Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

rywbryd

rywbryd

Ond yn y cyfamser, i roi halen ar y briw, bydd gwrandawiadau yn erbyn Moore a Jenkins yn digwydd rywbryd yn ystod yr wythnos hon.

Diflannodd y Coraniaid yn y man ond cadwodd Lludd ychydig o'r ffolliaid yn fyw, rhag ofn i'r Coraniaid ddychwelyd rywbryd eto.

Ar amrantiad rywbryd ar ddarn o bapur yn rhywle, digartrefwyd ardal gyfan.

Roedd gan yr hogiau lenni du bits ar eu ffenest: syniad gwych Dad oedd yn bwriadu defnyddio'u llofft yn stafell dywyll i ddatblygu lluniau rywbryd, ymhen tuag ugain mlynedd, ar ôl iddyn nhw adael cartre.

Y mae'n bosibl ei bod wedi trigo mewn cell meudwy ar Ynys Llanddwyn, Sir Fôn, rywbryd yn y bumed neu'r chweched ganrif.

Ond mae'n debyg y bydd raid iddo fo gael gwraig rywbryd.

'Ond rwyn gwbod bod e'n moyn dod 'nôl i Gymru rywbryd.

Nid yw'r ystadegau'n cynnwys y rhai a fu rywbryd yn ystod eu hoes ynddynt ond a oeddent wedi cefnu.

Ond fe gadwodd hyn fi i fynd nes cyrraedd stesion Caerliwelydd (Carlisk) rywbryd yng nghanol y nos.

Ganed Richard Davies rywbryd yn ystod deng mlynedd cyntaf yr unfed ganrif ar bymtheg - ni allwn fod yn fwy pendant na hynny, gwaetha'r modd.

Ond rywbryd cefnodd ar Gymru, a gwyddwn - drwyr codwr pwysau Myrddin John - ei fod mewn swydd dda rywle yn nwyrain Lloegr.

Rywbryd yn ystod y Saboth digwyddodd daro ar y ffordd fawr â Mr Jones y Person, a ddywedodd wrtho: `Cofia di, Harri, ddod hefo ni fory i godi llwynog, a gobeithio'r nefoedd y cawn ni ddiwrnod braf.' `Trystiwch chi fi y byddaf yno,' ebe Harri.

Fe allem gael sioc rywbryd o sylweddoli fod yna neges oddi wrth Dduw yn dod o siwt annisgwyl o fodern.

Tir, dwr, consgripsiwn, radio, teledu, symud poblogaeth, mewnfudo, diweithdra, iaith ac addysg - prin bod agwedd ar fywyd y genedl na bu'n faes brwydro rywbryd neu'i gilydd yn ystod yr hanner canrif diwethaf.

Ym maes gynaecoleg deallaf fod y tebygrwydd y bydd gwraig yn cael hysterectomi rywbryd yn ystod ei hoes yn dibynnu mwy ar incwm ei gŵr nag ar unrhyw ffactor amlwg arall.

Rhaid ei bod hi wedi syrthio i gysgu rywbryd, a deffrodd yn hwyrach nag arfer, ei phen fel meipen a'i cheg fel cwter.

Mae'n debyg fod pob copa walltog ohonom wedi gorfod benthyca ceiniog neu ddwy rywbryd yn ystod ein hoes ar gyfer rhyw ddiben neu'i gilydd.

Datblygodd y ddameg hon eto gan ragweld rhywrai yn ei feirniadu, a 'thaflu'r ffefryn i'r pydew am iddo fentro rhoi côt gostus yn ôl iddo, eithr, 'pwy a ŵyr, fe all y "Joseff" hwn rywbryd dalu'n ôl ar ei ganfed pan fo dlawd arnom'.

Erbyn hyn, prin y ceir unrhyw adran o waith nad ydyw rywbryd neu'i gilydd wedi codi'r erfyn hwn, ac anelu o leiaf, beth bynnag am danio.

Mae disgwyl iddo fe gyflwyno ei benderfyniad newydd ar y mater rywbryd yn nes ymlaen heddiw.

Mae'n edrych yn debygol iawn y bydd Lloegr yn ennill y gêm rywbryd yn ystod yfory.

Cyn iddynt ei gyrraedd galwodd Williams arno, 'Cei glywed diwedd y stori rywbryd 'to.' 'Edrych mla'n,' meddai gan agor y drws a gadael y gwynt oer i mewn i'r orsaf.