Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

rymus

rymus

Gan mor rymus yw arferion cymdeithasol a gallu'r dosbarth breiniol i ddylanwadu ar y sawl a dybiant sy'n isradd iddynt, derbyniodd y Cymry Cymraeg y drefn hon heb fawr brotest.

ond yn gyffredinol mae crefydd yn cael digon o gefnogaeth ac mae na ddigon o bobl rymus iawn i amddiffyn crefydd, ac mae'n cael digon o bropaganda sy'n ei ffafrio.

Mae'r pamffledyn yn ddarn syfrdanol o feddwl hanesyddol a phroffwydol, a hwnnw wedi ei fynegi mewn rhyddiaith rymus, baradocsaidd yn aml.

Nodwedd arall a berthynai i'w gymeriad a'i gynnyrch oedd cadernid a phendantrwydd, a hyn a wnaeth ei olygyddiaeth, fel ei weinidogaeth, yn rymus ac effeithiol.

Hawdd canfod, fellym y gallai'r blynyddoedd hyn fel ffoadur mewn gwlad bell fod wedi cryfhau'n rymus y dylanwadau blaenorol hynny a droes Richard Davies yn Ddiwygiwr eiddgar.

Datblygodd gwyr rygbi Lloegr yn uned rymus tu hwnt gydau blaenwyr aruthrol o bwerus.

cyfnodolyn y gymdeithas oedd herald of peace ac ysgrifennai henry richard yn rymus a threiddgar iawn ynddo o blaid heddwch.

Yr oedd Nantlais yn pregethu'n rymus iawn, a byddai'r capeli'n llawn.

Cerdd vers libre cynganeddol oedd pryddest fuddugol 1950 hefyd, ac mae'n gerdd rymus iawn mewn mannau.

Brwydr gymdeithasol a gwleidyddol oedd y Rhyfel Degwm, a chynigiai bwnc gwirioneddol rymus i nofelydd Cymraeg fynd i'r afael ag ef.

Yn wir, roedd yn anodd inni anwybyddu'r ddau yna, gan eu bod yn sgrifennu mor rymus a threiddgar am y Gymru Gymraeg.

Darlunnir Efnysien yn rymus hefyd, gŵr a lywodraethir yn llwyr gan y syniad hwn o anrhydedd personol sy'n troi mor hawdd yn falchder eithafol.

Pryddest rymus Caradog Prichard ar hunanladdiad oedd y gerdd orau yn y gystadleuaeth, ond barnwyd ei bod yn annhestunol, a gwrthodwyd ei choroni o'r herwydd.

Eisteddant blwc ar eu traed ôl gan ddefnyddio'u pawennau a'u traed blaen i ymladd â'i gilydd yn union fel pe'n paffio, ac yn wir y mae ganddynt ergyd rymus iawn.

Drama fydryddol rymus iawn ei dychan mewn mannau.

Yr oedd yr awdl rymus hon yn sugno maeth ac ysbrydoliaeth o'r gorffennol, i'n hatgyfnerthu ar gyfer y blynyddoedd tywyll o'n blaenau.

'Ol-nodiad' yw'r bregeth rymus hon ond ceir broliant yr un mor huawdl mewn pennod ragarweiniol i'r nofel lle traethir am amryfal ddylanwadau drwg 'cam'r nos'.

Daeth Dylan Phillips ac Arwel Jones i Gaernarfon i draddodi darlith rymus ym mis Mehefin, ac yn wir roedd ffigyrau Dylan a'i ddadansoddiad yn ddigon i godi'r felan ar unrhyw un.

Cytundeb tebyg a adlewyrchir mewn llinell megis 'Dau fonedd a dwf uniawn' a'r llinell rymus honno am y ddau o fewn eu plasty 'yn porthi holl Gymru'.

Y mae'n codi'r cwestiwn hefyd tybed beth a fyddai cyflwr y Gymraeg yng nghymoedd glo y de pe byddai llenorion y gorffennol wedi llwyddo i greu llenyddiaeth rymus, berthnasol i'w byd.

Mae is-ddiwylliant yr ifanc yn eithriadol o gyfoethog a deniadol, ac felly'n rymus.

Yn bedwerydd, dyma'r cyfnod pryd y daeth Davies i gysylltiad agos â dynion a fyddai'n rymus iawn mewn byd ac eglwys yn ystod teyrnasiad Elisabeth.

Nid ple yw hyn dros fynd yn ol i'r hen amser yn gymaint a rhyfeddu mor rymus o nobl y cerddodd y canrifoedd rhagddynt, a hynny heb un arlliw o dechnoleg ein blynyddoedd esmwyth ni.

I ddangos anallu'r eglwys i ddiwallu anghenion ysbrydol y bobl fe godwyd capeli heb fod ymhell, ac y mae cofnodion y rheiny, er yn brin, yn profi mor rymus fu'r profiadau.