Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

rybuddio

rybuddio

Byddai'r canlyniadau'n cael eu defnyddio i rybuddio gweddill y byd os oedd newyn ar y ffordd.

Ein holi ynghylch y swae fod ffrind i Ferched Beca yn gwitho yng nghegin neu erddi y Plas yntefe, ac yn diangyd yn y twllwch i rybuddio plant Beca o'r cynllwynion i'w dal rhwng Y Priordy yn Aberteifi a'r Plas.

Ond doedd dim angen iddi ei rybuddio.

Ac onid oedd Ffantasia wedi dy rybuddio i beidio bwyta bwyd oddi ar y cloddie?

Yr hyn sy'n drawiadol yn y cyd-destun penodol hwn yw iddo yn ei lythyr cyntaf ar sir Gaernarfon rybuddio'r awdurdodau yn Llundain fod y Gymraeg yn cael ei defnyddio i annog teyrnfradwriaeth - a'r troseddwr pennaf oedd Thomas Gee.

Ac fel y mae pobol yr AA neu'r RAC yn eich rhybuddio am beryglon ar ffordd, felly y gallech rybuddio pobol fod yna berygl iddynt gwrdd â'i Harglwydd ar ambell ffordd, fel yr un i i Emaus, neu'r ffordd honno yr âi yr eunuch arni yn ôl i Ethiopia.

ARGYMHELLWYD fod llythyr i'w anfon at y tenant yn ei rybuddio i wella ei ymddygiad rhagblaen neu byddai'r Cyngor yn gweithredu o fewn y rheolau tenantiaeth a cheisio meddiant o'r eiddo.

Ond os byddi wedi rhybuddio'r cyfiawn rhag pechu, ac yntau'n peidio â phechu, yn sicr fe gaiff fyw am iddo gymryd ei rybuddio, a byddi dithau wedi dy arbed dy hunan.

Gan imi sôn eisoes am y gloyn gwyn yn elyn i deulu'r bresych, dylwn rybuddio am un arall sydd yr un mor niweidiol, os nad mwy felly yn fy ngardd i oherwydd ei fod yn fwy dichellgar oherwydd ei guddliw.

Yn ôl Iolo Morganwg, cafodd ei rybuddio ganddynt y byddent yn ymweld â'i gartref yn Nhrefflemin a mynd trwy ei bapurau.

Y mae'n bosibl fod cydolygyddion Hughes wedi'i rybuddio yn erbyn gwrthweithio cryfder ei achos drwy ymarfer iaith a ellid ei dehongli yn hunangyfiawn ac â naws sarhau-er-mwyn-sarhau iddi yn yr ysgrifau hyn.

Pan ddywedaf wrth y drygionus, , a thithau heb ei rybuddio a heb lefaru wrtho i'w droi o'i ffordd ddrygionus er mwyn iddo fyw, bydd y dyn drwg hwnnw farw am ei bechod, a byddaf yn ceisio iawn gennyt ti am ei waed.

Ergyd i rybuddio, mae'n siŵr - ychydig iawn o ergydion a fethai'r targed y dyddiau hyn.

Mae llais ochr arall y ffôn yn ei rybuddio fwy nag unwiath taw annoeth fyddai parhau gyda'r ymchwil, ond mae styfnigrwydd, ymhlith ffactorau eraill, yn sicrhau bod Alun yn glynu'n ddygn at ei stori.