŷn a'r peth, felly?

Rwyt ti wedi bod yn anlwcus i gael criw mor annifyr, oherwydd maen nhw'n gallu bod yn ddigon caredig.

Cei gic ddisymwth yng ngwaelod dy gefn ac rwyt bron â gweiddi mewn poen.

Ar ôl aros am ychydig i wneud yn siŵr eu bod wedi mynd rwyt yn disgyn o'r goeden.

Meddwl oeddwn i fod pobl 'run fath â ti, rwyt ti'n gweld, bob amser i'w cael mewn tai bach - cachgi yn y cachdy, fel petai.' 'Mae'n ddrwg 'da fi nad oes gen ti ddim byd gwell i'w wneud, Gary, na'm dilyn i o gwmpas y lle, ond mae gen i.' Gwyddai Dilwyn ei bod yn rhaid iddo gadw'i dymer, beth bynnag a ddywedai'r cythraul hwn.

'Rwyt ti i ddechrau dydd Llun.'

Y mae wedi dy arwain i ganol y goedwig ac rwyt ar goll yn llwyr.

Does dim byd arall i'w wybod." "Felly rwyt ti'n credu mewn ysbrydion," meddai Orig.

'Bugeiliaid newydd sydd...' A does 'na ddim dyrnad yn y Capal ar y Sul, na fawr o lewyrch ar gyrdda'r wythnos chwaith." "Rwyt ti yn llygad dy le fel arfar.

Rwyt yn sylweddoli, a thithau'n ddieithryn, y byddai'n anodd iawn esbonio'r hyn a ddigwyddodd.

Ffolineb fyddai parhau ar y llwybr hwn, felly rwyt yn dychwelyd i'r ynys i ddewis llwybr arall.

Pob llwyddiant, Dinogad." Rwyt yn diolch iddo am ei gymorth ac yn aros iddo ddiflannu i'r twnnel cyn troi am y de.

Os nad oedd eu teimladau tuag at Heledd yn ddigon i'w hatal rhag ei thrin hi fel y gwnaethon nhw yn y lle cyntaf, yna rhagrith fyddai hi iddyn nhw ymddwyn fel petai canlyniad eu hamddygiad yn mennu llawer arnyn nhw nawr." "Rwyt ti'n siarad yn ysgubol iawn - bron fel petaen nhw wedi cynllunio'r peth mewn gwaed oer." "O, mi wn i; siarad yn fy nghyfer roeddwn i.

"Rwyt ti a dy fath wedi difetha'r dyddiau hynny am byth," a phoerodd Marie ar y llawr wrth ddilyn Jean Marcel o'r dyrfa.

Rwyt yn troi dy geffyl ar ei ôl a chyn iddo ddianc rwyt yn neidio arno a'i dynnu i'r llawr.

'Rwyt ti ar ryw berwyl neu'i gilydd yn dwyt?'

Rwyt ti'n gwneud gwaith da, a rwyt ti ar dy orau pan wyt ti'n bod dy hunan.

Rwyt yn cerdded yn dy flaen am rai milltiroedd gyda'th flinder yn cynyddu bob cam.

Rwyt wedi dal bwci - os mai dal yw'r gair iawn, gan ei fod yn strancio ac yn cicio fel peth gwyllt.

'Rwyt ti'n gwybod yn iawn y gna i beintio ond waeth heb â gofyn i'r plant.

Rwyt ti newydd ddechra.'

Rwyt yn adrodd yr hanes i gyd wrth y cwmni o chwech o benaethiaid Tegannedd, o'r diwrnod y gadewaist Trefaiddyn hyd yr amser y daethost i Gors Mallerch.

`Rwyt ti'n ddiogel.

Rwyt ti'n lwcus nad oes gen ti frawd bach yn dy ddilyn i bobman.'

'Rwyt tithe hefyd yn mynd i golli dy fam, y bychan bach, sibrydodd yn isel.

Rwyt ti tu-hwnt o glefer, on'd wyt ti?

Pan gyrhaeddi dir rwyt ti bron wedi ymlâdd yn llwyr.

"Rwyt ti wedi penderfynu.

Heb feddwl eilwaith rwyt yn gweiddi: "Teimlaf yn gryf fel llew." "O anhygoel, anghredadwy o wir, gwir, gwir pob gair." Mae Eilir wedi gwirioni ar dy linell.

"Dacw fe, draw fan acw!" Rwyt yn troi ac yn gweld yn agos i ddwsin o'r pentrefwyr yn rhuthro tuag atat.

Rwyt yn ailgydio yn y trywydd ond yn fwy effro y tro hwn, felly pan glywi dwrw ar y llwybr ychydig y tu ôl i ti rwyt am ffoi.

Rwyt ti'n fodlon cyfadda hynny o'r diwadd.

Mae'r lleuad yn llawn ac rwyt yn ceisio ailddilyn y llwybr i'r fan lle leddaist y baedd.

Rwyt ti'n crynu fel deilen, 'ngwas i, wyt ti ddim yn dda?

NI elli weld yn iawn i ble rwyt yn mynd ac yn sydyn mae'r ddaear yn rhoi o dan dy draed.

Rwyt ti'n haeddu rhyw bethau bach ychwanegol a mwynha nhw'n llawn.

Rwyt yn rhedeg nerth dy draed drwy'r goedwig â changhennau'r coed yn chwipio ac yn crafu dy wyneb.

Wannwl dad, rwyt ti'n wlyb soc, fachgen, cer i'r cefn i dynnu'r hen garpiau gwlybion yna oddi amdanat mewn dau funud, mi gei di ddigon o dyweli yn y cwpwr cynnes, dyna chdi.

Rwyt yn disgyn i dwll dal baedd gwyllt.

Does gen ti mo'r prydar hwnnw, o leia, rwyt ti wedi hel eitha hosan," edliwiodd Gruff.

Rwyt yn llwyddo i ddal dy afael ac yn y golau gwan gweli nad yw'r bleiddiaid i'w gweld yn unman.

Rwyt ti'n berson iawn yn y bôn ac fe ddylset ti gyrraedd yn uwch.

A dallt y tlodi?" "Rwyt ti'n iawn, wrth gwrs.

Os oes rhywle rwyt ti am fod, gwnan siwr dy fod yn gosod dy olygon i'r cyfeiriad hwnnw a ddim i unlle arall.

Rwyt yn penderfynu peidio â dweud dim - eu gêm hwy ydyw, felly rhyngddyn nhw a'u busnes.

Rwyt ti wedi gwneud yn dda iawn!

"Mae'n sicr mai teimlo'n unig rwyt tithau hefyd, gwenodd y morwr, gan deimlo'n well nag a wnaethai ers oriau gan fod ganddo gwmni.

Wyt ti'n cofio?' 'Rwyt ti'n hollol iawn,' cytunodd Meic.

Wrth iddo agor drôr isa'r cwpwrdd rwyt yn dal dy anadl.