Fel y gwelwch chi mae ffaith a ffuglen, yn ogystal â'r hyn a ddigwyddodd gynt a'r hyn sy'n digwydd nawr, wedi cael eu cydblethu yn y stori ryfedd ac enwog hon.
'Pa ryfedd', meddai Wiliam Llŷn am ddisgynyddiaeth hynod un o'i noddwyr, 'fod y profiad, ag urddas Duw, yn gwreiddio stad'.
Mae nofel olaf Hiraethog yn gymysgedd ryfedd o'r hen a'r newydd, y cryf a'r gwan.
Ti yw'r un a garodd fwyaf erioed ac mae'n dal i'th garu yn ei ffordd ryfedd.
Pa ryfedd i Ddwynwen hoffi'r lle, ni ellid cael amgenach hafan i encilio a myfyrio.
Drannoeth ar ôl glanio yn Dubai, daeth Salim ataf gan ddweud wrthyf ei fod am ddangos golygfa ryfedd imi.
Craff a gofalus yr arddangosodd y beirniad hwn, sut bynnag, mai yn y gyfres ryfedd hon o sonedau 'y ceir y mynegiad mwyaf trwyadl a brawychus yn Gymraeg o thema'r briodas rhwng serch ac angau.'
Teimlent yn siŵr bod rhywbeth yn mynd i ddigwydd ac na fyddai yn rhaid iddynt aros yn hir cyn gweld yr ymwelydd dieithr yn dod ar ei neges ryfedd a dirgel at y ffynnon.
A thra byddai un yn gweddio ar ei liniau, yr oedd pawb yn gweddio a'r lle yn llawn o 'Amen' ac 'Ie, ie!', yr hyn oedd yn swnio yn hynod o ryfedd i ni ar ôl cyfnod mor fawr o ddistawrwydd a chysgadrwydd gydag achos lesu Grist.
Ni theimlodd fyth mor gas tuag at y Doctor ar ôl y freuddwyd ryfedd honno.
Trwy ryw ryfedd wyrth, ni anafawyd ef ond dyna diwedd ar arbrawf arall i ysgafnhau baich ffermwyr ucheldir Ceredigion!
Mewn dosbarth nos yn Llanfairynghornwy, Môn, y clywais i gynta am y broffwydoliaeth ryfedd honno a oedd yn darogan diwedd y byd yn 'un naw naw un'.
Pa ryfedd, a minnau wedi fy magu yn y Blaenau yng nghanol creigiau a mynyddoedd?
Nid eglurodd Llio y dynfa ryfedd a deimlai at y bedd ac at hanes y gŵr a'r wraig, ond eglurodd nad oeddynt yn perthyn iddi.
Mae'n ffordd ryfedd o dynnu blewyn o drwyn rhywun - ond y ffordd fodern o sarhau rhywun yw gwisgo crys T gydau henw arno.
Tad yn y Mab, Mab yn y Tad, Ac yr un wedd mae'r Ysbryd rhad; Y man bo un y lleill y sy; O ryfedd Fod!
"Dyna ryfedd," meddai Orig, "ond mae'r ddau beth sydd wedi'n cyffroi ni yr wythnos yma yn digwydd yng nghanol nos.
Does ryfedd fod y Gogleddwyr yn ffaelu'n dyall ni.
Roedden nhw mewn gwlad oedd yn hollol estron - y brodorion yn elyniaethus ac yn mynnu siarad eu hiaith ryfedd eu hunain.
Pa ryfedd fod y gerdd yn gorffen trwy ail-lunio'r cwpled elegiaidd a ddefnyddiodd cynt: Ba enaid ŵyr ben y daith?- Boed anwybod yn obaith!
Ni allai Ibn gredu'i lygaid, ond trwy rhyw ryfedd wyrth roedd wedi cadw'i arian yn ddiogel.
Gorau oll, yn fy marn i, oherwydd ni fwriadwyd inni fedru trin a thrafod y Bydysawd drwyddo draw, ond yn hytrach ryfeddu a ryfeddu at ei holl ogoniant a'i ryfedd ffyrdd.
A wedyn dwad yn ôl i'r cnebrwng.' Yn ei ffordd ryfedd ei hunan, roedd y meddyg wedi cyhoeddi'r ddedfryd derfynol ar gyflwr Mam.
Pa ryfedd y gelwir y pysgodyn yn Lady of the Stream gan y Sais?
er bod ei farn am gymeriad Penri yn anarferol o dirion - ar wahân i'r gred ryfedd fod gwaed Cymry'n boethach na gwaed Saeson!
A pha ryfedd.
Dyna ryfedd!
Nid yw ryfedd yn y byd, felly, ein bod ni sy'n caru Cymru fel Cymru ac sy'n dymuno gweld yr hen ddiwylliant a'r iaith yn ffynnu, yn ystyried y Cymydog Mawr yn fygythiad.
Soniodd Myrddin am daith fodio go ryfedd.
OHERWYDD digwyddiadau cyffrous y noson gofiadwy heno - ei breuddwyd ryfedd, ei phrofiadau unwaith eto o agosrwydd ei thad ac ymdrech Owen Jones druan i fynd at ei Arglwydd - am i'r pethau hyn ei chynhyrfu, bu llythyr Hannah'n ddigalondid ychwanegol.
