Y sgwâr neu'r Rynek yn y canol yw calon y ddinas - y sgwâr mwyaf o'i fath yn Ewrop ac un sy'n frith o esiamplau o bensaerni%aeth orau'r canrifoedd, o'r oesoedd canol hyd at ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Lle gwych i gyflwyno rhaglen radio yw'r 'Rynek' enfawr - digon o gyfle i ddal sain cefndir prysurdeb y farchnad, clip-clop y ceffylau, y bandiau jazz a'r bandiau sipsi sy'n diddanu'r torfeydd bob Sadwrn.