Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ryddhau

ryddhau

Yn sicr nid oes modd gwadu fod rhai o'r enwau ar y cryno ddisgiau hyn yn anghyfarwydd ond, er hynny, mae'r label wedi llwyddo hyd yma i ryddhau amrywiaeth eang o senglau.

Mae Lazlo wedi gwrthod ei ryddhau cyn diwedd ei gytundeb.

Maent hefyd yn edrych ar y posibilrwydd o ryddhau fideos yn y dyfodol.

Fel ag iodin cyffredin, pan roddir ffurf ymbelydrol o iodin i berson, mewn diod neu drwy chwistrelliad, bydd canran sylweddol ohono yn cael ei amsugno gan chwarren y thyroid cyn cael ei ryddhau i'r corff fel hormonau.

Eu cred oedd y gallai gwyddoniaeth sicrhau gwir ryddid i'r dyn modern a'i ryddhau o lyffetheiriau ofergoel a chredoau gormesol yr eglwysi.

Yno trefnwyd ymgyrch i ryddhau'r carcharorion eraill.

Fel wiwer, cerddodd Alun ar hyd y boncyff a phlygu i lawr i ryddhau'r bachyn o'r pren.

Wedi llwyddiant ysgubol eu hail albwm International Velvet a chaneuon fel Mulder and Scully, Road Rage a Strange Glue, roedd y cyngerdd hwn yn cael ei gynnal wedi iddynt ryddhau eu trydedd albwm Equally Cursed and Blessed, nad oedd yn fy marn i mor drawiadol ag International Velvet.

Ymladdodd yn ffyrnig i'w ryddhau ei hun.

Ar ôl ei ryddhau gwnaeth ymdrech fwy i fod yn onest a llwyddodd i gadw allan o ffordd yr heddlu.

Teimlai nad oedd arno awydd dod yn agos ati, a phetai hi'n ceisio cydio yn ei law, fe fyddai'n gwneud esgus i'w ryddhau ei hun o'i gafael.

Daeth Dyff i'r cwm yn 1993 wedi iddo gael ei ryddhau o'r carchar.

Enghraifft o'r gwrthdaro hwn oedd ymgyrch y merched, a oedd yn rhan o'r ysbryd gwrthryfelgar a ysgubai drwy Ewrop, y chwyldro i ryddhau cymdeithas o afael hualau gormesol y gorffennol.

Bu rhai ysgolheigion yn barod i haeru mai Selot, cenedlaetholwr Iddewig, oedd Iesu, a'i fod yn barod, yn enwedig tua diwedd ei weinidogaeth, i ddefnyddio nerth braich a chyllell i ryddhau ei wlad o afael Rhufain.

Doeddwn i ddim yn mynd i godi o'r gadair fach yr eisteddwn ynddi er iddi wneud ei gorau glas i ryddhau fy nwylo oddi ar y breichiau.

Ar brydiau, pan oedd y stêm yn isel, fe stolid (atal), y peirianwaith, gan ddal platen yn dynn yn y rowls, ac ni ellid ailddechrau'r peirianwaith heb ryddhau'r pinnau a ddaliai'r blaten yn y rowls.

Yn ôl yr hogyn lleiaf acw, sydd at ei fogail mewn prosiect TGAU ar y pwnc, mae siocled yn cynnwys cemeg o'r enw Phenylethylamine sydd yr un ag y mae'r ymennydd yn ei ryddhau yn naturiol pan yda ni'n syrthio mewn cariad.

Un yn cael ei gynnal gan Fenter Iaith Dinbych Conwy, oedd hefyd yn gyfrifol am ryddhau y cd Planed Paned, ar llall gan Cerdd Gymunedol Cymru.

Wedi dweud hynny, mae Gogz wedi llwyddo i ryddhau EP eleni, ac erbyn hyn mae Vanta'n barod i ryddhau CD hefyd.

Efallai y cei dy ryddhau ar ôl iddynt sugno'r maeth o'th gorff, ond yn sicr nid cyn hynny.

Mae Geraint hefyd yn awyddus i ehangur label ac i gynnig cymorth i grwpiau eraill i ryddhau deunydd ar y label.

A hynny er eu amharodrwydd i'w ryddhau ai werth sylweddol - yn ôl y swm yswiriant yr oeddent yn mynnu y byddai Cymru yn ei sicrhau.