Doedd ryfedd i'r teulu yma fynd yno i ymofyn cerrig, oherwydd maent yn hannu o deulu Cwrt Isaf, yr oedd y rheiny yn adnabod pob carreg a oedd yn y lle.
A s'gwn i os digwydd i blant y plant acw, ryw ryfedd ddydd a ddaw, ddod o hyd i'r cerrig a hwytha' erbyn hynny wedi eu bwrw'n ddigon anystyriol i ryw gornel lychlyd o atig a holi'n ddryslyd, 'Beth y mae y cerrig hyn yn ei arwyddoca/ u i chi?' A fydd yna rywun ar gael i fedru dweud wrthynt am y fangre lle bu rhai o'u llinach, eto yng ngeiria'r emynydd yr oedd Coffa yn ei goffa/ u:
Roedd hi'n fuddugoliaeth ryfedd gan fod Hann wedi gorfod chwarae yn nhraed ei sanau.
Roedd hi'n noson ryfedd ar Gae'r Vetch neithiwr.
O bryd i'w gilydd meddiennid Elystan â'r meddyliau rhyfeddaf a 'doedd ryfedd i'r Cripil ddannod iddo mai gwastraff amser oedd ei holl
Dyna lle bu system Freud yn gymaint o bandy ac o sgwrfa didrugaredd i'm delfrydau brau Pa ryfedd nad oedd dim o'm carpiau ar ôl wedyn ond ambell gydyn o ridens cyfroda na fyddai fyth mwy yn dda i ddim?) Roedd blwyddyn goleg newydd yn dechrau ym mhen ychydig iawn o wythnosau ar ôl y Cyfarfod Misol hwnnw A'r peth cyntaf bron a wnes wedi cyrraedd Aberystwyth oedd mynd â'm "hymddiswyddiad" (maddeuer y gair ymddiswyddiad!) i Brifathro Coleg Diwinyddol y Methodistiaid Calfinaidd.
A 'doedd ryfedd yn y byd i wefr o falchder redeg trwy wythiennau hogyn bach deg oed pan glywodd o fod ei frawd mawr am wneud berfa iddo fo.
Ni fedrai ond llenor gymysgu mor gyfrwys holl ddysg Ysgol Hanes Rhydychen ad addysg yr Ysgol Sur a blodau ac adar ac arwyr a'r un bersonoliaeth ryfedd yn eu cynnwys oll ac yn ei mynegi ei hun trwyddynt.
Pa ryfedd iddo fynnu imi dorri gair cryfach o lawer allan o raglen a wneuthum ar dâp yng Nghwm Elan ddechrau'r chwedegau.
Does ryfedd, o gofio'r gwaith trwm yma, nad oedd amser nac amynedd gan wragedd cyffredin y cyfnod i ysgrifennu llyfrau am fywyd gwraig yn ystod yr Oesoedd Canol.
'Pa fodd bynnag y dehonglir cystrawen ryfedd llinellau ola'r soned...' yw sylw'r Athro Llywelyn Williams: nid wyf yn bendant sicr beth yw ei anhawster oni lygatynnwyd yr Athro gan y cyd-destun i dybied mai 'cenir' a oedd yma, ac nid ffurf 'amhersonol' geni.
Nid oes ryfedd felly bod 'cenedl' a 'brenhiniaeth' (neu 'teyrnas', fel y cyfieithir yr un gair weithiau) yn ymddangos yn gyfochrog yn y Beibl, ac i bob pwrpas yn cael eu defnyddio fel cyfystyron - "chwi a fyddwch i mi yn frenhiniaeth o offeiriaid ac yn genedl sanctaidd" Ymddengys i Israel, o sylwi ar y cenhedloedd oddi amgylch, ganfod eu bod o ran eu trefn gymdeithasol yn deyrnasoedd neu'n freniniaethau, a daeth felly i ystyried meddu brenin fel un o nodau cenedligrwydd.
Ymhlith yr ysgolion enwocaf yr oedd y rheiny yn yr Almaen a'r Iseldiroedd a berthynai i'r urdd grefyddol ryfedd honno, Brodyr y Bywyd Cyfun (...).
Fe eglurwyd y sefyllfa iddo fe, ac fe ddwedwyd wrtho fe nad cael y 'sac' yr oedd e - dim ond 'suspension' nes bydde ni'n siwr nad oedd dim rhyfel i fod." "Yr oedd hi'n sefyllfa ryfedd, Cyrnol, rwyn gallu gweld hynny.
Dim ond dechrau oedd hyn ar gyfeillgarwch go ryfedd.
Ond cymerwn yn ganiataol eich bod nid yn unig yn hanner-pan ond hefyd, drwy ryw ryfedd wyrth, yn Gymro a chanddo'r gallu i dalu am fferm yng Nghymru.
Gadewch imi esbonio yn gyntaf pam y dywedaf mai'r frawddeg hon yw craidd cynllunio iaith, ac yn ail sut y gellid defnyddio'r wybodaeth ryfedd honno i adeiladu cwrs o gwbl.