Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

rywdro

rywdro

Rywdro ar ôl canol y pedwardegau y deuthum i yn aelod o bwyllgor gwaith y Ffederasiwn.

Wyt ti wedi mygio rhywun rywdro?'

Ond pan ddiffoddodd y golau rywdro'n ystod y gyda'r-nos roedd o yn un pen i'r stafell a hithau'n y pen arall.

'Wyt ti wedi cael merch rywdro?' Llyncodd Dei ei boer drachefn er bod ei geg yn sych.

Cafodd ei saethu yn ei ben-glin mewn ymrafael gyda'r heddlu rywdro, a byth er hynny mae'n cerdded gyda herc.

Fuoch chi mewn 'aduniad' ysgol rywdro?

Fu ganddi hi erioed 'gariad' fel y bu gan y rhan fwyaf ohonom ni yn ein tro; ac fe glywais un o'r hogiau'n dweud rywdro, pan oedd rhywun yn ei herian.

Pe baem ni'n bod yn gwbl onest, mae'n debyg fod pob un ohonom wedi melltithio carafanau rywdro neu'i gilydd.

Roedd pawb wedi clywed am rywle arall yng nghefn gwlad Groeg a ddioddefodd ar draul rhyw fyddin neu'i gilydd rywdro yn ei hanes.

Wrth sbio ar ei choesau hirion daeth i'w feddwl bwt o hen gân werin yr arestiodd o rywun am ei chanu rywdro:

Mae'n siŵr i'r mwyafrif ohonom gael ein ceryddu rywdro neu'i gilydd am ymollwng i ddagrau þ 'Paid â bod yn fabi.

Ond gadewais y mater pan wedi ysgrifennu yr ychydig a ganlyn' Rhaid fod OM Edwards neu rywun arall wedi gyrru'r llyfr cofnodion cyntaf i Syr John Rhys rywdro, oblegid ar ôl iddo ef farw fe roddodd ei ferch, Miss M.

Awn i'r gwely mor gynnar ag y gallwn, rywdro rhwng wyth a naw, ac yna tuag un yn y bore, cyn iddo fynd i glwydo ei hun, deuai plismon y pentref a churo'n ysgafn ar ffenestr y gweithdy i'm deffro.

Meddai awdur anhysbys o Ddinas Mawddwy mewn traethawd 'Adgofion Bore Oes', a sgrifennwyd rywdro yn y ganrif ddiwethaf: 'Yr oedd llawer o hen arferion darostyngol a fygent bob teimlad o rinwedd a moesoldeb ac a brofent yn felldith i'r ardaloedd yma.