Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ryddid

ryddid

Ac eto, tra bo pobl gwledydd y Baltig yn ystwyrian a phleidleisio tros ryddid, y mae mwyafrif pobl Cymru'n dotio cael eu sarhau a'u sathru.

Ymateb Cymdeithas yr Iaith -- Codi baner ac ymgyrch newydd dros Ryddid i Gymru mewn Addysg -- trefn Gymreig annibynnol na ellid eu chwalu dim mwy.

Democratiaeth, neu ymladd dros ryddid, oedd yr achos hwnnw.

A phan ddirywiodd ei iechyd, roedd bron yn gymaint o boen, hyd yn oed i'r 'nhw', â brad y siopwr o Brifweinidog a werthodd ryddid Tsecoslofacia am ddarn o bapur diwerth.

"Roedd fy nhad gyda'i anffurfioldeb arferol yn dymuno i mi atgoffa Miss Davies fod perffaith ryddid iddi ddod â ffrindiau neu deulu i aros yn y fflat unrhyw adeg, ond os bydd rhywun yn dod yno i fyw ar sail fwy parhaol, efallai y byddai hi garediced â gadael iddo fo gael gwybod er mwyn iddo gael trefnu ynglŷn â'r rhent.

Eu cred oedd y gallai gwyddoniaeth sicrhau gwir ryddid i'r dyn modern a'i ryddhau o lyffetheiriau ofergoel a chredoau gormesol yr eglwysi.

Nes i Sajudis ddechrau ymgyrchu am ryddid, doedd hi ddim wedi ymwneud â gwleidyddiaeth; economegydd amaethyddol oedd hi a fu'n astudio ym Mhrifysgol Manceinion.

Nid heddychwr mo Saunders Lewis ond gwelai'n eglur, yng ngoleuni ei egwyddorion ei hun, nad oedd nac ymarferol na chyfiawn i frwydro'n arfog dros ryddid ei genedl.

O dan yr ymagweddu hwn ceid cronfa o ragrith siofenistaidd a ganiatâi ryddid, os nad penrhyddid, i ddynion, ond a gollfarnai'n chwyrn a diarbed unrhyw ferch, boed honno'n briod neu beidio, a hawliai'r un rhyddid iddi'i hun, neu a syrthiai'n ysglyfaeth i ysfa rywiol dyn.

Gweithredodd y Gymdeithas dros ryddid Hydref 1996 Rali fawr o dros 1,000 o bobl tu allan i'r Swyddfa Gymreig gyda Pharti Ffarwél i'r Torïaid a Gorymdaith dros Ryddid trwy strydoedd y Brifddinas.

Cynnig gan y Grwp Addysg yn condemio Rod Richards am wrthod hyd yn oed i dderbyn y ddeiseb yn galw am Ryddid i Gymru mewn Addysg.

Hwyrach bod miloedd o bobl Dwyrain Berlin wedi bod yn dyheu am gael mynd i ryddid Gorllewin Berlin - ond fe fuasen nhw wedi cael eu lladd yn syth pe baen nhw wedi ceisio croesi'r wal.

Daw'r diwrnod i ben gyda sesiwn 'Rantio Dros Ryddid' gyda'r beirdd Iwan Llwyd, Geraint Lovgreen ac Ifor ap Glyn.

Clywn hefyd am y 'Galileaid' a garai ryddid, yn ôl Josephus, ac na fynnent barchu neb ond Duw fel eu Harglwydd.

Yr hyn sy'n hanfodol i fywyd cyflawn pobl a chenhedloedd yw rhyddid, digon o ryddid iddynt fyw eu bywyd eu hunain, iddynt fod yn gyfrifol am eu bywyd eu hunain.

Ac eto, aeth y Llywodraeth Dorïaidd ati i gymryd i ffwrdd yr ychydig ryddid a oedd gan bobl Cymru gan danseilio Cynghorau Lleol Cymru, Undebau Llafur, Y Pwyllgor Datblygu Addysg Gymraeg -- pawb a allai eu gwrthwynebu.

Daeth yn amlwg fod nifer o Gymry Cymraeg yn barod i gydweithio â'r Torïaid -- dim ond iddyn nhw gael arian i gynnal Sianel Gymraeg, y Steddfod, rhywfaint o ysgolion Cymraeg a'r Quango ei hunain, doedd dim ots am ryddid i Gymru a bywyd i'w chymunedau lleol.

Ond yn fuan iawn mae Dafydd yn darganfod fod pris i'w dalu am ei ryddid ac er mwyn ennill arian i fyw mae'n ymuno â chriw o rent-boys, gan werthu ei gorff i unrhywun sy'n barod i dalu.

Ac yntau'n Rhyddfrydwr o argyhoeddiad, roedd ganddo ddiddordeb byw yn achos y bobl dduon - y Niggers chwedl ef - ac yn y frwydr tros ryddid iddyn nhw.

Mae'n rhaid i'r cyfleus-dodau ac i gwmnïau preifat yn gyffredinol ildio i alwadau pobl Cymru am ryddid.

Wrth gwrs, nid oedd dim yn newydd yn y defnydd a wnaed o'r Ymofynnydd i amddiffyn safbwynt pan y'i heriwyd, nac yn ei ryddid i eraill ei ddefnyddio at yr un pwrpas; yn wir, ni allaf feddwl am un enghraifft pan wrthodwyd cyfle teg i ohebydd ddweud ei farn ar dudalennau'r cylchgrawn, boed y farn honno'n gam neu'n gymwys yng ngolwg y mudiad a'r golygydd.

