Ydi'r teithiwr cyffredin yn mynd i dalu £500 i deithio ar awyrennau BA neu Lufthansa, neu £200 i deithio ar ffleits-dim-ffrils Ryanair.
Mae'r Gwyddel Michael O'Leary sy'n berchen ar gwmni Ryanair wedi agor swyddfa yn Charleroi sydd tua 40 km y tu allan i Frwsel ac mae bargeinion diri i'w cael.
Yn aml mae'r cwmnïau yma yn defnyddio meysydd awyr llai blaenllaw, er enghraifft hedfanodd yr athrawes i Prestwick ger Glasgow ac mae ffleit Ryanair i Baris yn glanio yn Beauvais sydd tua 80 km i'r gogledd o'r brifddinas.