'Mae'n dweud fan hyn fy mod i wedi'i restio fo droeon am sawl trosedd ac nad wyf i'w ryddhau dros fy nghrogi.

Mae'r grwp, sy'n hanu o Lanberis, wedi ffurfio ers rhai blynyddoedd bellach ond dyma'r gwir gynnyrch cyntaf iddyn nhw ryddhau.

Os na chaiff Croft ei ddewis mae Morgannwg yn gobeithio y bydd yn cael ei ryddhau mewn pryd i charae iddyn nhw yn y gêm yn erbyn Sir Gaerhirfryn sy'n dechrau yfory.

Bydd Robinson yn cael ei ryddhau o'i ddyletswyddau gyda Chaerfaddon ac yn ymuno â charfan Lloegr yn Ne Affrica.

Ac wele, ymhen amser, daeth y grym trydan i ryddhau'r mulod o'u baich beunyddiol, a pherchnogion y trenau a werthodd y mulod am hyn a hyn o arian.

Coeliwch neu beidio ond mae hi dros flwyddyn ers i Gwacamoli ryddhau yr EP Topsy Turvy, a hynny ar label Crai wrth gwrs.

Fel pe bai wedi ei ryddhau am ychydig o hualau'r drefn Sofietaidd byddai Mr Gorbachev yn gwneud yn fawr o'i gyfle i draethu gerbron torf enfawr o ohebwyr.

Fedrwn ni ond diolch i griw label RASP am ryddhau Pedair Stori Fer gan gefnogi grwp ifanc arall yn y broses, a hynny yn dilyn llwyddiant EPs gan Yr Anhygoel, Cacamwci a llawer mwy.

Er mai grwpiau indie a geir gan amlaf, fel Zabrinski a Derrero, yr ail artist i ryddhau sengl oedd MC Mabon sy'n golygu fod cerddoriaeth hip-hop hefyd yn rhan o agenda Boobytrap.

Mae ryddhau cerddoriaeth dawns yn gyson yn rhan o'r un genhadaeth - atgoffa cynulleidfa y tu hwnt i Glawdd Offa, a thramor, am fodolaeth Cymru a'r Gymraeg.

Merry Go Roundydy enw albym newydd Maharishi a'r cynnyrch wedi'i ryddhau ar label Gwynfryn.

Byddant hefyd yn chwarae gigs i hyrwyddor CD ar ôl ei ryddhau.

A hefyd, gan ei fod wedi blino ar fyw heb ennill ei damaid fel myfyriwr, mae Comiwnyddiaeth hefyd yn fodd i'w ryddhau o'i waith ymchwil a dychwelyd i'w ardal i weithio ar y ffordd.

Yr unig ffordd i ryddhau'r pinnau oedd trwy ddefnyddio'r allwedd fawr.

Unwaith fe ddaliodd leidr oedd am dorri i mewn i garej y tŷ drwy gau'i safn am ei fraich a dal ei afael nes i dad Rolant ddod i ryddhau'r dyn.

Cafodd un o'r troseddwyr ei ryddhau o'r carchar cyn y Sulgwyn eleni.

Yn lle torri darnau o'r tâp a'u gosod wrth ei gilydd yn y drefn derfynol - fel y byddai'n rhaid gwneud gyda ffilm sine neu dâp awdio ar gyfer darlledu radio - caiff pob dilyniant ei drosglwyddo o'r tâp gwreiddiol i'r tâp terfynol, gan ryddhau'r tâp gwreiddiol i'w ail-ddefnyddio.

Ac er gwybodaeth, dyma'r cynnyrch cyntaf i ymddangos ar Placid Casual – label Super Furry Animals – ers i Gruff Rhys a'r criw ryddhau Mwng union flwyddyn yn ôl.

'Gwranda di yma, Dei Neith, ysbi%wr i ba giang wyt ti'r cythrel bach?' Dychrynodd Dei am ei fywyd a cheisiodd ei ryddhau ei hun o grafangau Bilo.

Cyhoeddodd y Barnwr Gweinyddol y dylid, yn wyneb y ffeithiau newydd a ddaethai i'r amlwg oddi ar ei dreial, ryddhau Lewis ar unwaith, gan ddileu'r gollfarn arno.

'Pryd wyt ti'n mynd i ryddhau fy nghariad...

Mi wnaethom ni ryddhau sengl a record hir gan y grŵp y flwyddyn honno.