Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ryfeddu

ryfeddu

Wrth i mi baratoi'r ddarlith hon yr ymateb a gawn, gan y canol oed yn ogystal a'r hen pan soniwn am y testun, oedd 'Fe gefais siglo llaw ag Elfed' neu 'Fe glywais Elfed yn pregethu sawl tro', a'r son wedyn, bron yn ddi-ffael, am y llais swynol i'w ryfeddu a oedd ganddo.

Cofadail yw safle Dorothea bellach i ddiwydiant llechi a fu unwaith yn llewyrchus, cofadail ddigon arswydus sy'n anesmwytho dyn ac yn gwneud iddo ryfeddu ar yr un pryd.

Ac yn peri i minnau feddwl; nid yn unig i lawer iawn mwy na Saith Seithug Mr Hague fod yn gwyntor mygau melys ond i ryfeddu fod yr effaith yn para cyhyd.

Cafwyd goliau di-ri, sgiliau i ryfeddu arnyn nhw a Ffrainc yn fuddugol yn y diwedd 2 - 1 yn erbyn yr Eidal ar Reol y Gôl Aur wedi amser ychwanegol.

Roedd llygaid Bedwyr yn agored led y pen wrth iddo ryfeddu at y golygfeydd anghyfarwydd.

Gorau oll, yn fy marn i, oherwydd ni fwriadwyd inni fedru trin a thrafod y Bydysawd drwyddo draw, ond yn hytrach ryfeddu a ryfeddu at ei holl ogoniant a'i ryfedd ffyrdd.

Ac ni flinai ryfeddu at wyrth yr Ymgnawdoliad - Duw yn y cnawd.

Syllu allan trwy'r ffenestr yr oedd, gan ryfeddu at yr olygfa draw o'r Betws Fawr, y Graig Goch, yr Wyddfa a Moel Hebog.

Ni ellid ymddiried mewn lleygwr, hyd yn oed pe medrai'r iaith Ladin - a pheth prin i'w ryfeddu oedd hynny, i fyfyrio arno a'i ddehongli drosto'i hun.

Yn ogystal â swmp, mae cywreinrwydd a gwychder y straeon byrion yn rhywbeth i ryfeddu ato.

Y golau oedd y peth cyntaf, a hwnnw yn ddigon i beri i ambell un ryfeddu ato weddill ei ddyddiau.

Plygwn ger dy fron, y Creawdwr hollalluog, gan ryfeddu at dy nerth a'th ddoethineb.

Ni wn i, ond byddaf yn pensynnu rhywfaint ac yn cael amheuon ar y mater wrth weld yr olwg arallfydol yn llygaid ambell estate agent, ac wrth ryfeddu uwchben ar ucheledd dychymyg ei ddisgrifiadau o'r ffermydd sydd ganddo ar werth.

Mae'n bosib i chi gerdded ar hyd y glannau o gwmpas Bro Gþyr gan gael eich hudo i fynd o gwmpas un trwyn, i mewn i fae arall, ac yn y blaen tan i chi gerdded milltiroedd heb sylweddoli wrth ryfeddu at yr holl greigiau diddorol.