Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ry

ry

Mae pethau'n gwella yna hefyd ac ry'n ni wedi cael rhyw fath o drefn ar ddysgu yn y rhan fwyaf o'r dosbarthiadau.

Yr oedd yn ddyn reit agos i'w le mae'n debyg ond yn ei athrawiaeth cymerai olwg ry arwynebol a gobeithiol o'r natur ddynol.

Rŷm ni wedi symud yn bell oddi wrth ddatganiadau uchel-gloch y macwyaid a'r brodyr llwyd.

"Yr offeiriedyn balch, anwybodus, anghristionogol yn Rhydychain neu Lanbed, sydd yn ry fonheddig i ddarllen un gair o'r ysgrythyr, nag i wybod dim oll o gynhwysiad y llyfr hwnnw; - Methodistiaeth yw hyny yn ei olwg; ac y mae ef ei hunan, a'i deulu gartref, lawer o raddau yn rhy genteel i fod yn debyg i Fethodistiaid...".

`Yr hyn yr ŷn ni'n ei garu, rŷn ni'n ei warchod.' Dyna i mi oedd hanfod y chwyldro yn Ciwba, a hwnnw'n cael ei adlewyrchu ymhobman, yn y gofal dros bobl, a thros blant yn arbennig.

"Rŷch chi yma yn lle Doctor Hort," meddai wedyn.

'Y cyfan ry'n ni'n gofyn amdano yw'r cyfle i fyw.' Methais â chredu geiriau un gŵr oedd yn gorfod dibynnu ar flanced yn unig i'w gysgodi rhag y tywydd.

Rŷn ni'n lwcus iawn i gael 'i gynnig e.

Dyna'r cyfan ry'n ni ishe,' ymbiliai'r tad.

"Wn i ddim beth rŷch chi'n ei feddwl wrth 'helynt neithiwr'.

Anfonwch ambiwlans, mae Williams yn fyw o hyd.' 'Ble ry'ch chi nawr, syr?' Roedd tinc o nerfusrwydd yn llais Kirkley ar ben arall y lein; fel arfer rhedai gweithgareddau'r adran yn llyfn a digynnwrf.

'Does dim mynyddoedd ffordd hyn.' 'O,' meddai'r plant i gyd, 'ry'n ni bob amser yn cael marc ychwanegol os rhown ni fynydd i mewn.' Faint sy'n cofio mwyach amdano yn nyddiau'r Coleg?

Ry'n ni'n perthyn i'r pentref ac ry'n ni'n atebol i'r pentref.' Pwy ddywedodd nad yw pobol â nam meddyliol yn cael eu derbyn gan gymdeithas?

Dichon i ddyn fod yn denant hapus ond iddo beidio â bod o natur ry deimladwy.

'Ry'n ni'n gallu anfon Adam i'r ysgol hon am fod Tony'n gweithio'n galed ac yn ennill digon o gyflog, ond mae'n anodd i eraill.

Wrth gwrs, ni ddylid chwilio am gyfatebiaeth ry lythrennol rhwng ei ramant ef a'r serch a ddisgrifiodd Pantycelyn yn Golwg ar Deyrnas Crist.

Dyw'r mesur ddim yn farw eto, a ry'n ni'n benderfynol o godi ymwybyddiaeth pobol o'r hyn sy'n digwydd." Dywedodd bod yr agwedd negyddol hon yn ymestyn at bobol gyda phob mathau o anabledd, nid anabledd gorfforol yn unig.