Beth am ryddid, anfarwoldeb yr enaid, daioni, a Duw?

Ond maent yn dewis anwybyddu brwydr pawb arall am ryddid neu degwch.

Rhoes llyfr fel Rebecca Riots (David Williams) gyfle iddo dynnu sylw at gyfraniad Thomas Emlyn Thomas, y gweinidog Undodaidd o Gribyn, a'r gŵr a fu'n 'rebel dros ryddid y werin'.

Yma y cai Elisabeth gyfle i hel atgofion a breuddwydio ac i fwynhau ychydig o ryddid oddi wrth y dyletswyddau teuluol oedd wedi dod yn rhan o'i bywyd ers claddu ei thad, yr yswain Richard Games.

Iawn, mae'n hollol amlwg ers tro byd bod Dafydd Êl wedi hen flino ar 'frwydr yr iaith'. Brwydrau pobl eraill ar draws y byd dros ryddid a chyfiawnder -- dim problem; rhaid yn wir iddo ddangos cefnogaeth (darllener ei genadaethau eangfrydig a thrawswladol yn ei golofn wythnosol yn yr Herald Gymraeg). Ond, jyst am fod Dafydd Êl wedi penderfynu ei fod am optio allan o'r broses drafferthus honno o greu trefn newydd yng Nghymru a 'hyrwyddo' chwyldro yn hytrach na bocsys te dwyieithog, yna does bosib bod disgwyl i'r gweddill ohonom lyncu gweledigaethau ffantasïol a thra cyfnewidiol y cyn-gefnogwr streiciau dros hawliau gweithwyr a chym-unedau a symudiadau ymgyrchol/protestgar cyffelyb.

Fel Cadeirydd y Pwyllgor Democratiaeth, bu Alun Llwyd yn siarad yn y Cyfarfod Cyffredinol am weledigaeth Cymdeithas yr Iaith o Ryddid i Gymru.

Ni bydd byw y Gymraeg oni enillwn ni Ryddid i Gymru.

Maent yn gwybod mwy am ryddid gan iddynt ei gael beth amser yn ôl.

Dyma araith Branwen Nicholas i Ynadon Abergele yn yr achos llys a ddilynodd ym mis Tachwedd, lle mae'n esbonio ei rhesymau hi dros ymgyrchu gyda Chymdeithas yr Iaith dros Ryddid i Gymru Mewn Addysg.

(d) Mae rhai pethau na ddaw arweiniad arbennig ynglŷn â hwy :-'does yna ddim llwybr iawn nac anghywir - mae cynllun Duw yn rhoi mesur o ryddid o'i fewn.

I'n cenhedlaeth ni yng Nghymru, sy'n rhoi bri ar ryddid pobl i wneud fel y mynnont mewn materion moesol, y mae bron y tu hwnt i ddirnadaeth sut y gallai corff o bobol fabwysiadu'n wirfoddol gyfundrefn sy'n ymddangos i ni'n orthrymus.

Adeiladu ymwybyddiaeth o Ryddid i Gymru mewn Addysg. Cylchgrawn 'Rhyddid' -- heb lwyddo i'w gyhoeddi.

mae rhyddid i bobl addoli elvis presley os ydyn nhw'n moyn, neu ryddid iddyn nhw addoli eliffantod pinc sy'n hedfan o gwmpas yr wyddfa os ydyn nhw'n moyn, dim ond iddyn nhw beidio â gwthio'r peth arna i, a pheidio â gweiddi cabledd os bydda i'n digwydd chwerthin am ben eu ffolineb.

Credwn bod sicrhau mwy o ryddid i gyfnewid syniadau rhwng addysg a busnes yn datblygu amgenach dealltwriaeth rhwng y ddau faes ac yn foddion i adeiladu partneriaethau llwyddiannus.

Wedi'r cyfan, oni bai amdanynt, buasai Tawelwch a Rhwystredigaeth a They%rnedd wedi parhau'n hwy, ac er bod i Ryddid Barn ganlyniadau annymunol weithiau y mae o raid yn well na sensoriaeth.

Fe fyddai yntau'n sôn am ryddid, ond nid eu rhyddid hwy eu dau a fynnai ef ond rhyddid i'r Cymry wneud yr hyn a fynnent â'u treftadaeth; yr oeddent hwy eu dau yn Gymry, a pha fath o dreftadaeth oedd ganddynt?

Hyrwyddai ryddid ymhob man.

Roedd Bethlehem yn anhrefn llwyr wrth i bobl fanteisio ar eu hychydig oriau o ryddid: y strydoedd cul dan eu sang o bobl, mulod a cherbydau yn rhuthro i bob cyfeiriad.

ryddid y rhyddhaodd Crist ni% Gal.

Aeth y Torïaid ati i dynnu i ffwrdd yr ychydig ryddid oedd gan bobl Cymru.

Yn wir, fe welodd ef lifeiriant datblygiad i raddau uwch na neb arall; a phan gofiom mai dangos dyn yn ymgyrraedd at dynerwch uwch ac at ryddid cydwybod a wna stori datblygiad, gallwn sylweddoli mai cynorthwy i grefydd ac nid gelyn, ydyw'r gred mewn Datblygiad ...

Os edrychir yn haniaethol ar 'bethau byw', gwelir bod eu cymeriadaeth yn dibynnu ar faint o ryddid sydd gan unrhyw organeb i ddewis a dethol rhwng posibiliadau gwahanol.